Celf a Dylunio

Llythyrau at fyfyrwyr ar gyrsiau Celf

Dw i ddim wedi bod ar gwrs celf o’r blaen

Mae gennym gyfres o fodiwlau celf ar lefel 0. Mae’r cyrsiau hyn yn seiliedig ar sgiliau a byddan nhw’n eich helpu i ymgyfarwyddo ag astudio celf a dylunio. Ar y cyrsiau hyn, byddwch yn dysgu technegau sylfaenol ac yn cael blas ar ein cyrsiau.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i?

Chwilfrydedd, synnwyr digrifwch a chymhelliad. Byddwn yn gofyn i chi ddod i gwrdd ag un o’n tiwtoriaid i drafod pa gyrsiau sy’n ateb eich gofynion. Gallwch hefyd ddilyn cyrsiau unigol. Rhowch gynnig arni i weld a ydych yn hoffi ein dulliau dysgu.


Beth fyddwch chi'n ei ddisgwyl gennyf i?

Ymrwymiad i gyflawni’r aseiniadau mewn da bryd a pharodrwydd i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau, fel cyfeiriadau e-bost newydd.

Sut fyddwch chi’n dysgu’r cyrsiau?

Mae gan bob un o’n tiwtoriaid brofiad o ddysgu oedolion ac maen nhw’n gwybod am y pryderon sydd gan fyfyrwyr pan fyddan nhw’n dychwelyd i ddysgu. Rydym yn sylweddoli y gall fod yn anodd i chi roi eich hun mewn sefyllfa lle byddwch yn teimlo’n fregus. Efallai y bydd sylwadau rhai o’n myfyrwyr yn tawelu’ch meddwl.

“Mae’r cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn gyfle gwych i chi barhau i ddatblygu ar ôl ymddeol”


“Roeddwn wrth fy modd. Diolch yn fawr!”

“Hyfforddiant bywiog a chefnogol. Roedd sylwadau’r tiwtoriaid yn bwrpasol ac fe gefais f’ymestyn i’r eithaf”

“Roedd y tiwtor yn ysbrydoli ac yn tanio dychymyg yr holl fyfyrwyr!”

“Fe wnes i fwynhau’r cwrs. Roeddwn i eisiau mwy. Tiwtor gwych ac amyneddgar”

“Anaml y cewch chi hyd i diwtor mor dalentog a brwdfrydig”

“Cwrs gwych. Tiwtor gwych. Profiad gwych”

“Roedd yn agoriad llygad. Rwy’n gweld pethau’n wahanol iawn ’nawr. Hyfforddiant da iawn”

“Dw i newydd arddangos a gwerthu rhai lluniau mewn digwyddiad celf lleol i godi arian ar gyfer yr eglwys ac yn fy ystafell ardd fel rhan o’r penwythnos Gerddi Agored. Mae cryn dipyn o gyrsiau celf i oedolion yn yr ardal hon (Gogledd Swydd Essex) ond dydyn nhw ddim mor ddifrifol â’r rheini yn Aberystwyth. Er ’mod i’n credu bod system gredydau Aberystwyth yn fwrn ar brydiau, rwy’n credu bod y gwahanol ofynion wedi hoelio sylw a chymell ymatebion o safon gan y myfyrwyr.  Diolch yn fawr gan fyfyriwr diolchgar.”

Sut fyddaf i’n cael fy asesu?

Mae’r asesiadau’n cael eu teilwra i ateb gofynion oedolion sy’n dychwelyd i ddysgu. Byddwch chi a’ch tiwtor yn pennu ac yn trafod aseiniadau unigol er mwyn i’r astudiaethau gydweddu â’ch diddordebau chi. Bydd hyn yn caniatáu i chi weithio ar eich hynt eich hun.

Nid oes unrhyw arholiadau. Byddwn yn asesu’r cyrsiau celf ymarferol yn barhaus a byddwn yn integreiddio’r asesiadau i’r cyfnodau dysgu. Yn eich tiwtorial diwethaf, cewch gyfle i drafod eich gwaith gyda’r tiwtor, trafod elfennau sydd wedi peri pryder i chi, a thrafod y camau yr ydych wedi’u cymryd ar hyd y llwybr dysgu. Yn yr asesiad hwn, cewch adborth ar lafar. Dylech ystyried yr asesiad fel rhywun yn rhoi blynyddoedd o gyngor i chi.

Bydd gofyn i’n myfyrwyr Hanes Celf ysgrifennu traethawd yn y cartref a’i gyflwyno erbyn dyddiad a bennir gennych chi a’ch tiwtor. Byddwn yn rhoi canllawiau ac anogaeth i unrhyw un sy’n ansicr neu’n pryderu am ysgrifennu’n ffurfiol. Cewch gyflwyno fersiynau drafft o’r traethawd cyn cyflwyno’r traethawd terfynol. Mae cwrs ‘Sgiliau Astudio’ ar gael hefyd i’ch helpu i ddatblygu’ch sgiliau ysgrifennu. Mae gennym gwrs Hanes Celf ar Lefel 0 hefyd, sef Edrych ar Gelf (Looking at Art). Rydym yn argymell y cwrs hwn os nad ydych wedi astudio hanes celf o’r blaen.

Bydd gofyn i chi gadw dyddiadur gweledol ar gyrsiau hanes celf a chyrsiau celf ymarferol. Llyfr nodiadau lle gallwch gofnodi eich syniadau a’ch canfyddiadau ac ymchwilio i arlunwyr sy’n berthnasol i’ch gwaith chi yw hwn. 

Tystysgrif Addysg Uwch: Celf a Dylunio
 

“Chefais i ddim cyfle i astudio celf yn yr ysgol”

“Dw i am weithio ac astudio”

“Allaf i ddim ymrwymo i ddysgu ar sail amser llawn”

“Dw i’n meddwl y gallwn i fod yn dda mewn celf”
 
Dyma rai sylwadau y byddwn ni’n eu clywed yn aml gan fyfyrwyr newydd. Maen nhw wedi penderfynu cyfoethogi’u bywydau drwy astudio Celf a Dylunio yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes. Mae gan ein tiwtoriaid gyfoeth o brofiad o ddysgu oedolion. Mae llawer ohonyn nhw’u hunain wedi dysgu fel oedolion ac maen nhw’n deall bod angen cefnogi’r myfyrwyr a magu’u hyder. Gallan nhw greu llwybr dysgu arbennig i chi a’ch helpu i ddatblygu’ch cryfderau a’ch diddordebau.

  • Tystysgrif Addysg Uwch: Llawlyfr Myfyrwyr Celf a Dylunio /
  • Strwythur y Dystysgrif Addysg Uwch: Celf a Dylunio/

Beth sy’n arbennig am ein Tystysgrif Addysg Uwch mewn Celf a Dylunio?


  • Rydym yn dysgu mewn pentrefi a threfi bach ar draws y Canolbarth
  • Rydym yn dysgu mewn gerddi hyfryd ac mewn orielau lle bydd celf ar flaenau eich bysedd
  • Rydym yn darparu ysgolion preswyl galwedigaethol mewn celf
  • Gallwch astudio tra’ch bod yn gweithio
  • Mae llawer o’r cyrsiau celf yn cael eu cynnal gyda’r nos ac ar benwythnosau
  • Ni fydd llawer o’r cyrsiau celf yn cael eu cynnal yn wythnosol, felly bydd digon o gyfle i chi gwblhau’ch astudiaethau cartref heb unrhyw bwysau
  • Mae dosbarthiadau diwrnod cyfan ar rai cyrsiau, yn hytrach na dosbarthiadau dwy awr, ac mae hynny’n arbed costau petrol
  • Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau dydd yn cydweddu ag oriau ysgol
  • Rydym yn arbenigo mewn dysgu oedolion ac yn teilwra ein dulliau cyflwyno, ein hasesiadau a’n cynlluniau gwaith yn benodol ar gyfer oedolion
  • Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau sy’n addas ar gyfer datblygiad proffesiynol, fel dylunio gwefannau, Photoshop a marchnata eich hun fel ymarferydd celf
  • Rydym yn cynnal cyrsiau dwys ac ysgolion preswyl dros yr haf mewn disgyblaethau celf
  • Cewch bum mlynedd i gasglu 120 o gredydau, sef tua un cwrs bob tymor
  • Nid oes rhaid i chi gofrestru ar y Dystysgrif Celf a Dylunio i astudio gyda ni
  • Gallwch ddilyn ein cyrsiau fel cyrsiau unigol
  • Gallwch ddilyn cyrsiau Lefel 0 i weld a ydych yn hoffi ein dulliau dysgu
  • Rydym yn ymfalchïo yn ein staff gweithgar ac mae pum aelod staff wedi ennill gwobrau dysgu erbyn hyn
  • Mae llawer o’r staff yn weithwyr proffesiynol yn eu maes
  • Rydym yn gofalu am yr holl fyfyrwyr sy’n cychwyn ar ein cyrsiau, heb iddyn nhw wneud unrhyw gelf o’r blaen
  • Mae gennym gyfres o gyrsiau Lefel 0 mewn arlunio, peintio a cherflunio. Beth am Gelf Jync i’r rheini ohonoch sy’n hoffi ailgylchu?
  • Pan fyddwch wedi magu hyder, gallwch gamu ymlaen i gwrs Lefel Un gyda’r un tiwtor

Sut allaf i basio’r Dystysgrif Addysg Uwch?

Llyfryn y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Celf a Dylunio / (sgroliwch lawr i weld y Gymraeg)

Cewch bum mlynedd i gyflawni’r astudiaethau sydd eu hangen i ennill 120 o gredydau. Caiff y dystysgrif ei rhoi ar sail pasio neu fethu a bydd angen i chi ennill 70 o gredydau o’r modiwlau allweddol er mwyn cael addysg gyflawn ym maes celf. Gall y modiwlau allweddol hyn eich helpu i ddod o hyd i’ch hoff ddull peintio neu ddylunio. Mae’r modiwlau dewisol yn gyfle i chi astudio maes penodol yn fanylach.


Yn syml:


  • Cyflawni 120 o gredydau
  • Gall 20 credyd fod ar lefel “0”
  • Rhaid i 70 credyd ddod o’r modiwlau allweddol
  • Mae’r modiwlau a ganlyn yn orfodol:
  • Modiwl tiwtorial
  • Celf yng Nghymru
  • Celf Gyfoes
  • Astudio Celf a Hanes Celf
  • Rhaid ennill cyfartaledd o 40% yn gyffredinol
  • Rhaid bod yn bresennol am 60% o’r cwrs

 
“Mae’r dyddiaduron gweledol yn wych. Maen nhw’n gwneud i chi weithio ac ymchwilio i’r pwnc” A. Batham
 

Fformat y cynllun

Mae’r modiwlau allweddol yn rhoi blas i chi ar ddeunyddiau a chyfryngau celf y gallech fod yn awyddus i’w hastudio’n fanylach. Cewch hyd i fodiwlau eraill sy’n defnyddio cyfryngau penodol yn y rhestr o fodiwlau dewisol. Yn eu plith mae modiwlau tri dimensiwn, dylunio, peintio ac arlunio dau ddimensiwn, dylunio gyda chyfrifiadur, argraffu a hanes celf. Felly, gallwch drefnu’ch cwrs eich hun yn ôl eich cryfderau.


Rydym yn cylchdroi’r cyrsiau er mwyn eu cynnal mewn gwahanol leoedd dros gyfnod o flynyddoedd. Caiff y cyrsiau’u cynnal yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau, yn ystod y gwyliau ac ar ffurf cyrsiau preswyl dros yr haf. Mae rhai o’n cyrsiau’n cael eu cynnal yn ein prif ganolfannau, ond rydym hefyd yn dysgu mewn lleoliadau eraill, fel neuaddau pentref ac orielau. Mae ein tiwtoriaid yn dod â’r ddarpariaeth at garreg y drws, ond bydd angen mwy o gymorth technegol neu mwy o le ar rai cyrsiau, felly bydd rhaid teithio i Aberystwyth ar gyfer rhai ohonyn nhw. Byddwn yn ceisio hwyluso hyn drwy drefnu i’r myfyrwyr rannu ceir.

Cyrsiau annibynnol ar gyfer athrawon

Mae athrawon mewn ysgolion a cholegau wedi canfod bod nifer o’r cyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Dystysgrif yn ddefnyddiol ar gyfer datblygiad proffesiynol. Fe’u rhestrir yn y blwch Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Yn aml, cynhelir y cyrsiau hyn ar benwythnosau, fel cyrsiau preswyl yn ystod gwyliau neu ar sawl dydd Sadwrn yn ystod y flwyddyn. Os hoffech wybod mwy, mae croeso i chi gysylltu â ni: learning@aber.ac.uk
 

At beth all y Dystysgrif arwain?

Ar ôl cwblhau’r Dystysgrif Addysg Uwch: Celf a Dylunio, yn ogystal â chael cyfweliad a chyflwyno portffolio cewch fynediad i ail flwyddyn rhaglen radd Yr Ysgol Gelf, Aberystwyth. Mae gan yr Ysgol nifer o raddau ac er mwyn ymuno â nhw mae’n ofynnol cwblhau amryw o fodiwlau craidd ymhob cynllun gradd. Rhestrir y modiwlau yn eich llawlyfr myfyriwr.

Sut all y Dystysgrif fod o fudd wrth chwilio am swyddi?

Bydd y myfyrwyr yn dangos meddwl creadigol, ymwybod â gofod, cysyniadau dylunio, ymwybyddiaeth weledol a theori lliw sy’n ymwneud â marchnata a hyrwyddo. Ymhellach, datblygir sgiliau arddangos a dylunio, datrys problemau, trafod a dilyn cyfarwyddiadau. Dangosir sgiliau dadansoddol, meddwl beirniadol a dealltwriaeth am y berthynas sydd rhwng celf ymarferol a hanes celf.  Mae hunan-fyfyrdod beirniadol, parodrwydd i ymholi, rheoli amser a chwblhau gwaith mewn pryd i gyd yn sgiliau sy’n gwella eich cyflogadwyedd ac yn rhai a anogir ar draws y modiwlau Celf a Dylunio.

Mae Syr Ken Robinson yn taeru bod “Dawn greadigol bellach yr un mor bwysig â llythrennedd mewn addysg, a dylid ei thrin ar yr un lefel”. Mae gan fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau Celf a Dylunio'r gallu i weithredu a datrys problemau mewn ffordd greadigol.

Hefyd, gall y modiwlau arbenigol hyn wella eich cyflogadwyedd a bod o gymorth i sefydlu busnesau bach ac annibynnol.

Up Cycled Clothing: cyfle i fyfyrwyr werthu eu gwaith trwy gydweithfa dillad sy’n dwyn yr enw Co-Create.

Willow Sculpture a Living Willow: Mae perchnogion busnesau bach cynllunio gerddi yn dilyn cyrsiau cerfluniaeth.

Marketing yourself as an Art Practitioner and Interior Design: mae’r rheini sydd am sefydlu diwydiant crefftau cartref yn dilyn y cwrs hwn.

Mae’r amrediad o gyrsiau TG yn caniatáu i fyfyrwyr sefydlu eu busnes Dylunio Gwefannau eu hunain.

Unrhyw gwestiynau?

  • Hoffech chi wybod mwy?
  • Hoffech chi wybod mwy am gyrsiau penodol?
  • Hoffech chi wybod beth y byddwn yn ei ddysgu ymhle?

Newyddion:

Yn eich ffurflenni gwerthuso, rydych wedi gofyn:

  • Am gwrs Hanes Celf yn y de
  • Am fwy o ddosbarthiadau nos
  • Am i ni atal cyrsiau yn Arberth ac Abergwaun rhag cyd-daro

Rydym wedi mynd i’r afael â phob un o’r materion hyn yn 2011-12.

Rydym yn estyn croeso cynnes i’n staff newydd, Mair Jones, Sebastian Grey a Carys Hedd.

Uwchgylchu Dillad. Dylunio Tecstilau’n Ddigidol gan Ddefnyddio Photoshop. Golygu Delweddau ar gyfer y We. Tarddu o’r Tirlun. Byddwn yn treialu dau fodiwl Tecstilau newydd y flwyddyn nesaf: Gofodau o Ddeunydd ac Amgylcheddau Cyffyrddadwy.