Dr Catherine G. O'Hanlon

Darlithydd, Seicoleg Ddatblygiadol a Niwroddatblygiadol
Ph.D. (Essex), BSc Anrhydedd (Essex), C.Psychol Photograph of Dr Catherine G. O'Hanlon.

Cyswllt

Ebost: cao15@aber.ac.uk
Swyddfa: Penbryn 5, Ystafell 0.14
Rhif Ffon: +44 (0)1970 62 8764

Cyfrifoldebau

Tiwtor Blwyddyn 1

Cyfarwyddwr Derbyn Israddedigion

Aelod o Bwyllgor Moeseg Seicoleg

Dysgu

Prif ddiddordebau dysgu Dr O'Hanlon yw Seicoleg Ddatblygiadol / Datblygiad Rhychwant Oes; Gwahaniaethau Unigol, a Chaffael Iaith Gyntaf. Mae hi hefyd yn gynullydd modiwl ar gyfer Individual Differences & Lifespan Development (PS20520); Psychology Critical Review (PS31520), ac mae hi’n cyfrannu at fodiwl traethawd estynedig Seicoleg ar gyfer myfyrwyr anrhydedd sengl a chyfun (PS33140 a PS34140).

Ymchwil

Prif ddiddordebau ymchwil Dr O'Hanlon yw dysgu a datblygiad mewn plant bach a phlant mwy sydd ag anhwylderau datblygiadol a phlant bach a phlant mwy nad oes ganddynt anhwylderau datblygiadol, yn arbennig o ran iaith a gwybyddiaeth gymdeithasol. Ond, mae hi hefyd yn arbenigo mewn canfyddiad sain ar lefel y cochlea yn y glust fewnol.

Bywgraffiad

Cwblhaodd Catherine O’Hanlon ei PhD mewn Seicoleg Arbrofol, Ddatblygiadol ym Mhrifysgol Essex ym mis Mai 2006. Cafodd ei phenodi’n Ddarlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Newcastle ym mis Awst 2006, lle bu’n gweithio am bum mlynedd, i ddechrau yn yr Adran Seicoleg (2006-2007), ac yna yn y Sefydliad Niwrowyddoniaeth (2007-2011). Ymunodd Catherine â’r Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mawrth 2012.

Cyhoeddiadau

Plack, C.J., Oxenham, A.J., Simonson, A., O’Hanlon, C.G., Drga, V., Arifianto, D. (2008). Estimates of compression at low and high frequencies using masking additivity in normal and impaired ears. Journal of the Acoustical Society of America, 123 (6), 4321-4330.

O’Hanlon, C.G., a Roberson, D. (2007). What constrains the learning of shape terms? Journal of Experimental Child Psychology, 97, 138-148.

O’Hanlon, C.G., a Roberson, D. (2006). Learning in context: Attentional and linguistic constraints on children’s color term learning. Journal of Experimental Child Psychology, 94, 274-300

Roberson, D., ac O’Hanlon, C.G. (2005). How Culture might constrain colour categories. Behavioral and Brain Sciences, 28, 505-506.

Plack, C.J., ac O’Hanlon, C.G. (2003). Forward masking additivity and auditory compression at low and high frequencies. Journal of the Association for Research in Otolaryngology, 4, 405-415.

Penodau mewn Llyfrau

Plack, C.J., O’Hanlon, C.G., a Drga, V. (2005). Additivity of masking and auditory compression. Yn D. Pressnitzer, A. de Cheveigné, S. McAdams, ac L. Collet, Auditory signal processing, Physiology, psychophysics, and models. New York: Springer-Verlag.