Y Weithdrefn Apelio
Doethuriaethau Hyn
- 1.
- Gall ymgeiswyr am radd DLitt, DSc, DSc Econ neu LLD apelio o dan y weithdrefn hon yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Mewnol i beidio ag argymell dyfarnu'r radd y cyflwynodd yr ymgeisydd ei (g)weithiau ar ei chyfer.
- 2.
- Dim ond apeliadau ar un o'r seiliau canlynol neu ar y ddwy ohonynt y mae'r Brifysgol yn fodlon eu hystyried:
- 2.1.
- Diffygion neu afreoleidd-dra wrth gynnal y weithdrefn asesu, gan gynnwys cyfweliad os cynhaliwyd un, sydd o'r cyfryw natur fel ag y bônt yn peri amheuaeth resymol a fyddai'r Pwyllgor Mewnol wedi gwneud yr un penderfyniad pe na baent wedi digwydd.
- 2.2.
- Tystiolaeth o ragfarn neu dueddfryd neu o asesu annigonol ar ran un neu fwy o aelodau'r Pwyllgor Mewnol neu'r canolwyr.
Ni fydd apeliadau sy'n codi amheuaeth ynghylch crebwyll academaidd y Pwyllgor Mewnol neu'r canolwyr yn dderbyniadwy. - 3.
- Rhaid anfon unrhyw apêl, yn llawn ac yn ysgrifenedig, at y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd (cyf: Apeliadau) a rhaid iddi ei gyrraedd/chyrraedd ddim mwy na dau fis ar ôl i'r hysbysiad o'r canlyniad gael ei anfon at yr ymgeisydd. Ni fernir bod hysbysiad syml o apêl a roddir yn ysgrifenedig gan ymgeisydd o fewn y terfyn amser uchod yn gyfystyr ag apêl briodol ac ni chaiff ei dderbyn. Cydnabyddir bod cais am apêl wedi dod i law o fewn tri diwrnod gwaith fel rheol, a rhoddir adroddiad cynnydd ysgrifenedig i'r apelydd o fewn 25 diwrnod gwaith.
- 4.
- Os yw'r Is-Ganghellor neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i* yn penderfynu, wedi archwilio cyflwyniad yr ymgeisydd ac unrhyw dystiolaeth arall ysgrifenedig y gall fod arno/arni ei hangen, bod achos i'w ystyried, bydd ef/hi yn ei gyfeirio at Fwrdd Apeliadau a fydd yn cynnwys tri pherson wedi'u dewis o Banel Sefydlog fel a ganlyn:
- 3 aelod lleyg wedi'u penodi gan y Cyngor
- 4 cynrychiolydd o bob Cyfadran
Bydd hyn fel arfer o fewn tri mis i dderbyn y cais am apêl. - 5.
- Os bydd yr Is-Ganghellor, neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i*, yn penderfynu nad oes achos i'w ystyried, effaith hyn fydd gwrthod yr apêl. Fel rheol, bydd hyn o fewn tri mis i dderbyn y cais am apêl.
- 6.
- Pan fo achos yn cael ei gyfeirio at Fwrdd Apeliadau am wrandawiad, bydd y Bwrdd yn nodi seiliau'r apêl a bydd yn seilio ei benderfyniad ar dystiolaeth cyflwyniad yr apelydd, adroddiad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi gwreiddiol ac unrhyw dystiolaeth bellach y mae'n credu ei bod yn berthnasol.
- 7.
- Bydd y Bwrdd Apeliadau yn cynnig gwrandawiad personol i'r apelydd, a chaiff yr apelydd wybod beth yw amser a dyddiad y cyfryw wrandawiad. Caiff aelod o staff academaidd, lles neu gynghori y Brifysgol fod yn bresennol gyda'r apelydd, ond ni chaiff ei gynrychioli/chynrychioli.
- 8.
- Bydd gan y Cadeirydd, mewn cyfarfod o'r Bwrdd Apeliadau, ddisgresiwn i ddatgan yn annerbyniadwy unrhyw fater a gyflwynir gan yr apelydd, neu gan unrhyw unigolyn sy'n bresennol gyda'r apelydd, os bydd yn barnu nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â chynnwys yr apêl a gyflwynwyd yn ysgrifenedig yn flaenorol o fewn y terfyn amser a bennwyd.
- 9.
- Rhoddir pwer i'r Bwrdd Apeliadau gymryd y naill benderfyniad isod neu'r llall:
- y dylid gwrthod yr apêl ac na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach;
- y dylid cadarnhau'r apêl.
- 10.
- Os caiff apêl ei chadarnhau, gall y Bwrdd Apeliadau hefyd ddewis un o'r camau gweithredu canlynol:
- Argymell i'r Pwyllgor Mewnol y dylai'r Pwyllgor ailystyried ei benderfyniad, am y rhesymau a nodir;
- Argymell y dylai Pwyllgor Mewnol newydd ailystyried penderfyniad y Pwyllgor blaenorol.
- 11.
- Pan ymgymerir ag ailasesiad o ganlyniad i naill ai baragraff 10.1 neu baragraff 10.2 uchod, gall y Bwrdd Apeliadau hefyd bennu y dylid penodi dau ganolwr newydd. Ni chaiff unrhyw wybodaeth am yr asesiad blaenorol ei rhoi i'r canolwyr newydd heblaw'r ffaith eu bod yn cynnal ailasesiad o gyflwyniad yr ymgeisydd yn sgil apêl.
- 12.
- Bydd penderfyniad y Bwrdd Apeliadau yn derfynol.
- 13.
- Bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i yn rhoi gwybod i'r apelydd ynghylch penderfyniad y Bwrdd Apeliadau (a chanlyniad unrhyw ailasesiad, os yw'n berthnasol) cyn gynted â phosibl.
- 14.
- Yn achos 10 neu 11 uchod, bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i yn trefnu rhoi penderfyniad ac argymhellion y Bwrdd Apeliadau ar waith. Caiff penderfyniad y Pwyllgor Mewnol p'un ai a ddylid gwneud unrhyw newid i unrhyw benderfyniad blaenorol ai peidio ei adrodd yn ôl i'r Bwrdd Apeliadau, a bydd yn derfynol. Pan ddaw'r penderfyniad hwn i law, gall y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i, mewn achosion eithriadol yn unig, gyfeirio'r achos at Gadeirydd y Bwrdd Apeliadau am adolygiad o'r gweithdrefnau a ddilynwyd. Os daw'n hysbys bod afreoleidd-dra gweithdrefnol difrifol wedi digwydd, gellir cyfeirio'r achos yn ôl at y Pwyllgor Mewnol i'w ailystyried.
- 15.
- Os bernir, o ganlyniad i apêl lwyddiannus, fod ymgeisydd wedi ymgymhwyso am radd, bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn trefnu i'r ymgeisydd gael ei (d)derbyn i'r radd.
- 16.
- Gall y Bwrdd Apeliadau wneud argymhellion i'w hystyried gan y Pwyllgor Materion Academaidd neu'r Senedd fel y bo'n briodol ynghylch unrhyw fater sy'n codi yn sgil ystyried apeliadau.
- 17.
- Unwaith y bydd yr holl weithdrefnau mewnol wedi'u defnyddio, gall ymgeisydd gyflwyno cwyn i'r OIA (Swyddfa'r Dyfarnydd Annibynnol). Rhaid cyflwyno unrhyw gwyn o'r fath drwy anfon copi o Ffurflen Gais y Cynllun wedi'i lenwi ynghyd â'r holl wybodaeth berthnasol at yr OIA o fewn tri mis i'r dyddiad ar y Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau gan y Brifysgol ar ôl i'r gweithdrefnau mewnol gael eu cwblhau. Gellir cael copi o Ffurflen Gais y Cynllun gan yr Ysgrifennydd Academaidd, ei lawrlwytho o wefan OIA www.oiahe.org.uk neu drwy ffonio'r OIA neu ysgrifennu atynt yn y cyfeiriad isod:
OIA HE,
Third Floor,
Kings Reach
38 - 50 Kings Road,
Reading,
RG1 3AA
Telephone 0118 959 9813
Email enquiries@oiahe.org.uk*Gall yr Is-Ganghellor enwebu Swyddog o'r Brifysgol i weithredu ar ei r(h)an.
1 Rhagfyr 2005
DMcP/mes