Bod yn llysgennad ar gyfer teithiau campws

O bryd i’w gilydd, mae arnom angen Llysgenhadon i arwain Teithiau Campws anffurfiol yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’r teithiau hyn i ddarpar fyfyrwyr nad oedd yn gallu dod i Ddiwrnod Agored/Ymweld.

I helpu ar deithiau campws, mae’n rhaid cael gwybodaeth dda am gampws y Brifysgol, yr adrannau a’r gwasanaethau. Byddai profiad blaenorol fel Llysgennad yn fanteisiol, ond nid yw’n hanfodol.

Os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn helpu ar deithiau campws, e-bostiwch Eurgain Haf Evans ehe2@aber.ac.uk.