Sut i Gofrestru ar gyfer Ailsefyll eich Asesiadau yn ystod yr Haf
Os yr ydych yn gymwys i ailsefyll asesiadau yn ystod Asesiadau Ailgynnig yr Haf yn mis Awst bydd RHAID i chi gofrestru eich dymuniad i ailsefyll neu beidio, ac yr ydych yn gwneud hyn ar-lein drwy eich Cofnod Myfyriwr ar y we.
Bydd myfyrwyr sydd yn gymwys i ailsefyll yn gweld botwm ar dudalen hafan eu Cofnod Myfyriwr o dan ‘Fy Tasgau’ wedi enwi ‘Asesiadau Ailgynnig yr Haf’ cliciwch ar hwn a chewch eich danfon i dudalen sy’n dangos y modiwlau yr ydych yn gymwys i ailsefyll ar opsiwn Ie neu Na ar gyfer ailsefyll ger bob un (dim ond y modiwlau yr ydych yn gymwys i ailsefyll bydd yn dangos). Dylech ddangos eich dymuniad i ailsefyll neu beidio drwy glicio ar y botymau Ie neu Na, wedyn glicio ar y botwm ar waelod y sgrin ‘Cyflwyno eich dewisiadau ailsefyll’. Dylech gael e-bost ar ôl cyflwyno eich dewisiadau i gadarnhau eich dymuniadau.
Fydd myfyrwyr sydd ddim yn gymwys i ailsefyll yn ystod Asesiadau Ailgynnig yr Haf ddim yn gweld y botwm ‘Asesiadau Ailgynnig yr Haf’ o dan ‘ Fy Tasgau’.
Mae’n hollbwysig eich bod yn gwirio eich canlyniadau, ac yn cofrestru eich bwriad OS bydd opsiwn gennych i ailsefyll unrhyw fodiwl (gwaith cwrs neu arholiad) yn ystod y cyfnod ailsefyll ym mis Awst. Ni anfonir unrhyw ddogfen bapur atoch.
- Dyddiadau a ragor o fanylion pwysig ynglŷn a’r Asesiadau Ailgynnig yr Haf
- Ffioedd Ailgynnig Asesiadau yr Haf
- Amserlen Asesiadau Ailgynnig yr Haf