Adran y Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Gwybodaeth i Ddarpar Fyfyrwyr
Cyrsiau Israddedig
Mae'r gradd Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu rhaglen sy'n cynnig addysg cryf mewn gwyddoniaeth, ynghyd â gwybodaeth ar gyfer sefyllfaeodd ymarferol. Byddwch yn astudio y seiliau seicolegol, ffisiolegol a mecanyddol ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff ac yn datblygu dealltwriaeth a pam mae'r rhain yn bwysig. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Aberystwyth…mwy na thebyg y lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr
Ymchwil
Asesiad Ymchwil 2008 (RAE 2008)
Cyflwynwyd gwaith ymchwil gan yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2001. Cafwyd perfformiad da ganddi gyda 65% o'r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno o safon ryngwladol gyda 15% yn rhagori yn rhyngwladol. Newyddion Fan hyn.
Ymweld â Ni
Cynhadledd y Grŵp Ysgwyddau Rhyngwladol 2012
Mae’r Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff wedi cael gwahoddiad i gynnal Cynhadledd y Grŵp Ysgwyddau Rhyngwladol 2012. Mae’r Grŵp Ysgwyddau Rhyngwladol (ISG) yn gydweithrediad rhwng grwpiau ymchwil sy’n canolbwyntio’n bennaf ar fiomecaneg, ac sy’n anelu at wella gwaith ymchwil i ysgwyddau drwy greu llwyfan ar gyfer trafodaethau, ac i gyfnewid gwybodaeth, meddalwedd a data.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach am y gynhadledd.
Newyddion
Llwyddiannau Ymchwil ac Addysgu yr Ôl-raddedigion:
Mae’r Adran yn dathlu llwyddiannau diweddar ei myfyrwyr ôl-raddedig. Llongyfarchiadau i Dr Simon Payne, a basiodd arholiad llafar ei radd PhD ar 2 Mehefin 2011.
Hefyd, mae ansawdd dysgu uwchraddedig yr adran wedi cael ei gydnabod unwaith eto. Dyfarnwyd Gwobr Addysgu Rhagorol y Brifysgol i Sarah Forrest, sydd yn adeiladu ar lwyddiant Les Tumilty, a enillodd y wobr y flwyddyn ddiwethaf.
Yr Adran yn cael cyllid i sefydlu cysylltiadau newydd gartref a thramor:
Mae Dr Jo Thatcher a Dr Emily Oliver wedi cael cyllid gan Sefydliad Eingl-Japaneaidd DAIWA i gychwyn ymchwil cydweithredol gyda chydweithwyr sy’n gweithio ym Mhrifysgol Tsukuba yn Japan.
Mae’r adran yn parhau i godi ei phroffil yng Nghymru, a bydd yn cynnal dau leoliad profiad ymchwil ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth yn ystod yr haf, gyda chymorth bwrsariaethau gan Sefydliad Nuffield.
Manylion Cyswllt
Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer CorffAdeilad Carwyn James
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3FD
Ffôn: 01970 621545 Ffacs: 01970 628557 Ebost: sportexercise@aber.ac.uk