Nodiadau Cofrestru
Yr wyf wedi cwblhau’r broses cofrestru ar-lein a deallaf y byddaf yn awr yn cael fy nerbyn i fynychu’r Brifysgol fel myfyriwr yn ystod y sesiwn hon i ddilyn y cynllun astudio a amlinellir yn fy nghofnod. Yr wyf yn cydnabod y bydd y cynllun yn cael ei redeg yn unol â’r trefniadau a’r gofynion a wneir gan gyrff perthnasol y Brifysgol o bryd i’w gilydd.
Cytunaf i gydymffurfio â Siarter, Ystatudau, Ordinhadau, Rheolau a Rheoliadau a Confensiynau Arholiadau y Brifysgol sydd mewn grym, ac yr wyf yn cydnabod ei bod yn naturiol y gall y rhain gael eu newid o bryd i’w gilydd.
Dim ond gyda, a thrwy gyfrwng, yr unigolion a’r cyrff perthnasol o fewn y Brifysgol y bydd unrhyw broblemau neu anghydfodau a all godi ynghylch unrhyw fater sy’n effeithio arnaf fi fel un o fyfyrwyr y Brifysgol yn cael eu datrys a’u terfynu. Yn achos unrhyw benderfyniad sy’n effeithio arnaf fi, bydd gennyf yr hawliau a bennir yn y Siarter, yr Ystatudau, yr Ordinhadau a’r Rheoliadau a fydd mewn grym ar y pryd.
Yr wyf yn cydnabod mai un o amodau dyfarnu gradd yw y bydd yr holl ffioedd dysgu sy’n ddyledus i’r Brifysgol wedi’u talu i’r Brifysgol yn llawn.
Deallaf y gallaf ddarllen y dogfennau canlynol ar-lein ar wefan y Brifysgol ac yr wyf yn cytuno i gadw atynt:
Y Siarter, yr Ystatudau a’r Ordinhadau
