Ecoleg

Croeso i Raglen Ecoleg 2011-12                                     

Cyrsiau 2011-2012

Cliciwch yma i weld rhestr o'r cyrsiau Ecoleg.

Cliciwch yma am fanylion cyrsiau Ecoleg Maes a Chadwraeth

Cliciwch yma am  fanylion cwrs Diploma Addysg Uwch: Ecoleg Maes a Chadwraeth

Ydy’r cyrsiau hyn yn addas i mi?

Ydyn. Mae croeso i bawb ar ein cyrsiau. Nid oes angen cefndir gwyddonol arnoch. Mae detholiad eang o gyrsiau ar gael mewn nifer o leoliadau, gan roi dewis diddorol i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y byd naturiol a’r amgylchedd lleol.

Diddordeb personol

Mae nifer o’n myfyrwyr yn cyflawni un neu ddau gwrs y flwyddyn oherwydd bod ganddyn nhw ddiddordeb personol mewn maes arbennig. Beth am gael cipolwg ar y rhaglen? Efallai y bydd rhai o’n cyrsiau’n mynd â’ch bryd. Ym mis Hydref 2010, llwyddodd pedwar myfyriwr a gychwynnodd yn y modd hwn i ennill Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ecoleg Maes. Mae’u llwyddiant yn adlewyrchu’u diddordeb personol yn y maes, ond mae hefyd yn adlewyrchu’u gallu i wynebu her ac i astudio’r byd naturiol drwy gyfrwng cyrsiau Dysgu Gydol Oes.

Datblygiad proffesiynol a chyflogadwyedd

Mae cyrsiau unigol yn ddelfrydol ar gyfer datblygiad proffesiynol er mwyn ehangu gwybodaeth, mireinio sgiliau neu lenwi bylchau o ran sgiliau pan fyddwch yn gweithio.

Fel arall, os ydych yn chwilio am swydd, gallai ein cyrsiau roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi. Wrth gyflawni’r cyrsiau hyn, byddwch yn ehangu’ch gwybodaeth, yn cael profiad ymarferol ac yn datblygu’ch sgiliau adnabod mewn meysydd penodol a nodwyd gan y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol Cenedlaethol (NERC) fel y rhai mwyaf gwerthfawr ymhlith cyflogwyr y sector amgylcheddol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn achredu pob un o’r cyrsiau a chewch ddewis cyrsiau o blith y rhaglen i ateb eich gofynion proffesiynol. Ar ôl cyflawni asesiad llwyddiannus, cewch dystysgrif gredydau i gydnabod eich ymdrechion.

Gallwch ychwanegu cwrs at eich CV â balchder. Mae ein cyrsiau’n ddelfrydol i unrhyw un nad yw’n gallu ystyried astudio ar sail amser llawn oherwydd ymrwymiadau eraill. Maen nhw’n gyfle i astudio ecoleg ar sail ran-amser, ac ennill Tystysgrif neu Ddiploma Addysg Uwch mewn Ecoleg hyd yn oed. Rydym yn llongyfarch y pedwar myfyriwr Dysgu Gydol Oes a enillodd Dystysgrifau Addysg Uwch mewn Ecoleg Maes yn 2010. Llwyddodd y pedwar i gwblhau sawl blwyddyn o astudiaethau yn eu hamser hamdden, rhai ohonyn nhw mewn swyddi amser llawn. Mae’u camp yn dangos bod modd cyrraedd y nod o ennill Tystysgrif.

Asesu

Mae asesu’n rhan annatod o bob cwrs a bydd yn ychwanegu at eich profiad dysgu. Mae’r asesiadau wedi’u llunio ar gyfer oedolion sy’n dysgu ac, yn gyffredinol, maen nhw’n cael eu hymgorffori yn y cwrs. Fel arfer, byddan nhw’n asesiadau cronnus sy’n seiliedig ar y dosbarthiadau a’r gweithdai eu hunain. Yn aml, byddwch yn paratoi portffolio sy’n creu cofnod defnyddiol o’r pynciau a drafodwyd. Mae’r wybodaeth, y data a gofnodir, y brasluniau, yr enghreifftiau a’r samplau yn adnodd defnyddiol y gallwch gyfeirio ato. Bydd y tiwtoriaid bob amser yn barod i’ch cynorthwyo, eich cynghori a’ch annog a byddan nhw’n rhoi adborth i chi.

Sut mae’r cyrsiau’n cael eu cyflwyno?

Mae’r lleoliadau y byddwn yn eu defnyddio a’r ffordd y byddwn yn cyflwyno’r cyrsiau’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n dibynnu ar y pwnc a pharhad y partneriaethau llwyddiannus yr ydym wedi’u meithrin dros y blynyddoedd diwethaf. Mae dyddiadau’r cyrsiau’n amrywio hefyd, a hynny fel rheol ar sail yr organebau byw a’u tymhorau! Bydd cyrsiau poblogaidd ar gael bob blwyddyn, ac eraill dim ond ar gael ambell flwyddyn.

Erbyn hyn, rydym yn dysgu llawer o’r cyrsiau’n ddwys dros dri diwrnod mewn lleoliadau lle gallwch aros dros nos. Mae’r cyrsiau hyn yn dod yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr lleol ac maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer datblygiad proffesiynol hefyd. Mae cyrsiau dwys yn gyfle i fyfyrwyr o bob rhan o’r wlad astudio yng Nghymru, gan gyfoethogi deinameg a phrofiadau’r cwrs.

Ar gyrsiau llai dwys, cynhelir sesiynau wythnosol byr neu sesiynau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, gyda digon o amser rhyngddyn nhw i chi astudio’n annibynnol. Caiff mwyafrif y cyrsiau’u dysgu drwy weithdai ymarferol, gan gynnwys peth gwaith maes. Mae’r holl gyrsiau’n cynnwys 20 o oriau cyswllt â’r tiwtor.

 

Gwybodaeth benodol am gyrsiau 2011-2012

Ble mae'r cyrsiau'n cael eu cynnal?

Cyrsiau newydd