4. Confensiynau Arholiadau
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Mae'r adran hon wrthi'n cael ei datblygu.
-
4.1 Confensiynau Arholiadau: Cyflwyniad i Ddyfarniadau Israddedig
1. Dylid ddarllen y ‘Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar’ ochr yn ochr â’r confensiynau arholiadau a amlinellir isod yn Adran 4 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Cewch hyd iddynt yn:
https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/regulations/modular-degrees/Cewch hyd i’r ‘Graddau Sylfaen’ yn:
https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/regulations/foundation/Dylai myfyrwyr israddedig gyfeirio hefyd at y Llawlyfr Arholiadau Israddedigion:
https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/students/ug-issues/exam-assess/exam-handbook/2. Defnyddir y confensiynau arholiadau i bennu cynnydd rhwng blynyddoedd astudio ar gyfer gwahanol fathau o ddyfarniadau ac i gyfrif dosbarth y radd ar ddiwedd cynlluniau gradd. Dylid darllen y Confensiynau hyn ar y cyd â’r Rheoliadau Academaidd ar Gynnydd Academaidd.
3. Ar gyfer myfyrwyr Gradd Baglor sy’n ystyried trosglwyddo i Radd Meistr Integredig, cyfeiriwch at y Confensiynau Arholiad ar gyfer cynlluniau Meistr Integredig.
-
4.2 Gradd Baglor: Rheolau Cynnydd
-
4.2.1 Rhan Un – myfyrwyr a ddechreuodd ar Ran Un ERS Medi 2018
1. Bydd myfyrwyr yn pasio Rhan Un os ydynt yn bodloni’r ddau amod a ganlyn yn yr asesiadau ar gyfer modiwlau Rhan Un:
(i) ennill marciau o 40% neu ragor mewn modiwlau sy’n werth 100 o gredydau
a
(ii) cael cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 40% o leiaf.
2. Fel arfer, caiff myfyrwyr Rhan Un hyd at dri chyfle i ailsefyll.
3. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle nesaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst.
4. Caniateir i fyfyrwyr sefyll uchafswm o 80 credyd yng nghyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi methu mwy na 80 credyd i ailsefyll ym mis Awst o gwbl, a bydd yn rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn.
-
4.2.2 Rhan Dau (Blwyddyn Dau ac uwch) – Myfyrwyr sydd wedi dechrau ar Ran Dau ERS mis Medi 2013 a CHYN mis Medi 2017
1. Ni chaiff myfyrwyr fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarth y dyfarniad terfynol (ac eithrio modiwlau lefel ‘S’, h.y. marciau a gafwyd yn ystod blwyddyn ryng-gwrs).
2. I gamu o’r naill flwyddyn astudio i’r llall, rhaid i’r myfyrwyr basio o leiaf 100 o gredydau.
3. Fel arfer, dim ond un cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd, a hynny i gael marc pasio moel o 40% ar y cyfle cyntaf sydd ar gael.
4. Rhaid cymryd cyfleoedd i ailsefyll ar gyfer marc pasio moel yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen. Fel arfer, dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwl i gael y marc llawn, a hynny YN UNIG pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Brifysgol, ar y cyfle nesaf sydd ar gael (h.y. yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen).
5. Caiff myfyrwyr gael eu hasesu ar hyd at 60 o gredydau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Caniateir i’r myfyrwyr hynny sydd wedi pasio llai na 60 o gredydau gael eu hasesu, ond dim ond hyd at yr uchafswm o 60 credyd.
6. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll F. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.
-
4.2.3 Rhan Dau (Blwyddyn Dau ac uwch) - Myfyrwyr sydd wedi dechrau ar Ran Dau ERS mis Medi 2017 a CHYN mis Medi 2019
1. Ni chaiff myfyrwyr fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarth y dyfarniad terfynol (ac eithrio modiwlau lefel ‘S’, h.y. marciau a gafwyd yn ystod blwyddyn ryng-gwrs).
2. I gamu o’r naill flwyddyn astudio i’r llall, rhaid i’r myfyrwyr basio o leiaf 100 o gredydau.
3. Fel arfer, dim ond un cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd, a hynny i gael marc pasio moel o 40% ar y cyfle cyntaf sydd ar gael.
4. Rhaid cymryd cyfleoedd i ailsefyll ar gyfer marc pasio moel yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen. Fel arfer, dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwl i gael y marc llawn, a hynny YN UNIG pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Brifysgol, ar y cyfle nesaf sydd ar gael (h.y. yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen).
5. Caiff myfyrwyr gael eu hasesu ar hyd at 60 o gredydau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Caniateir i’r myfyrwyr hynny sydd wedi pasio llai na 60 o gredydau gael eu hasesu, ond dim ond hyd at yr uchafswm o 60 credyd.
6. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll F. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.
-
4.2.4 Rhan Dau (Blwyddyn Dau ac uwch) - Myfyrwyr sydd wedi dechrau ar Ran Dau ERS mis Medi 2019
1. Ni chaiff myfyrwyr fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarth y dyfarniad terfynol (ac eithrio modiwlau lefel ‘S’, h.y. marciau a gafwyd yn ystod blwyddyn ryng-gwrs).
2. I gamu o’r naill flwyddyn astudio i’r llall, rhaid i’r myfyrwyr basio o leiaf 100 o gredydau.
3. Fel arfer, dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd (gydag arwydd ailsefyll F), a hynny i gael marc pasio moel o 40%.
4. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle nesaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Rhaid cymryd yr ail gyfle i ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd yn ystod y flwyddyn ddilynol, yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen. Ni fydd myfyrwyr sydd ar leoliad rhyng-gwrs neu dramor yn colli cyfle i ailsefyll os oes ganddynt ymrwymiadau yn ymwneud â’u lleoliad sy'n eu hatal rhag manteisio ar eu cyfle cyntaf i ailsefyll yn ystod cyfnod yr arholiadau ailsefyll ym mis Awst yr ail flwyddyn, ac ni fyddant ychwaith yn colli cyfle i ailsefyll os na allant ailsefyll yn ystod y flwyddyn ar leoliad. Bydd myfyrwyr na allant ailsefyll oherwydd ymrwymiadau eu lleoliad yn cael cynnig ailsefyll yn ystod eu blwyddyn olaf.
5. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ail-wneud y flwyddyn os ydynt wedi methu mwy na 80 credyd.
6. Fel arfer, dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwl i gael y marc llawn (gydag arwydd ailsefyll H), a hynny YN UNIG pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Brifysgol. Bydd hyn yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst os ydynt wedi methu 80 credyd neu lai, neu trwy ail-wneud y flwyddyn.
7. Caiff myfyrwyr gael eu hasesu ar hyd at 80 o gredydau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi methu mwy na 80 credyd i ailsefyll ym mis Awst o gwbl, a bydd yn rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn.
8. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll F. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.
4.3 Graddau Meistr Integredig: Rheolau CynnyddNoder bod y gofynion hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy’n dymuno trosglwyddo Gynllun Meistr Integredig, e.e. o BEng i MEng.
-
4.3.1 Rhan Un – myfyrwyr a ddechreuodd ar Ran Un ERS Medi 2018
1. Bydd myfyrwyr yn pasio Rhan Un os ydynt yn bodloni’r ddau amod a ganlyn yn yr asesiadau ar gyfer modiwlau Rhan Un:
(i) ennill marciau o 40% neu ragor mewn modiwlau sy’n werth 100 o gredydau
a
(ii) cael cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 40% o leiaf.
2. Fel arfer, caiff myfyrwyr Rhan Un hyd at dri chyfle i ailsefyll.
3. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle nesaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst.
4. Caniateir i fyfyrwyr sefyll uchafswm o 80 credyd yng nghyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi methu mwy na 80 credyd i ailsefyll ym mis Awst o gwbl, a bydd yn rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn.
-
4.3.2 Myfyrwyr a ddechreuodd ar Ran Dau Cynllun Meistr Integredig ERS mis Medi 2019
1. Y marc pasio modiwl ar Lefel Dau a Lefel Tri yw 40%. Y marc pasio modiwlau ar Lefel M yw 50%.
2. Ni chaiff myfyrwyr fethu mwy nag 20 credyd ar draws Lefel Dau a Lefel Tri ac ni chânt fethu mwy nag 20 credyd ar Lefel M, sy’n cyfrannu at ddosbarthiad terfynol eu dyfarniad (ac eithrio modiwlau Lefel S), h.y. marciau a gafwyd yn ystod blwyddyn ryng-gwrs).
3. Bydd gofyn i fyfyrwyr sicrhau cyfartaledd cyffredinol o 55% yn yr ail flwyddyn i fynd ymlaen i’r drydedd flwyddyn. Rhaid i’r myfyrwyr basio o leiaf 100 credyd yn yr ail flwyddyn i fynd ymlaen i’r drydedd flwyddyn. Bydd gofyn i’r myfyrwyr sy’n methu bodloni’r gofyniad hwn drosglwyddo i radd Baglor. Mae’n rhaid i fyfyrwyr basio’r ail flwyddyn er mwyn caniatáu iddynt fynd ymlaen i’r flwyddyn mewn diwydiant.
4. Fel arfer dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd (â dangosydd F) ar Lefel Dau a Thri, a hynny i gael y marc pasio moel o 40%. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle cyntaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Rhaid cymryd yr ail gyfle i ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd yn ystod y sesiwn ddilynol, yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu ynddo o’r blaen.
5. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ail-wneud y flwyddyn os ydynt wedi methu mwy na 80 credyd.
6. Fel arfer, dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd ar Lefel M, a hynny i gael y marc pasio moel o 50%. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle nesaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Rhaid cymryd yr ail gyfle i ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd yn ystod y flwyddyn ddilynol, yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen.
7. Fel arfer, dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwl i gael y marc llawn (gydag arwydd ailsefyll H), a hynny YN UNIG pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Brifysgol. Bydd hyn yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst os ydynt wedi methu 80 credyd neu lai, neu trwy ail-wneud y flwyddyn.
8. Caiff myfyrwyr gael eu hasesu ar hyd at 80 o gredydau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi methu mwy na 80 credyd i ailsefyll ym mis Awst o gwbl, a bydd yn rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn.
9. I fynd ymlaen o’r drydedd flwyddyn astudio, rhaid i’r myfyrwyr basio o leiaf 220 o gredydau a gymerwyd ym mlynyddoedd 2 a 3.
10. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll F. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.
-
4.3.3 Dyfarnu gradd Baglor i fyfyrwyr sy’n astudio cynlluniau Meistr Integredig
1. Bydd myfyrwyr sydd wedi casglu 360 o gredydau, gyda 120 o gredydau yr un ar Lefelau Un, Dau a Thri, ond sydd yn methu â mynd ymhellach â’r cynllun, neu yn methu â chasglu 120 o gredydau eraill ar Lefel M neu gymhwyso ar gyfer y radd Meistr Integredig, yn gallu, ar argymhelliad y Bwrdd Arholi, cael gradd Baglor ar lefel Anrhydedd neu Basio, fel y bo’n briodol, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y cynllun hwnnw. Pennir dosbarth y radd drwy ddefnyddio’r confensiynau ar gyfer graddau Baglor, h.y. cynnwys holl fodiwlau’r ail a’r drydedd flwyddyn yn y Rhaeadr, a hepgor modiwlau Lefel M. Rhaid i’r myfyrwyr fodloni’r holl ganlyniadau dysgu ar gyfer y cynllun Baglor.
4.4 BVSc Gwyddor Filfeddygol (blynyddoedd 1 a 2): Rheolau CynnyddYn berthnasol i'r holl fyfyrwyr sy'n dechrau ym mis Medi 2021
1. Rheolau symud ymlaen
1.1 Mae'r rheolau ar gyfer blwyddyn 1 a 2 yr un fath
1.2 Y marc pasio ar gyfer modiwlau yw 50%. Rhaid i ymgeiswyr gael marc o 50% neu fwy ym mhob modiwl
1.3 Rhaid pasio pob modiwl, h.y. 120 o gredydau, er mwyn symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
2. Ailsefyll yn ystod y cyfnod ailsefyll atodol - Bydd angen i fyfyrwyr ailsefyll ac/neu ailgyflwyno'r elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod ailsefyll mis Awst. Bydd y marc ar gyfer y modiwlau hynny yn cael ei gapio ar 50%. Ni fydd unrhyw gyfyngu ar nifer y modiwlau y gellir eu hailsefyll yn ystod y cyfnod ailsefyll.
3. Ailadrodd blwyddyn
3.1 Bydd angen i fyfyrwyr sy'n ailadrodd blwyddyn ailsefyll yr holl fodiwlau a'r holl asesiadau cyfatebol eto; bydd marc cyffredinol y modiwlau yn cael ei gapio ar 50%. Rhaid pasio’r flwyddyn yn ei chyfanrwydd ac ni fydd marciau modiwlau blaenorol yn cyfrif.
3.2 Gall myfyrwyr ailadrodd naill ai'r flwyddyn gyntaf neu'r ail flwyddyn ond ni chânt ailadrodd y ddwy. Bydd y cyfnod cofrestru hwyaf ar gyfer elfen rag-glinigol y radd yr un fath ag ar gyfer cwrs BVetMed y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol h.y. 3 blynedd. Dim ond mewn achosion eithriadol y gellir estyn y cyfyngiad amser gyda chymeradwyaeth gan y Brifysgol.
4. Bydd polisi Amgylchiadau Arbennig PA yn berthnasol - gan gynnwys mewn perthynas ag absenoldeb o asesiad - gweler Amgylchiadau Arbennig ac Addasiadau Rhesymol yn y LlAA.
5. Cyflwyno gwaith yn hwyr - rhoddir marc o 0 i waith a gyflwynir yn hwyr oni bai bod estyniad wedi ei ganiatáu. Ymdrinnir â cheisiadau am estyniadau gan ddefnyddio polisi estyniadau PA.
6. Gofynion Ychwanegol er mwyn Symud Ymlaen i Gam Nesaf y Cwrs
6.1 I symud ymlaen i Flwyddyn 2. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau o leiaf 6 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 2 y cwrs BVSc. Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 6 wythnos ohirio symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.
6.2 I symud ymlaen i Flwyddyn 3. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau o leiaf 12 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 3 y cwrs BVSc. Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 12 wythnos ohirio symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.
7. Dosbarthiad y Radd (defnyddir i bennu Pwyntiau Anrhydedd wrth ddyfarnu BVSc)
7.1 Bydd ymgeisydd sydd, ar yr ymdrech gyntaf, yn cael marc cyfartalog o 70% neu fwy ar gyfer y flwyddyn yn pasio â Rhagoriaeth.
7.2 Bydd ymgeisydd sydd, ar yr ymdrech gyntaf, yn cael marc cyfartalog rhwng 65 a 69% ar gyfer y flwyddyn yn pasio â Theilyngdod.
8. Dyfarniadau gadael - gweler hefyd Gonfensiynau PA ar gyfer Dyfarnu Tystysgrifau neu Ddiplomâu Addysg Uwch
8.1 Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 1 ond nad yw'n parhau â'i astudiaethau yn gymwys am ddyfarniad Tystysgrif Addysg Uwch (Gwyddor Filfeddygol Rag-glinigol).
8.2 Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 2 ond nad yw'n parhau â'i astudiaethau yn gymwys am ddyfarniad Diploma Addysg Uwch (Gwyddor Filfeddygol Rag-glinigol).
9. Trosglwyddo i gynlluniau eraill
9.1 Cynlluniau'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol. Ni chaniateir trosglwyddo i'r BVetMed ym mlwyddyn 3.
9.2 Yn achos cynlluniau eraill y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, bydd dosbarthiad terfynol y radd yn seiliedig ar y marciau a gafwyd ar raglen newydd y myfyriwr, h.y. dim ond y credydau fydd yn cael eu trosglwyddo a bydd dosbarthiad y radd yn seiliedig ar farciau Blwyddyn 3.
9.3 Cynlluniau PA: Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym Mlwyddyn 1 neu Flwyddyn 2, ond nad yw'n symud ymlaen i astudio ar y cwrs BVSc, yn gymwys i wneud cais i drosglwyddo i raglen briodol yn PA dan y rheolau Achredu Dysgu trwy Brofiad Blaenorol (APEL).
9.4 Gan ddibynnu a yw myfyriwr yn cael ei dderbyn i flwyddyn 2 ynteu flwyddyn 3 ar gynllun priodol yn PA, mae'n bosibl y bydd marciau modiwlau blwyddyn 2 yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo'r rhaeadru ar gyfer pennu'r dyfarniad terfynol, mewn trafodaethau â'r adran.
Mae manylion y rheoliadau asesu a dyfarnu ar gyfer blynyddoedd 3, 4 a 5 a'r system pwyntiau Anrhydedd ar gael trwy dudalennau gwe'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol: https://www.rvc.ac.uk/about/the-rvc/academic-quality-regulations-procedures#
Medi 2023
4.5 Cynlluniau Gradd gyda Blwyddyn Ryng-gwrs, neu gynlluniau nad ydynt yn rhai ieithyddol ond sy'n cynnwys blwyddyn yn Astudio Dramor Cynlluniau.1. Bydd y rheol arferol bod yn rhaid llwyddo mewn 100 credyd ym mhob blwyddyn astudio er mwyn symud ymlaen yn cael ei weithredu ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs.
2. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n methu symud ymlaen ar ddiwedd Blwyddyn 2 (neu’r flwyddyn gyfatebol cyn y flwyddyn mewn diwydiant neu’r flwyddyn yn astudio dramor) gwblhau a phasio asesiadau ailsefyll yr haf ym mis Awst neu ailadrodd y flwyddyn cyn dechrau ar y Flwyddyn Ryng-gwrs.
3. Bydd y Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei marcio yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ar gyfer asesu. Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn mynnu bod myfyrwyr nad ydynt yn cyflawni’r canlyniadau dysgu ac yn sicrhau marc isaf o 40% neu’n cwblhau’r flwyddyn yn llwyddiannus yn symud i gynllun gradd cytras nad yw’n cynnwys y flwyddyn integredig mewn diwydiant / blwyddyn integredig yn astudio dramor. Mae’n bosibl na fydd cyfle i ailsefyll os yw’r dyddiad cau ar gyfer yr asesiad yn cael ei bennu yn yr haf ar ôl byrddau arholi semester dau a bod y marc ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei ystyried ym mwrdd arholi mis Medi.
4. Mewn achosion lle bydd myfyrwyr yn dychwelyd o raglenni cyfnewid neu flwyddyn astudio dramor heb gredyd digonol neu/ynghyd â methiannau, dylai byrddau arholi adrannol gyflwyno argymhellion cynnydd i Fwrdd Arholi’r Senedd. Ystyrir pob argymhelliad gan banel amgylchiadau arbennig yn adrodd i Fwrdd Arholi’r Senedd, yn unol â’i gylch gorchwyl.
4.6 Cynlluniau Gradd gyda Modiwlau Lefel 0 (Blwyddyn Un), e.e. BSc Cyfrifiadureg BSc Ffiseg Cynllun Pedair Blynedd, ayyb1. Os yw myfyrwyr yn dilyn modiwlau Lefel 0 (Blwyddyn Un) fel rhan o’u gradd, byddant yn pasio os ydynt yn boldoni’r amodau isod yn yr asesiadau modiwl Lefel 0 (Blwyddyn Un):
(i) wedi cael marciau 40% neu uwch mewn modiwlau gwerth 100 credyd
a
(ii) wedi cael cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 40% o leiaf.
2 Fel arfer mae myfyrwyr sydd wedi dechrau Rhan Un CYN mis Medi 2018 yn cael hyd at dri chyfle i ailsefyll. Serch hynny, bydd rhaid i iddynt basio o leiaf 60 credyd er mwyn cael caniatâd i gael asesiadau ym mis Awst. Os ydynt wedi cael llai na 60 credyd bydd rhaid ail-wneud eich blwyddyn gyntaf.
3. Fel arfer, caiff myfyrwyr sydd wedi dechrau Rhan Un ERS mis Medi 2018 hyd at dri chyfle i ailsefyll. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle nesaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Caniateir i fyfyrwyr sefyll uchafswm o 80 credyd yng nghyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi methu mwy na 80 credyd i ailsefyll ym mis Awst o gwbl, a bydd yn rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn.
4. Ni chaiff myfyrwyr ddechrau Blwyddyn Dau (Modiwlau Lefel Un) tan iddynt fodloni’r holl amodau uchod (hynny yw, ni chaniateir ailsefyll modiwlau Lefel 0 a fethwyd wrth astudio ym Mlwyddyn Dau).
5. I fynd ymlaen y tu hwnt i Flwyddyn Dau bydd angen ichi fodloni’r un gofynion â’r rhai a osodir Adran 4.2 y Llawlyfr.
4.7 BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)Rheol Cynnydd
1. Bydd yn ofynnol i ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 1 ond nad yw'n cwblhau'r lleoliad arsylwi yn llwyddiannus, ailadrodd y flwyddyn.
Gwobrau Ymadael
2. Gall ymgeisydd sydd wedi defnyddio’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddo/iddi ailsefyll yn Rhan Un fod yn gymwys i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) (Astudiaethau Plentyndod Cynnar).
3. Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 1 ond nad yw'n parhau â'r astudiaeth yn gymwys i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) (Astudiaethau Plentyndod Cynnar).
4. Bydd ymgeisydd sydd wedi defnyddio’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddo/iddi ailsefyll yn Rhan Dau yn gymwys i dderbyn Diploma Addysg Uwch (CertHE) (Astudiaethau Plentyndod Cynnar) neu'r Radd Gyffredin (Astudiaethau Plentyndod Cynnar).
5. Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 2 ond nad yw'n parhau â'r astudiaeth yn gymwys i dderbyn Diploma Addysg Uwch (DipHE) (Astudiaethau Plentyndod Cynnar).
4.8 BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl)Yn berthnasol i bob myfyriwr sy'n dechrau o fis Medi 2022
Rheolau symud ymlaen
1. Y marc pasio ar gyfer modiwlau yw 40% ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr basio'r holl asesiadau ym mhob modiwl. Rhaid pasio pob modiwl, h.y. 120 credyd, er mwyn symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
2. Bydd gofyn i fyfyrwyr ailsefyll ac/neu ailgyflwyno'r elfen neu’r elfennau a fethwyd ym mhob semester. Bydd gan fyfyrwyr DDAU gyfle i ailsefyll modiwl neu elfen a fethwyd (ar wahân i'r elfen Ymarfer Proffesiynol - dim ond UN cyfle i ailsefyll honno a geir, a hynny ar ddiwedd y lleoliad). Y cyfle cyntaf fydd cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Os methir y cyfle i ailsefyll yn ystod yr haf, bydd y cyllid yn cael ei atal am flwyddyn a bydd gan fyfyrwyr un cyfle olaf i ailsefyll yn allanol o fewn 12 mis. Wedi iddynt ailsefyll yn allanol bydd myfyrwyr yn ailymuno â'r brif garfan yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
3. I fod yn gymwys i ennill dyfarniad BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl), rhaid i fyfyrwyr basio pob asesiad sy’n rhan o’r cymhwyster ym mhob modiwl ar draws Rhan Un a Rhan Dau, yn ogystal â chwblhau'r oriau angenrheidiol ar waith damcaniaethol a lleoliad. Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gymwys i ymuno â Chofrestr yr NMC.
Dyfarniadau gadael
4. Bydd ymgeisydd sydd yn ennill marc cyffredinol o 40% yn Rhan Un ond nad yw’n parhau â’i astudiaethau yn gymwys i dderbyn Tystysgrif Addysg Uwch (TAU) Astudiaethau Gofal Iechyd (120 credyd ar Lefel 4).
5. Bydd ymgeisydd sydd yn ennill marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 2 ond nad yw’n parhau â’i astudiaethau yn gymwys i dderbyn Diploma Addysg Uwch (DAU) Astudiaethau Gofal Iechyd (120 credyd ar Lefel 5).
6. Bydd ymgeisydd sy'n methu â chyflawni'r gofynion BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) a nodir ym mharagraff 3 uchod, ond sy'n bodloni rheoliadau graddau cychwynnol modiwlar PA yn gymwys i ennill dyfarniad BSc mewn Astudiaethau Gofal Iechyd.
4.9 Dychwelyd i Ymarfer (Nyrsio Oedolion)Rheolau symud ymlaen
1. Y marc pasio ar gyfer modiwlau yw 40% ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr basio'r holl asesiadau sy’n rhan o’r cymhwyster ym mhob modiwl. Rhaid pasio pob modiwl, h.y., 60 credyd, cyn y gall y Brifysgol roi gwybod i’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bod yr unigolyn yn gallu dychwelyd i ymarfer.
Cywiro methiant
2. Bydd gofyn i fyfyrwyr ailsefyll a/neu ailgyflwyno'r elfen(nau) a fethwyd ar ddiwedd y modiwl(au).
3. Dim ond asesiadau a fethwyd y gall myfyrwyr eu hailsefyll.
4. Bydd myfyrwyr yn cael UN cyfle i ailsefyll modiwl ymarfer neu elfen a fethwyd a rhoddir 7 wythnos iddynt wneud iawn am unrhyw waith ar leoliad a oedd yn eisiau.
5. Bydd myfyrwyr yn cael UN cyfle i ailsefyll modiwl damcaniaethol a fethwyd, o fewn y cyfnod o 27 wythnos.
4.10 Graddau Sylfaen: Rheolau Cynnydd-
4.10.1 Blwyddyn Un - Gofynion i drosglwyddo i’r Flwyddyn Olaf a i wneud Profiad Gwaith (FDSc yn unig)
Blwyddyn Un – Gofynion i drosglwyddo i’r Flwyddyn Olaf
1. Bydd myfyrwyr yn pasio Blwyddyn Un os ydynt yn bodloni’r ddau amod a ganlyn yn yr asesiadau ar gyfer modiwlau Blwyddyn Un:
(i) ennill marc o 40% neu ragor mewn modiwlau sy’n werth 100 o gredydau
a
(ii) cael cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 40% o leiaf.
2. Fel arfer, caiff myfyrwyr Rhan Un hyd at dri chyfle i ailsefyll. Dim ond hyd at 40% o’r marciau y gellir eu cael wrth ailsefyll. Serch hynny, bydd rhaid iddynt fod wedi pasio o leiaf 60 credyd i gael caniatâd i gael eu hasesu ym mis Awst. Os ydynt wedi pasio llai na 60 o gredydau, bydd rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn gyntaf.
Blwyddyn Un – Gofynion i wneud Profiad Gwaith (FDSc yn unig)
3. Graddau FDSc Dwy Flynedd: Caniateir i fyfyrwyr gamu ymlaen i’r cyfnod profiad gwaith chwe wythnos (lle mae hyn yn berthnasol) ond ni chaniateir iddynt fynd i’r flwyddyn derfynol hyd nes iddynt fodloni’r holl amodau uchod (h.y. caniateir ail-wneud uchafswm o 20 credyd yn unig o fodiwlau Blwyddyn Un a fethwyd, tra eu bod yn astudio yn y Flwyddyn Olaf, yn amodol ar y cyfyngiad ar y cyfleoedd ailsefyll).
4. Graddau Tair Blynedd: Caniateir i fyfyrwyr gamu ymlaen i’r flwyddyn Ryng-gwrs ar yr amod eu bod wedi pasio o leiaf 60 credyd yn y flwyddyn gyntaf, ond ni chaniateir iddynt gamu ymlaen i’r Flwyddyn Olaf hyd nes iddynt fodloni’r holl amodau uchod (h.y. caniateir ail-wneud uchafswm o 20 credyd yn unig o fodiwlau Blwyddyn Un a fethwyd, tra eu bod yn astudio yn y Flwyddyn Olaf, yn amodol ar y cyfyngiad ar y cyfleoedd ailsefyll).
-
4.10.2 I fod yn gymwys i gael Gradd Sylfaen
1. Cael cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 40% gan basio 200 credyd o 240 credyd yn ystod Blwyddyn Un a’r Flwyddyn Olaf, ac eithrio unrhyw gredydau a geir yn ystod lleoliad blwyddyn ryng-gwrs.
2. Peidio â methu mwy nag 20 credyd yn eu Blwyddyn Olaf.
3. Pasio’r flwyddyn Ryng-gwrs yn y cynllun Gradd Sylfaen tair blynedd.
4. Fel arfer, dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau (gydag arwydd ailsefyll f), a hynny i gael marc pasio moel o 40%. Dylid cymryd y cyfleoedd ailsefyll hyn ar y cyfle nesaf sydd ar gael (h.y. yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen).
5. Fel arfer, dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwl i gael y marc llawn (gydag arwydd ailsefyll h), a hynny YN UNIG pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Brifysgol, ar y cyfle nesaf sydd ar gael (h.y. yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen).
6. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll f. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.
7. Ni chaiff myfyrwyr ailsefyll y Flwyddyn Olaf â llechen lân ond ni fydd cyfyngu ar nifer y credydau y gellir eu hailsefyll fis Awst.
-
4.10.3 Dosbarthu Gradd
1. Bydd y Radd Sylfaen gyfan yn cael ei dyfarnu ar sail cyfartaledd wedi’i bwysoli o farciau’r holl fodiwlau, fel Pasio (40-54%), gyda Theilyngdod (55-69%) neu gyda Rhagoriaeth (70% ac uwch).
2. Wrth gyfrif y marc cyfartaledd wedi’i bwysoli bydd y rheolau a ganlyn yn berthnasol.
3. Bydd marciau yn cael eu pwysoli yn unol â gwerth credydol pob modiwl (h.y. bydd gan fodiwlau 20 credyd bwysau ddwywaith mwy na modiwlau 10 credyd, a.y.y.b.).
4. Bydd marciau yn cael eu trefnu mewn ‘rhaeadr’ yn unol â’r rheolau a ganlyn:
Gradd Sylfaen Dwy Flynedd
5.
Band 3: Bydd yr 80 credyd gorau ar Lefel Dau yn derbyn pwysoliad o 3
Band 2: Bydd gweddill credydau Lefel Dau, a 40 credyd gorau Lefel Un, yn derbyn pwysoliad o 2
Band 1: Bydd gweddill credydau Lefel Un yn derbyn pwysoliad o 1Gradd Sylfaen Tair Blynedd
6.
Band 3: Bydd yr 80 credyd gorau ar Lefel Dau yn derbyn pwysoliad o 3
Band 2: Bydd gweddill credydau Lefel Dau, a 40 credyd gorau Lefel Un, yn derbyn pwysoliad o 2
Band 1: Bydd gweddill credydau Lefel Un yn derbyn pwysoliad o 1
Band S: (120 credyd) gyda phwysoliad o 0.5 neu’r hyn a benderfynir gan yr Adran.7. Wrth ddyrannu marciau i Fandiau, ni fydd yr un marc Lefel Un yn gallu ymddangos mewn Band uwch na’r band y mae marc Lefel Dau yn ymddangos ynddo.
-
4.10.4 Y Trothwy (Confensiynau Graddau Sylfaen)
1. Mae’r rheolau a ganlyn yn berthnasol wrth weithredu’r Trothwy:
Pwysau Marciau
2. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 1%* i unrhyw ffin, RHAID eu codi i’r dosbarth uwch, ar yr amod eu bod yn bodloni un o’r gofynion hyn:
NAILL AI mae o leiaf 50% o gredydau yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs, yn y dosbarth uwch neu drosodd
NEU
mae o leiaf 80 credyd o blith y 120 credyd olaf yn y dosbarth uwch neu drosodd.
Amgylchiadau arbennig
3. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, CANIATEIR eu codi i’r dosbarth uwch ar argymhelliad y Bwrdd Arholi, os yw salwch neu amgylchiadau tosturiol eraill wedi effeithio ar eu perfformiad (er enghraifft amgylchiadau personol neu deuluol), a’r rheini heb gael eu hystyried eisoes pan gadarnhawyd marciau modiwlau unigol.
4. At ddibenion y rheol hon, caiff cyfartaleddau rhaeadr a ddangosir hyd at un pwynt degol er gwybodaeth i’r byrddau arholi eu talgrynnu i fyny (0.5 ac yn uwch) neu i lawr (<0.5) i’r cyfanrif agosaf.
5. Ni ddylid defnyddio’r Trothwy ond pan ddaw amgylchiadau arbennig neu academaidd i’r amlwg, na chawsant eisoes eu hystyried pan gadarnhawyd marciau modiwlau unigol.
6. Dylid cadw cofnod o bob penderfyniad, naill ai o blaid neu yn erbyn ymhob achos ymylol, fel y gellir amddiffyn y penderfyniad yn y dyfodol os oes angen.
7. Pan fo byrddau adrannol yn gwybod am amgylchiadau arbennig, ond nad ydynt yn eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu marciau a chaniatáu ailsefyll, dylai’r achosion unigol gael eu trafod a’u cofnodi ym Mwrdd Arholi’r Senedd yn y semester pan fydd y broblem yn codi. Pan fo myfyrwyr o fewn 2% i’r categori uwch, ni ddylid eu codi i’r categori uwch ar sail amgylchiadau arbennig oni bai fod y broblem wedi’i thrafod a’i chofnodi ar yr adeg y bu iddi godi NEU os nad oedd y broblem yn hysbys i’r byrddau arholi blaenorol.
-
4.10.5 Symud Ymlaen i gynlluniau baglor
1. Ar ôl cwblhau’r FDSc bydd gan bob myfyriwr y cyfle i symud ymlaen i ail flwyddyn cynllun gradd Anrhydedd priodol. At hyn, gellir cynnig i fyfyrwyr symud yn uniongyrchol i flwyddyn olaf cynllun gradd Anrhydedd priodol fel a ganlyn.
2. Rhaid bod myfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer FDSc dosbarthiadol wedi sicrhau Teilyngdod o leiaf yn y dosbarth cyffredinol, a derbyn geirda cefnogol gan Bwyllgor y Cynllun.
3. Rhaid bod myfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer FDSc annosbarthiadol wedi sicrhau graddau Teilyngdod neu uwch yn 180 o gredydau o leiaf (ac eithrio’r Rhaglen Profiad Gwaith), neu sicrhau graddau Teilyngdod neu uwch yn o leiaf 90 credyd o blith modiwlau’r flwyddyn olaf, a derbyn geirda cefnogol gan Bwyllgor y Cynllun.
4. Ar ôl cwblhau’r FDA bydd gan bob myfyriwr y cyfle i symud ymlaen i drydedd flwyddyn cynllun gradd Anrhydedd priodol, ar yr amod eu bod wedi bodloni'r gofynion symud ymlaen arferol sy’n weithredol wrth i israddedigion symud o flwyddyn dau i flwyddyn tri y cynllun BA.
4.11 FdSc Nyrsio Milfeddygol FDSC: Rheolau Cynnydd-
4.11.1 Blwyddyn Un – Gofynion i drosglwyddo i Flwyddyn Dau
1. Bydd myfyrwyr yn pasio blwyddyn un os ydynt yn bodloni’r ddau amod a ganlyn yn yr asesiadau ar gyfer modiwlau blwyddyn un:
(i) ennill marc o 40% neu ragor mewn modiwlau sy’n werth 120 o gredydau
a
(ii) Rhaid i fyfyrwyr basio pob elfen o bob modiwl. Rhaid i fyfyrwyr ailsefyll pob asesiad a fethwyd i basio'n gyffredinol.
2. Fel arfer, caiff myfyrwyr blwyddyn un hyd at DRI chyfle i ailsefyll. Dim ond hyd at 40% o’r marciau y gellir eu cael wrth ailsefyll. Bydd gofyn i fyfyrwyr achub ar y cyfle ailsefyll cyntaf ar gyfer yr holl asesiadau yng nghyfnod arholiadau ailsefyll yr haf ym mis Awst. Rhaid i'r ail gyfle i ailsefyll ar gyfer unrhyw fodiwlau a fethwyd ddigwydd yn ystod y sesiwn ganlynol, yn y semester mae'r modiwl yn cael, neu wedi cael ei ddysgu o'r blaen. Serch hynny, bydd rhaid i fyfyrwyr fod wedi pasio o leiaf 60 credyd i gael caniatâd i gael eu hasesu ym mis Awst; os ydynt wedi pasio llai na 60 o gredydau, bydd rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn gyntaf. Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (arwydd ail-sefyll M) ar gael gan Fyrddau Arholi os derbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar y perfformiad.
-
4.11.2 Blwyddyn Dau – Gofynion i ymgymryd â'r lleoliad integredig
1. Ar gyfer FdSc Nyrsio Milfeddygol, rhaid i fyfyrwyr basio pob elfen o'r 60 credyd yn semester un o flwyddyn dau er mwyn cael mynd ymlaen i'r lleoliad.
2. Os bydd myfyrwyr yn methu modiwl neu asesiad, byddant yn cael UN cyfle i ailsefyll yng nghyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst a gallant barhau â'u lleoliad tan y pwynt hwn. Os ydynt yn methu’r arholiad ailsefyll, ni fydd modd iddynt barhau â'u lleoliad mwyach a rhaid iddynt ailadrodd unrhyw fodiwlau a fethwyd o flwyddyn 2 (dyma'r ail ymgais ailsefyll).
-
4.11.3 I fod yn gymwys ar gyfer FdSc Milfeddygaeth
1. Rhaid i fyfyrwyr gael marc pasio o 40% o leiaf ym mhob elfen o’r 240 credyd a addysgir ac mae'n rhaid iddynt fod wedi cwblhau'r lleoliad blwyddyn rhyng-gwrs yn foddhaol.
2. Fel arfer, dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd yn y flwyddyn olaf (gydag arwydd ailsefyll F), a hynny i gael marc pasio o 40%. Dylid cymryd y cyfleoedd ailsefyll hyn ar y cyfle nesaf sydd ar gael (h.y. yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst neu yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen). Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (arwydd ail-sefyll H) ar gael gan Fyrddau Arholi os derbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar y perfformiad.
3. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll F. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.
-
4.11.4 Dosbarthu Gradd
1. Bydd y radd sylfaen gyfan yn cael ei dyfarnu ar sail cyfartaledd wedi’i bwysoli o farciau’r holl fodiwlau (ac eithrio’r lleoliad), fel pasio (40-54%), gyda theilyngdod (55-69%) neu gyda rhagoriaeth (70% ac uwch).
2. Wrth gyfrif y marc cyfartaledd wedi’i bwysoli bydd y rheolau a ganlyn yn berthnasol.
3. Bydd marciau yn cael eu pwysoli yn unol â gwerth credydol pob modiwl (h.y. bydd gan fodiwlau 20 credyd bwysau ddwywaith mwy na modiwlau 10 credyd, ac ati).
4. Bydd marciau yn cael eu trefnu mewn ‘rhaeadr’ yn unol â’r rheolau a ganlyn:
Band 3: Bydd yr 80 credyd gorau ar Lefel Dau yn derbyn pwysoliad o 3
Band 2: Bydd gweddill credydau Lefel Dau, a 40 credyd gorau Lefel Un, yn derbyn pwysoliad o 2
Band 1: Bydd gweddill credydau Lefel Un yn derbyn pwysoliad o 1
5. Mae'r flwyddyn lleoliad rhyng-gwrs yn ddi-gredyd ac ni fydd pwysoliad iddi yn y rhaeadr, ond mae'n rhaid ei chwblhau'n foddhaol.
6. Wrth ddyrannu marciau i Fandiau, ni fydd yr un marc Lefel Un yn gallu ymddangos mewn Band uwch na’r band y mae marc Lefel Dau yn ymddangos ynddo.
-
4.11.5 Drws Trugaredd (Confensiynau Graddau Sylfaen)
1. Mae’r rheolau a ganlyn yn berthnasol wrth weithredu’r Drws Trugaredd:
Pwysau Marciau
2. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 1%* i unrhyw ffin, RHAID eu codi i’r dosbarth uwch, ar yr amod eu bod yn bodloni un o’r gofynion hyn:
NAILL AI mae o leiaf 50% o gredydau yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs, yn y dosbarth uwch neu drosodd
NEU
mae o leiaf 80 credyd o blith y 120 credyd olaf yn y dosbarth uwch neu drosodd.
Amgylchiadau Arbennig
3. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, CANIATEIR eu codi i’r dosbarth uwch ar argymhelliad y Bwrdd Arholi, os yw salwch neu amgylchiadau tosturiol eraill wedi effeithio ar eu perfformiad (er enghraifft amgylchiadau personol neu deuluol), a’r rheini heb gael eu hystyried eisoes pan gadarnhawyd marciau modiwlau unigol.
4. At ddibenion y rheol hon, caiff cyfartaleddau rhaeadr a ddangosir hyd at un pwynt degol er gwybodaeth i’r byrddau arholi eu talgrynnu i fyny (0.5 ac yn uwch) neu i lawr (<0.5) i’r cyfanrif agosaf.
5. Ni ddylid defnyddio’r Drws Trugaredd ond pan ddaw amgylchiadau arbennig neu academaidd i’r amlwg, na chawsant eisoes eu hystyried pan gadarnhawyd marciau modiwlau unigol.
6. Dylid cadw cofnod o bob penderfyniad, naill ai o blaid neu yn erbyn ymhob achos ymylol, fel y gellir amddiffyn y penderfyniad yn y dyfodol os oes angen.
7. Pan fo byrddau adrannol yn gwybod am amgylchiadau arbennig, ond nad ydynt yn eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu marciau a chaniatáu ailsefyll, dylai’r achosion unigol gael eu trafod a’u cofnodi ym Mwrdd Arholi’r Senedd yn y semester pan fydd y broblem yn codi. Pan fo myfyrwyr o fewn 2% i’r categori uwch, ni ddylid eu codi i’r categori uwch ar sail amgylchiadau arbennig oni bai fod y broblem wedi’i thrafod a’i chofnodi ar yr adeg y bu iddi godi NEU os nad oedd y broblem yn hysbys i’r byrddau arholi blaenorol.
-
4.11.6 Symud Ymlaen i gynlluniau Baglor
1. Ar ôl cwblhau’r FdSc bydd gan bob myfyriwr sy’n gymwys am FdSc â dosbarth, sydd wedi sicrhau teilyngdod o leiaf yn y dosbarth cyffredinol ac sydd wedi derbyn geirda cefnogol gan Gydlynydd eu Cynllun, yn cael y cyfle i symud ymlaen i ail flwyddyn cynllun gradd Anrhydedd priodol. Caiff hyn ei ystyried fesul achos a bydd angen cymeradwyaeth Cydlynydd y Cynllun Gradd Anrhydedd.
4.12 Confensiynau Pennu Dosbarth Graddau Modiwlar1. Fel arfer, bydd dosbarth gradd anrhydedd myfyriwr yn cael ei bennu yn unol â’r rheolau a ganlyn.
2. Pennir dosbarth y radd yn ei chrynswth ar sail cyfartaledd y rhaeadr farciau cyfartalog am bob modiwl sy’n cyfrannu tuag at asesiad y radd anrhydedd, gan ddefnyddio’r dosbarthiadau yn Nhabl 1:
Tabl 1 – Dosbarthiadau GraddauColumn 2 I 70% a throsodd II(1) 60-69% II(2) 50-59% III 40-49% (nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr a ddechreuodd ar Ran Dau Cynllun Meistr Integredig ar ôl mis Medi 2016) METHU llai na 40% 3. Wrth gyfrifo’r marc cyfartalog wedi’i bwysoli, defnyddir y rheolau a ganlyn.
4. Rhoddir pwysoliad i bob marc yn ôl gwerth y credydau sydd i bob modiwl (h.y. bydd modiwlau 20 credyd gwerth ddwywaith y modiwlau 10 credyd, ac ati).
5. Pwysoliad Band S ar gyfer cynlluniau gyda Blwyddyn Ryng-gwrs gyda Blwyddyn Integredig yn Astudio Dramor fydd SERO (0). Ar gyfer cynlluniau gyda Blwyddyn Ryng-gwrs gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant, pennir y pwysoliad o 0/0.25/0/5 ar lefel cynllun.
Cynlluniau tair blynedd
6. Caiff y marciau eu ‘rhaeadru’ yn unol â’r rheolau a ganlyn:
Band 3: Yr 80 credyd gorau ar Lefel Tri, sy’n cael pwysoliad o 3.
Band 2: Yr 80 credyd ail-orau ar Lefel Tri a Lefel Dau, sy’n cael pwysoliad o 2.
Band 1: Gweddill credydau Lefelau Tri a Dau, ac unrhyw gredydau Lefel Un a gymerwyd yn Rhan Dau, sy’n cael pwysoliad o 1.
Cynlluniau 4 blynedd sy’n cynnwys 3 blynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan Un
7.
Band 4: Y 90 credyd gorau ar Lefel M, sy’n cael pwysoliad o 4.
Band 3: Y 90 credyd ail-orau ar Lefel M a Lefel Tri, sy’n cael pwysoliad o 3.
Band 2: Y 90 credyd nesaf ar Lefel Tri a Lefel Dau, sy’n cael pwysoliad o 2.
Band 1: Gweddill credydau Lefel Tri a Dau, ac unrhyw gredydau Lefel Un a gymerwyd yn Rhan Dau, sy’n cael pwysoliad o 1.
4 blynedd gyda 2 flynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan Un yn ogystal â Blwyddyn Ryng-gwrs neu Flwyddyn Dramor, gan gynnwys cynlluniau nad ydynt yn rhai ieithyddol ond sy'n cynnwys blwyddyn yn Astudio Dramor
8.
Band 3: Yr 80 credyd gorau ar Lefel Tri, sy’n cael pwysoliad o 3.
Band 2: Yr 80 credyd ail-orau ar Lefel Tri a Lefel Dau, sy’n cael pwysoliad o 2.
Band 1: Gweddill credydau Lefel Tri a Dau, ac unrhyw gredydau Lefel Un a gymerwyd yn Rhan Dau, sy’n cael pwysoliad o 1.
Band S: (120 credyd) â phwysoliad o 0/0.25/0.5.
Cynlluniau 5 mlynedd yn cynnwys 3 blynedd yn Aberystwyth ar ôl Rhan Un yn ogystal â Blwyddyn Ryng-gwrs (MEng)
9.
Band 4: Y 90 credyd gorau ar Lefel M, sy’n cael pwysoliad o 4.
Band 3: Y 90 credyd ail-orau ar Lefel M a Lefel Tri, sy’n cael pwysoliad o 3.
Band 2: Y 90 credyd nesaf ar Lefel Tri a Lefel Dau, sy’n cael pwysoliad o 2.
Band 1: Gweddill credydau Lefel Tri, Dau, ac unrhyw gredydau Lefel Un a gymerwyd yn Rhan Dau, sy’n cael pwysoliad o 1.
Band S: 120 credyd â phwysoliad o 0/0.25/0.5.
10. Wrth ddyrannu marciau i Fandiau, ni chaniateir i unrhyw farc Lefel Dau ymddangos mewn Band uwch na Band lle mae marc Lefel Tri yn ymddangos ac ni chaniateir i unrhyw farc Lefel Tri ymddangos mewn Band uwch na Band lle mae marc Lefel M yn ymddangos.
11. Os yw credyd wedi’i drosglwyddo o sefydliad arall (gan gynnwys lle bo myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid), caiff y rhaeadr ei chyfrifo ar sail y marciau a ddyfernir gan Brifysgol Aberystwyth yn unig a’i llenwi o’r band uchaf i lawr, lle daw’r 80 credyd gorau ar lefel uchaf y band uchaf yn gyntaf a chan adael y band isaf wedi’i lenwi’n rhannol neu’n wag, yn unol â’r rheolau uchod.
12. Cynlluniau Atodol Un Flwyddyn: cyfrifir y rhaeadr ar sail y marciau a ddyfarnwyd gan PA yn unig, a chaiff ei llenwi o'r band uchaf i lawr, gan roi’r 80 credyd gorau ar y lefel uchaf yn y band uchaf yn gyntaf, ac yna'r 40 credyd sy'n weddill yn y band isaf.
4.13 Y Trothwy (Confensiynau Graddau Anrhydedd)1. Mae’r rheolau a ganlyn yn berthnasol wrth weithredu’r Trothwy:
Pwysau Marciau
2. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 1%* i unrhyw ffin, RHAID eu codi i’r dosbarth uwch, ar yr amod eu bod yn bodloni un o’r gofynion hyn:
NAILL AI mae o leiaf 50% o gredydau Rhan Dau yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs neu Flwyddyn Dramor, yn y dosbarth uwch neu drosodd
NEU
mae o leiaf 80 credyd o blith 120 credyd olaf Rhan Dau yn y dosbarth uwch neu drosodd.
Amgylchiadau arbennig
3. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, CANIATEIR eu codi i’r dosbarth uwch ar argymhelliad y Bwrdd Arholi, os yw salwch neu amgylchiadau tosturiol eraill wedi effeithio ar eu perfformiad yn Rhan Dau (er enghraifft amgylchiadau personol neu deuluol), a’r rheini heb gael eu hystyried eisoes pan gadarnhawyd marciau modiwlau unigol.
4. At ddibenion y rheol hon, caiff cyfartaleddau rhaeadr a ddangosir hyd at un pwynt degol er gwybodaeth i’r byrddau arholi eu talgrynnu i fyny (0.5 ac yn uwch) neu i lawr (<0.5) i’r cyfanrif agosaf.
5. Ni ddylid defnyddio’r Trothwy ond pan ddaw amgylchiadau arbennig neu academaidd i’r amlwg, na chawsant eisoes eu hystyried pan gadarnhawyd marciau modiwlau unigol.
6. Dylid cadw cofnod o bob penderfyniad, naill ai o blaid neu yn erbyn ymhob achos ymylol, fel y gellir amddiffyn y penderfyniad yn y dyfodol os oes angen.
7. Pan fo byrddau adrannol yn gwybod am amgylchiadau arbennig, ond nad ydynt yn eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu marciau a chaniatáu ailsefyll, dylai’r achosion unigol gael eu trafod a’u cofnodi ym Mwrdd Arholi’r Adran yn y semester pan fydd y broblem yn codi. Pan fo myfyrwyr o fewn 2% i’r categori uwch, ni ddylid eu codi i’r categori uwch ar sail amgylchiadau arbennig oni bai fod y broblem wedi’i thrafod a’i chofnodi ar yr adeg y bu iddi godi NEU os nad oedd y broblem yn hysbys i’r byrddau arholi blaenorol.
4.14 Gradd Baglor Gyffredin1. Gellir dyfarnu Gradd Baglor Gyffredin fel cymhwyster ymadael heb ddosbarth, a hynny i fyfyrwyr israddedig sydd wedi gasglu’r credydau a amlinellir isod yn llwyddiannus, ond sydd heb gasglu’r credydau angenrheidiol ar gyfer dyfarnu Gradd Baglor gydag Anrhydedd. Y cymhwyster ymadael i fyfyrwyr i fyfyrwyr ym mlwyddyn olaf gradd Meistr Integredig yw Gradd Baglor gydag Anrhydedd.
2. I fod yn gymwys i gael Gradd Gyffredin rhaid bod y myfyrwyr wedi:
(i) Llwyddo i gasglu 120 credyd yn llwyddiannus, yn ôl y confensiynau arferol ar gyfer cwblhau Rhan Un cynlluniau Gradd a Graddau Sylfaen
(ii) Dilyn o leiaf 300 credyd i gyd, gyda lleiafswm o 60 credyd ar Lefel Tri neu uwch
(iii) Cael marc pasio o 40% mewn o leiaf 160 credyd yn Rhan Dau yn ei chrynswth (ac eithrio modiwlau Lefel S).
3. Drwy’r cynllun Crynhoi a Throsglwyddo Credydau, gall myfyrwyr â chymwysterau addas gael eu heithrio o hyd at 120 credyd ar Lefel Un.
4. Ni fydd myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl dros dro gyda’r bwriad o ddychwelyd yn ddiweddarach er mwyn cwblhau eu hastudiaethau yn gymwys i dderbyn y Radd Gyffredin wrth iddynt dynnu’n ôl.
5. Cymhwyster wrth gefn ar gyfer cynlluniau Baglor a Meistr Integredig yw’r Radd Gyffredin, ac ni chaiff ei hysbysebu i ddarpar ymgeiswyr. Ni ellir ei dyfarnu fel cymhwyster ynddi ei hun i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cynlluniau a gymeradwywyd gan y Brifysgol yn llwyddiannus.
4.15 Confensiynau Dyfarnu Tystysgrifau neu Ddiplomâu Addysg Uwch1. Gellir dyfarnu Tystysgrifau a Diplomâu Addysg Uwch yn gymwysterau ynddynt eu hunain i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cynlluniau astudio a gymeradwywyd gan y Brifysgol yn llwyddiannus.
2. Yn ogystal, gellir dyfarnu Tystysgrifau a Diplomâu Addysg Uwch yn gymwysterau i fyfyrwyr a enillodd gredydau sy'n annigonol er mwyn cael gradd, yn amodol ar ofynion penodol y cynllun.
3. Bydd y confensiynau a ganlyn yn berthnasol i’r achosion a nodir yn y paragraff uchod:
Tystysgrifau Addysg Uwch
4. Ennill 120 credyd yn unol â’r confensiynau sydd fel arfer yn rheoli cwblhau Rhan Un cynlluniau gradd a chynlluniau Graddau Sylfaen.
Diplomâu Addysg Uwch
5. I fod yn gymwys i gael Diploma Addysg Uwch rhaid bod y myfyrwyr wedi:
(i) dilyn o leiaf 240 credyd i gyd, gydag o leiaf 100 o’r credydau hynny ar Lefel Dau neu’n uwch
a
(ii) cael marc pasio o 40 mewn o leiaf 90 credyd ym Mlwyddyn Dau (neu’r hyn sy’n cyfateb iddi) neu 120 credyd dros Ran Dau yn ei chrynswth (ac eithrio modiwlau Lefel S).
6. Drwy'r cynllun Crynhoi a Throsglwyddo Credydau, gall myfyrwyr â chymwysterau addas gael eu heithrio o hyd at 120 credyd ar Lefel Un.
7. Ni fydd myfyrwyr sy’n gadael dros dro gyda’r bwriad o ddychwelyd at eu hastudiaethau’n ddiweddarach yn gymwys i gael Tystysgrif na Diploma Addysg Uwch.
4.16 Tystysgrif Addysg Uwch: Addysg Gofal IechydYn berthnasol i bob myfyriwr sy'n dechrau o fis Medi 2023
Rheolau symud ymlaen
1. Y marc i basio modiwlau yw 40% ac mae'n rhaid i fyfyrwyr basio bob asesiad sy’n rhan o’r cymhwyster ym mhob modiwl i ennill y dyfarniad.
Cywiro methiant
2. Bydd angen i fyfyrwyr ailsefyll ac/neu ailgyflwyno'r elfen neu’r elfennau a fethwyd ym mhob semester. Bydd myfyrwyr yn cael DAU gyfle i ailsefyll cydran neu fodiwl theori a fethwyd. Daw’r cyfle cyntaf i ailsefyll yn ystod y flwyddyn. Os methir y cyfle i ailsefyll yn ystod y flwyddyn, bydd y cyllid yn cael ei atal am flwyddyn a bydd gan fyfyrwyr un cyfle olaf i ailsefyll yn allanol o fewn 12 mis. Ar ôl ailsefyll yn allanol bydd myfyrwyr yn ailymuno â'r brif garfan yn ystod y sesiwn academaidd nesaf.
3. Dim ond UN cyfle ailsefyll a geir yn achos yr elfen Ymarfer Proffesiynol ar ddiwedd y lleoliad. Bydd myfyrwyr sy’n gorfod ailsefyll yr elfen Ymarfer Proffesiynol ac sydd eisiau symud ymlaen i nyrsio’n rhan-amser yn gwneud hynny ar y cyfle nesaf (h.y. y flwyddyn ddilynol).
4. Dim ond asesiadau a fethwyd y mae myfyrwyr yn cael eu hailsefyll.
Dyfarniadau gadael
5. Nid oes unrhyw ddyfarniadau wrth gefn.
Newid Statws Cyflogaeth
6. Os yw cyflogwr yn rhoi’r gorau i gyflogi myfyriwr yn ystod y rhaglen:
i) Pe bai cyflogwr yn rhoi’r gorau i gyflogi myfyriwr yn ystod y rhaglen, byddai disgwyl i'r myfyriwr dynnu'n ôl dros dro bryd hynny. Pe bai'r myfyriwr yn cael ei gyflogi o’r newydd o fewn i delerau contract AaGIC, ac yn unol â chytundeb ei reolwr llinell newydd, gall fynd yn ôl at ei astudiaethau yn nes ymlaen.
ii) Os na fydd myfyrwyr yn llwyddo i gael gwaith cyflogedig o fewn i delerau contract AaGIC byddant yn cael eu tynnu o'r rhaglen yn barhaol.
7. Newid swyddogaeth myfyriwr yn ystod y rhaglen:
i) Pe bai'r gwaith newydd (yr un cyflogwr) yn ymwneud â chleifion/defnyddwyr y gwasanaeth, ac y gallent gael cefnogaeth ymarferol gan Oruchwylwyr Ymarfer ac Aseswr Ymarfer, caniateir i fyfyrwyr barhau â'r rhaglen.
ii) Pe na bai’r gwaith newydd (yr un cyflogwr) yn ymwneud â chleifion/defnyddwyr gwasanaeth, rhaid iddynt naill ai dynnu'n ôl dros dro neu dynnu'n ôl o'r rhaglen yn barhaol, gan fod y gwaith hwnnw'n golygu na fyddent yn gallu cyflawni gofynion y modiwl craidd seiliedig ar ymarfer, sy'n ofynnol i gwblhau'r rhaglen.
iii) Pe bai’r gwaith newydd gyda chyflogwr gwahanol, yna eto cyhyd â bod y swydd newydd yn ymwneud â chleifion/defnyddwyr gwasanaeth, gallent barhau â'r rhaglen, cyhyd â bod y cyflogwr newydd yn cytuno i barhau eu habsenoldeb astudio, i ryddhau amser astudio.
4.17 Llechen Lân1. Mae hyn yn berthnasol i'r israddedigion hynny a ddechreuodd ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn fyfyrwyr cofrestredig CYN Medi 2016 YN UNIG ac a ddechreuodd Ran Dau CYN Medi 2017. Fel rheol caniateir dau gyfle ailsefyll i fyfyrwyr a ddechreuodd Ran Dau ERS Medi 2017, a hynny am farc wedi ei gapio yn unol â’r hyn a amlinellir yn Adrannau 4.2, 4.3 a 4.7 y Llawlyfr, ond ni chaniateir iddynt gael llechen lân.
2. Gyda chytundeb y Brifysgol, gellir caniatáu i fyfyriwr ailsefyll Blwyddyn 2 (Blwyddyn 1 ar gyfer myfyrwyr Gradd Sylfaen) yn ei chyfanrwydd ar gyfer y marciau llawn yn hytrach nag ailsefyll y credydau a fethwyd yn unig.
3. Er mwyn i hyn gael ei gymeradwyo, rhaid i’r myfyriwr gytuno’n ffurfiol i ildio’r holl farciau a gafodd eisoes. Ni fydd y rhain yn cyfrif bellach tuag at ddosbarth terfynol y radd ac ni ellir ail-alw arnynt os na bydd y myfyriwr yn perfformio cystal yn ystod y flwyddyn ailsefyll. Yr unig eithriad fyddai achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol lle dyfernir dangosydd N; gall fod angen ystyriaeth bellach.
4. Ni fydd ceisiadau myfyrwyr yn cael eu hystyried hyd nes bydd marciau semester dau wedi eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.
5. Dim ond unwaith y caiff myfyrwyr ddechrau â llechen lân, a hynny gyda chymeradwyaeth eu Cyfadrannau.
6. Ni chaiff myfyrwyr ond ddechrau â llechen lân yn y cyd-destun ei bod yn ofynnol iddynt gwblhau gradd sylfaen ddwy flynedd amser llawn cyn pen pedair blynedd a gradd sylfaen dair blynedd cyn pen pum mlynedd.
7. Os bydd myfyrwyr yn dewis dechrau â llechen lân, dylid nodi y bydd trawsgrifiad y flwyddyn derfynol a’r Cofnod Cyrhaeddiad Addysg Uwch yn cynnwys cofnod o’r marciau a gafwyd yn ystod y flwyddyn.
8. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw cadarnhau a fydd unrhyw effaith ar eu fisâu, fel y bo’n briodol.
4.18 Cyflwyniad i Ddyfarniadau Uwchraddedig trwy Gwrs1. Ceir hyd i’r Rheoliadau yma: Rheoliadau ar gyfer Dyfarniadau Uwchraddedig Modiwlar trwy Gwrs : Cofrestrfa Academaidd , Prifysgol Aberystwyth a dylid eu darllen ochr yn ochr â’r rheolau cynnydd a amlinellir yn 4.19 isod.
2. Rhaglen uwchraddedig ar lefel ‘M’ nad yw’n gyfan gwbl seiliedig ar draethawd ymchwil yw cynllun uwchraddedig drwy gwrs. Yn eu plith mae MRes, MA, MSc, LLM.
4.19 Rheolau ar gyfer Dyfarniadau Uwchraddedig: Rheolau Cynnydd-
4.19.1 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS Mis Medi 2018
1. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs, rhaid i’r myfyriwr gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 50% o leiaf
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r cyfanswm o 180 credyd a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.
2. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Theilyngdod, rhaid i’r myfyriwr gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 60% o leiaf
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r modiwlau a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.
3. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Rhagoriaeth, rhaid i’r myfyriwr gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 70% o leiaf
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.
4. I fod yn gymwys i gael Diploma Uwchraddedig, rhaid i fyfyriwr:
(i) gwblhau lleiafswm o 120 credyd
(ii) gael marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 100 credyd
(iii) gael cyfartaledd wedi’i bwysoli o 50% o leiaf dros 120 credyd.
Os oes mwy na 120 o gredydau wedi eu cwblhau, defnyddir y 120 credyd o farciau uchaf er mwyn cyfrifo’r marc cyffredinol, a hynny er mwyn penderfynu a yw’r diploma wedi ei basio a dosbarth y dyfarniad.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60-69% yn gymwys i gael Teilyngdod.
5. I fod yn gymwys i gael dyfarniad Tystysgrif Uwchraddedig rhaid i fyfyriwr basio lleiafswm o 60 credyd. Os yw myfyriwr wedi cwblhau mwy na 60 credyd, defnyddir y 60 credyd o farciau uchaf er mwyn cyfrifo’r marc cyffredinol a phennu dosbarth y dyfarniad.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60-69% yn gymwys i gael Teilyngdod.
Cywiro Methiant
6. Caiff myfyrwyr sy’n ailsefyll modiwlau a fethwyd wneud hynny ddwywaith i gael marc uchaf o 50% (ac eithrio pan fydd amgylchiadau arbennig wedi’u derbyn). Dyfernir bod gwaith sydd heb ei gyflwyno, yn cynnwys y traethawd hir, wedi ei fethu, a chaniateir ailsefyll hwn hefyd am farc o 50% ar gyfer y modiwl, wedi ei gapio. Fodd bynnag, nid oes modd i fyfyrwyr ailsefyll er mwyn gwella dosbarth y dyfarniad, wedi iddynt gymhwyso.
7. Bydd myfyrwyr Meistr amser-llawn yn cofrestru am gyfnod o 12 mis. Bydd ganddynt derfyn amser o dair blynedd ar y mwyaf o’r dyddiad dechrau er mwyn cwblhau’r radd. Yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf yn y flwyddyn gyntaf, mae modd iddynt ailsefyll uchafswm o 60 credyd o fodiwlau trwy gwrs a fethwyd, ond mae modd iddynt ohirio ailsefyll y modiwlau trwy gwrs. Fodd bynnag, mae’n rhaid ailsefyll y modiwlau hyn yn y flwyddyn ddilynol, un ai yn ystod y semester neu/ac yng nghyfnod ailsefyll yr haf. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i fyfyrwyr gyda’u trefniadau ailsefyll a’r traethawd hir yn y flwyddyn gyntaf.
8. Mae modd i fyfyrwyr Meistr amser-llawn sydd heb basio’r traethawd hir, neu heb ei gyflwyno o fewn y cyfnod cofrestru 12 mis, ei gyflwyno neu ei ailgyflwyno unrhyw bryd hyd at ddiwedd yr ail flwyddyn. Byddai ganddynt gyfle olaf i ailgyflwyno yn ystod y drydedd flwyddyn.
9. Caniateir ailsefyll am farciau llawn pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu cymeradwyo, a gall myfyrwyr dynnu’n ôl am gyfnod, ond disgwylir y byddant yn cwblhau o fewn 3 blynedd ar y mwyaf. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor gymeradwyo cyfnod pellach o 12 mis.
10. Bydd gan fyfyrwyr Meistr amser-llawn ar radd Meistr dwy flynedd uchafswm o bedair blynedd er mwyn cwblhau’r radd. Yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf yn y flwyddyn gyntaf, mae modd iddynt ailsefyll uchafswm o 60 credyd o fodiwlau trwy gwrs a fethwyd, ond mae modd iddynt ohirio ailsefyll y modiwlau trwy gwrs. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt gwblhau’r rhain erbyn diwedd y drydedd flwyddyn. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i reoli asesiadau ailsefyll, ac yn cydnabod y gallai fod yn anodd i fyfyrwyr ailsefyll tra’n cwblhau lleoliadau mewn diwydiant neu’n mynychu prifysgol bartnerol. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor gymeradwyo cyfnod pellach o 12 mis.
11. Bydd gan fyfyrwyr ar gyrsiau Diploma a Thystysgrif gyfnod ychwanegol o 12 mis ar ôl diwedd cyfnod y cwrs er mwyn cwblhau unrhyw asesiadau ailsefyll.
12. Mae cyfnod cyrsiau ymgeiswyr Meistr rhan-amser a Dysgu o Bell yn hwy, ac mae ganddynt hyblygrwydd er mwyn ailsefyll modiwlau yn ystod y cyfnodau hynny. Dylent fod wedi cwblhau asesiadau ailsefyll unrhyw fodiwlau trwy gwrs cyn dechrau blwyddyn olaf eu terfyn amser hwyaf.
Trothwy
13. Pan fydd myfyrwyr wedi cwblhau 180 credyd, ac wedi cyflwyno amgylchiadau arbennig, gall y Byrddau Arholi ddyfarnu gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth i’r rheini y mae eu cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli hyd at 2% islaw’r ffin, a phan fydd gofynion eraill wedi’u bodloni, sef:
Gellir ystyried rhoi gradd LLWYDDO i rai â chyfartaledd o 47.5% - 49.4%
Gellir ystyried rhoi gradd TEILYNGDOD i rai â chyfartaledd o 57.5-59.4%
Gellir ystyried rhoi gradd RHAGORIAETH i rai â chyfartaledd o 67.5% - 69.4Pan fydd yn gwneud argymhellion o’r fath o fewn y trothwy o 2%, rhaid i’r Bwrdd Arholi fod yn fodlon y byddai’r myfyriwr wedi cyrraedd y safon ofynnol pe na bai’r amgylchiadau arbennig wedi effeithio’n andwyol ar ei berfformiad.
-
4.19.2 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS mis Medi 2023
1. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs, rhaid i’r myfyriwr gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 50% o leiaf
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r cyfanswm o 180 credyd a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.
2. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Theilyngdod, rhaid i’r myfyriwr gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 60% o leiaf
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r modiwlau a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.
3. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Rhagoriaeth, rhaid i’r myfyriwr gael:
(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 70% o leiaf
(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.
4. I fod yn gymwys i gael Diploma Uwchraddedig, rhaid i fyfyriwr:
(i) gwblhau lleiafswm o 120 credyd
(ii) gael marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 100 credyd
(iii) gael cyfartaledd wedi’i bwysoli o 50% o leiaf dros 120 credyd.
Os oes mwy na 120 o gredydau wedi eu cwblhau, defnyddir y 120 credyd o farciau uchaf er mwyn cyfrifo’r marc cyffredinol, a hynny er mwyn penderfynu a yw’r diploma wedi ei basio a dosbarth y dyfarniad.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60-69% yn gymwys i gael Teilyngdod.
5. I fod yn gymwys i gael dyfarniad Tystysgrif Uwchraddedig rhaid i fyfyriwr basio lleiafswm o 60 credyd. Os yw myfyriwr wedi cwblhau mwy na 60 credyd, defnyddir y 60 credyd o farciau uchaf er mwyn cyfrifo’r marc cyffredinol a phennu dosbarth y dyfarniad.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.
Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60-69% yn gymwys i gael Teilyngdod.
6. NID yw marciau lleoliadau gwaith yn cyfrif yn nosbarth gradd ac nid yw credydau a ddyfarnwyd am gwblhau lleoliad diwydiannol yn cael eu cynnwys wrth ddyfarnu PGCert neu PGDip.
Cywiro Methiant
7. Caiff myfyrwyr sy’n ailsefyll modiwlau a fethwyd wneud hynny ddwywaith i gael marc uchaf o 50% (ac eithrio pan fydd amgylchiadau arbennig wedi’u derbyn). Dyfernir bod gwaith sydd heb ei gyflwyno, yn cynnwys y traethawd hir, wedi ei fethu, a chaniateir ailsefyll hwn hefyd am farc o 50% ar gyfer y modiwl, wedi ei gapio. Fodd bynnag, nid oes modd i fyfyrwyr ailsefyll er mwyn gwella dosbarth y dyfarniad, wedi iddynt gymhwyso.
8. Fel arfer, bydd myfyrwyr Gradd Meistr amser llawn yn cofrestru am gyfnod o 12 mis. Bydd ganddynt derfyn amser o dair blynedd ar y mwyaf o’r dyddiad dechrau er mwyn cwblhau’r radd. Yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf yn y flwyddyn gyntaf, mae modd iddynt ailsefyll uchafswm o 60 credyd o fodiwlau trwy gwrs a fethwyd, ond mae modd iddynt ohirio ailsefyll y modiwlau trwy gwrs. Fodd bynnag, mae’n rhaid ailsefyll y modiwlau hyn yn y flwyddyn ddilynol, un ai yn ystod y semester neu/ac yng nghyfnod ailsefyll yr haf. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i fyfyrwyr gyda’u trefniadau ailsefyll a’r traethawd hir yn y flwyddyn gyntaf.
9. Mae modd i fyfyrwyr Meistr amser-llawn sydd heb basio’r traethawd hir, neu heb ei gyflwyno o fewn y cyfnod cofrestru 12 mis, ei gyflwyno neu ei ailgyflwyno unrhyw bryd hyd at ddiwedd yr ail flwyddyn. Byddai ganddynt gyfle olaf i ailgyflwyno yn ystod y drydedd flwyddyn.
10. Caniateir ailsefyll am farciau llawn pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu cymeradwyo, a gall myfyrwyr dynnu’n ôl am gyfnod, ond disgwylir y byddant yn cwblhau o fewn 3 blynedd ar y mwyaf. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor gymeradwyo cyfnod pellach o 12 mis.
11. Bydd myfyrwyr Gradd Meistr amser llawn ar gynlluniau sy’n para’n hirach, megis gradd Meistr 18 mis neu ddwy flynedd, yn cael hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cofrestru i gwblhau eu gradd. Byddant yn cael ailsefyll uchafswm o 60 credyd o fodiwlau a fethwyd yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf yn y flwyddyn gyntaf neu'r ail, yn dibynnu pryd y maent yn cofrestru’n wreiddiol, ond gallant ddewis gohirio'r arholiadau hynny. Fodd bynnag, rhaid iddynt gael eu cwblhau erbyn diwedd y drydedd flwyddyn. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i reoli asesiadau ailsefyll, ac yn cydnabod y gallai fod yn anodd i fyfyrwyr ailsefyll tra’n cwblhau lleoliadau mewn diwydiant neu’n mynychu prifysgol bartnerol. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor gymeradwyo cyfnod pellach o 12 mis.
12. Pan fydd cwrs yn dechrau ar adeg heblaw am ddechrau sesiwn academaidd ac na ellir, am resymau ymarferol, ei gwblhau o fewn 12 mis o astudio amser llawn neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser, bydd yr adran yn pennu hyd y cwrs. Bydd y cyfnodau a ganiateir er mwyn cywiro methiant yn dilyn egwyddorion y rheoliadau ar gyfer cyrsiau 12 mis, h.y. dwy flynedd ar ôl cwblhau'r cyfnod cofrestru.
13. Bydd gan fyfyrwyr ar gyrsiau Diploma a Thystysgrif gyfnod ychwanegol o 12 mis ar ôl diwedd cyfnod y cwrs er mwyn cwblhau unrhyw asesiadau ailsefyll.
14. Mae cyfnod cyrsiau ymgeiswyr Meistr rhan-amser a Dysgu o Bell yn hwy, ac mae ganddynt hyblygrwydd er mwyn ailsefyll modiwlau yn ystod y cyfnodau hynny. Dylent fod wedi cwblhau asesiadau ailsefyll unrhyw fodiwlau trwy gwrs cyn dechrau blwyddyn olaf eu terfyn amser hwyaf.
Trothwy
15. Pan fydd myfyrwyr wedi cwblhau 180 credyd, ac wedi cyflwyno amgylchiadau arbennig, gall y Byrddau Arholi ddyfarnu gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth i’r rheini y mae eu cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli hyd at 2% islaw’r ffin, a phan fydd gofynion eraill wedi’u bodloni, sef:
Gellir ystyried rhoi gradd LLWYDDO i rai â chyfartaledd o 47.5% - 49.4%
Gellir ystyried rhoi gradd TEILYNGDOD i rai â chyfartaledd o 57.5-59.4%
Gellir ystyried rhoi gradd RHAGORIAETH i rai â chyfartaledd o 67.5% - 69.416. Pan fydd yn gwneud argymhellion o’r fath o fewn y trothwy o 2%, rhaid i’r Bwrdd Arholi fod yn fodlon y byddai’r myfyriwr wedi cyrraedd y safon ofynnol pe na bai’r amgylchiadau arbennig wedi effeithio’n andwyol ar ei berfformiad.
4.20 Credydau o sefydliadau eraillMyfyrwyr a ddechreuodd Ran Un ac Ddyfarniadau Uwchraddedig RHAG Medi 2018 ac Ran Dwy RHAG Medi 2019
1. Dim ond fel rhan o gytundeb cydweithredol llawn sy’n cynnwys mapio ffurfiol o’r graddfeydd marcio y bydd marciau o sefydliadau eraill yn cael eu trosi a’u cynnwys wrth bennu dosbarth dyfarniadau israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs. Ceir canllawiau pellach ynglŷn â’r trefniadau hyn yn adran 9 y Llawlyfr.
Dyfarniadau israddedig
2. Yn achos credyd lefel 3 a lefel M o fewn graddau israddedig, mae’n rhaid cynnwys marciau ar gyfer yr holl 120 o gredydau ar bob lefel, heb ddarpariaeth ar gyfer ‘credyd yn unig’ ar y lefelau hyn wrth bennu dosbarth terfynol y radd.
3. Ar lefel dau o fewn graddau israddedig, caniateir trosglwyddo credydau yn unig yn absenoldeb mapio ffurfiol o’r graddfeydd marcio, a hynny heb gofnodi marciau wrth bennu dosbarth y radd. O dan yr amgylchiadau hyn, pennir dosbarth graddau yn unol â’r rheolau ‘rhaeadru’ arferol a amlinellir yn adran 4.8. Bydd marciau’n cael eu hepgor os mai credyd yn unig sydd i’w gynnwys, gan symud y marciau sy’n weddill i’r bandiau uwch.
Dyfarniadau uwchraddedig trwy gwrs
4. Pan drosglwyddir credydau o sefydliadau eraill ar gyfer dyfarniadau uwchraddedig trwy gwrs, heb drosi’r marciau, pennir dosbarth y dyfarniad ar sail y marciau a ddyfarnwyd yn Aberystwyth, ac yn unol â’r cyfyngiadau ar drosglwyddo credydau.
Adolygwyd: Medi 2020
4.21 Ychwanegiad at Gonfensiynau Arholiadau 2019/20-
4.21.1 Ychwanegiad Covid-19 at Gonfensiynau Arholiadau 2019/20
Dangosyddion modiwlau i'w defnyddio yn semester dau 2020
Dim dangosydd
Marc pasio, asesiad y modiwl wedi'i gwblhau
Y
I'w ddefnyddio pan fo'r marc a roddwyd yn deillio o asesiadau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, pan na chynhaliwyd asesiadau amgen a phan mai pasio yw'r marc. Ceir cyfle i ailsefyll y modiwlau hyn am y marc llawn, hyd yn oed os pasiwyd y modiwl.
Bydd modiwlau a chanddynt ddangosydd Y yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd.
Ni ddefnyddir Y ar gyfer marciau modiwlau a fethwyd
Defnyddir y dangosydd ailsefyll canlynol ar gyfer marciau modiwl deilliedig a marciau modiwl o lai na 40% ar gyfer modiwlau israddedig (50% ar gyfer modiwlau lefel M a marciau uwchraddedig):
A
I'w ddefnyddio fel dangosydd dros dro ar gyfer marc coll yn sgil honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol nad yw'r ymchwiliad iddo wedi'i gwblhau eto
F
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)
H
Ailsefyll am farc llawn (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)
M
Ailsefyll am farc llawn (rhan un)
H/M
I'w ddefnyddio naill ai pan nad yw marc modiwl ar gael adeg y bwrdd arholi, e.e. taith maes, ond y bydd ar gael yn nes ymlaen, neu pan na phasiwyd y modiwl er mwyn dangos y cynigir ailsefyll am farc llawn ym mis Awst
N
Ni chaniateir ailsefyll (ar gyfer achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn unig)
P
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan un yn unig ar gyfer achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol)
Q
Llai na 50% o'r asesu sydd wedi'i gynnal, neu ddim asesu o gwbl, ac felly ni cheir marc ar gyfer y modiwl. NI cheir cyfle i ailsefyll unrhyw ran o'r asesiad yn y dyfodol, er y gallai myfyriwr ailadrodd y modiwl yn rhan o flwyddyn sy'n cael ei hailadrodd.
Bernir bod y modiwl wedi'i basio at ddibenion symud ymlaen a dyfarnu gradd, ond ni fydd yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd.
R
Ailsefyll am farc llawn (rhan un yn unig)
S
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)
T
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig - Lefel M yn unig a marciau uwchraddedig)
Amgylchiadau arbennig
1. Nid oes angen i fyfyrwyr lenwi ffurflenni amgylchiadau arbennig yn semester dau, boed hynny oherwydd peidio â chyflwyno gwaith nac oherwydd eu bod o'r farn fod amgylchiadau arbennig wedi cael effaith niweidiol ar eu perfformiad. Bydd myfyrwyr yn y ddau gategori yn cael y cyfle i ofyn am ailsefyll heb gapio'r marc. Ni ddylai adrannau gynghori myfyrwyr i gyflwyno ffurflenni a thystiolaeth ar gyfer Covid-19 nac amgylchiadau eraill. Bydd myfyrwyr sy'n pasio modiwlau yn semester dau, ond sydd o'r farn bod Amgylchiadau Arbennig wedi amharu ar eu perfformiad, yn cael y cyfle i wneud cais i ailsefyll heb gapio'r marciau. Bydd pob cais o'r fath yn cael ei ystyried ar sail pob achos yn unigol, a bydd cyngor yn cael ei roi i'r myfyrwyr am oblygiadau cymryd cyfle o'r fath. Fe'i caniateir ar sail 'dim anfantais', sef mai'r marc uchaf fydd yn sefyll.
Rheolau symud ymlaen
Yr holl fyfyrwyr rhan un
2. Bydd y rheolau arferol yn gymwys o ran symud ymlaen, h.y. er mwyn symud ymlaen o un flwyddyn astudio i'r nesaf, rhaid i fyfyrwyr basio isafswm o 100 credyd, a gall hynny gynnwys modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q ac Y. Pan fydd gofyn i fyfyrwyr ennill marc cyfartalog cyffredinol er mwyn symud ymlaen, ni fydd modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad hwnnw, h.y. marc cyfartalog o 40 er mwyn symud ymlaen yn rhan un.
3. Ni fydd yr ailsefyll ym mis Awst, gan gynnwys ailsefyll semester un, yn orfodol. Ni cheir cap ar nifer yr asesiadau ailsefyll ym mis Awst 2020 yn unig. Pan fydd myfyriwr yn dewis ailsefyll Semester 2 modiwl a basiwyd, y marc uchaf fydd yn sefyll.
Yr holl fyfyrwyr rhan dau
4. Bydd y rheolau arferol yn gymwys o ran symud ymlaen, h.y. er mwyn symud ymlaen o un flwyddyn astudio i'r nesaf, rhaid i fyfyrwyr basio isafswm o 100 credyd, a gall hynny gynnwys modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q ac Y*. Pan fydd gofyn i fyfyrwyr ennill marc cyfartalog cyffredinol er mwyn symud ymlaen, ni fydd modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q yn cael eu cynnwys yn y cyfrifiad hwnnw, e.e. marc cyfartalog o 55 er mwyn symud ymlaen ar raddau meistr integredig. *Dylid cofnodi modiwl ADGD/Gwaith maes y mae'n rhaid ei asesu er mwyn cyflawni canlyniadau dysgu'r cynllun â dangosydd H, a chaniateir i fyfyrwyr gario'r modiwl hwn ymlaen i'r flwyddyn nesaf.
5. Ni fydd yr ailsefyll ym mis Awst, gan gynnwys ailsefyll semester un, yn orfodol. Ni cheir cap ar nifer yr asesiadau ailsefyll ym mis Awst 2020 yn unig.
6. Ar gyfer modiwlau semester dau:
(i) Caniateir i'r HOLL fyfyrwyr ailsefyll heb gapio'r marc ar gyfer UNRHYW fodiwl a aseswyd yn semester dau, boed hwy wedi'i fethu (dangosydd H awtomatig, h.y. ailsefyll am farc llawn) neu ei basio, ac eithrio pan roddwyd cosb am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
(ii) Pan fydd myfyriwr yn dewis ailsefyll modiwl a basiwyd, y marc uchaf fydd yn sefyll.
7. Bydd dangosyddion ailsefyll semester un sydd eisoes wedi'u cadarnhau gan Fyrddau Arholi semester un yn sefyll; bydd myfyrwyr sy'n ailsefyll modiwl semester un am farc wedi'i gapio ym mis Awst yn gymwys i gael cyfle arall i ailsefyll am farc wedi'i gapio (dangosydd S).
8. Gall myfyrwyr ail flwyddyn a chanddynt ddangosyddion Y, Q a H ddewis tynnu'n ôl ar ddiwedd semester dau a dychwelyd ym mis Medi 2021 neu 2022. Os oes ganddynt fwy nag 20 credyd o H byddant yn ailadrodd y flwyddyn. Gall dangosyddion Y a Q barhau i ymddangos mewn dyfarniadau a wneir yn y dyfodol hyd at fis Medi 2025.
Myfyrwyr uwchraddedig a ddysgir drwy gwrs
9. Mae'r dangosyddion ailsefyll fel y nodir uchod.
10. Ni fydd yr ailsefyll ym mis Awst, gan gynnwys ailsefyll semester un, yn orfodol. Ni cheir cap ar nifer yr asesiadau ailsefyll ym mis Awst 2020 yn unig. Pan fydd myfyriwr yn dewis ailsefyll modiwl Semester 2 a basiwyd, y marc uchaf fydd yn sefyll.
Myfyrwyr ar gynlluniau cyfnewid
11. Bernir bod myfyrwyr sy'n dychwelyd o gynllun cyfnewid, ac na fu modd iddynt gwblhau rhywfaint neu'r oll o'u hasesiad gyda darparwr y cyfnod cyfnewid, wedi pasio at ddibenion symud ymlaen a bydd modd iddynt hefyd ailadrodd credydau yn ystod y flwyddyn ganlynol os mynnant. Defnyddio dangosyddion H, Q ac Y.
12. Bydd myfyrwyr a fu ar gyfnod cyfnewid yma yn cael marciau ar gyfer modiwlau ar y telerau uchod.
Dyfarnu graddau a'u dosbarthiadau
Graddau israddedig
13. Nid yw nifer y credydau a fethwyd a ganiateir er mwyn ennill gradd wedi newid. Er enghraifft, er mwyn cael gradd Baglor dim ond 20 o'r 240 o gredydau a gymerir yn rhan dau y gall myfyriwr eu methu.
14. Dyfernir dosbarthiad i radd Baglor a gradd Meistr Integredig pan fydd o leiaf ddwy ran o dair o'r credydau gofynnol wedi'u pasio, gan gynnwys y rheini sydd â dangosydd Y.
15. Ni fydd modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q yn cyfrif tuag at y dosbarthiad.
16. Enghreifftiau ymarferol.
Gradd Baglor - 240 credyd yn rhan dau, ac o leiaf 220 ohonynt yn gorfod bod yn gredydau a basiwyd (ac eithrio modiwlau Lefel S).
160 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y)
80 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
Dim credydau a fethwyd
160 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y)
60 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
20 credyd a fethwyd
200 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y)
40 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
Dim credydau a fethwyd
Gradd Meistr Integredig (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016 - ni chaniateir methu mwy nag 20 credyd; mynediad ar ôl Medi 2016 - ni chaniateir methu mwy nag 20 credyd ar lefel 2 a 3, ac 20 credyd ar lefel M) - 360 credyd yn rhan dau, gydag o leiaf 320 ohonynt yn gorfod bod yn gredydau a basiwyd (ac eithrio modiwlau Lefel S).
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016)
120 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
Dim credydau a fethwyd
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016)
100 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
20 credyd a fethwyd yn Rhan 2
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)
120 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
Dim credydau a fethwyd
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)
100 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
20 credyd a fethwyd ar lefel M NEU ar lefel 2 neu 3
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)
80 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
20 credyd a fethwyd ar lefel M ac 20 credyd a fethwyd ar lefel 2 NEU 3 (nid y ddau)
Gradd Meistr Integredig (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016 - ni chaniateir methu mwy nag 20 credyd; mynediad ar ôl Medi 2016 - ni chaniateir methu mwy nag 20 credyd ar lefel 2 a 3, ac 20 credyd ar lefel M) - 360 credyd yn rhan dau, gydag o leiaf 320 ohonynt yn gorfod bod yn gredydau a basiwyd (ac eithrio modiwlau Lefel S).
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016)
120 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
Dim credydau a fethwyd
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad rhwng Medi 2013 a Medi 2016)
100 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
20 credyd a fethwyd yn Rhan 2
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)
120 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
Dim credydau a fethwyd
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)
100 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
20 credyd a fethwyd ar lefel M NEU ar lefel 2 neu 3
240 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y) (mynediad o Fedi 2016)
80 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
20 credyd a fethwyd ar lefel M ac 20 credyd a fethwyd ar lefel 2 NEU 3 (nid y ddau)
Gradd gyffredin - gydag isafswm o 60 credyd ar Lefel 3 neu'n uwch ac wedi pasio o leiaf 160 credyd dros ran dau yn ei chrynswth (ac eithrio modiwlau Lefel S).
110 credyd gyda marciau pasio (gan gynnwys dangosyddion Y)
50 credyd y bernir eu bod wedi cael eu pasio gyda dangosyddion Q
80 credyd a fethwyd
17. Bydd canlyniadau sy'n seiliedig ar asesu anghyflawn yn cael eu cyflwyno fel dosbarthiadau gradd dangosol a bydd myfyrwyr yn gall:
(i) eu derbyn a graddio, ac yna bydd y canlyniadau'n rhai terfynol
(ii) aros i'r marciau fod ar gael
neu
(iii) ailsefyll y modiwlau hynny yr effeithiwyd arnynt cyn cael y radd.
Y drws trugaredd
18. Gweler:
Atodiad 1 Drws Trugaredd COVID-19: Graddau Israddedig
Atodiad 2 Drws Trugaredd COVID-19: Graddau Meistr
Atodiad 3 Templed o agenda i fyrddau arholi
Dyfarniadau uwchraddedig drwy gwrs
19. Defnyddir yr un dangosyddion modiwlau â’r rhai ar gyfer myfyrwyr israddedig ac eithrio T (dangosydd ailsefyll am farc wedi'i gapio).
20. Nid yw nifer y credydau a fethwyd a ganiateir er mwyn ennill gradd wedi newid. Er enghraifft, er mwyn cael gradd Meistr dim ond 20 o'r 180 o gredydau y gall myfyriwr eu methu. Dyfernir dosbarthiad i radd pan fydd o leiaf ddwy ran o dair o'r credydau gofynnol wedi'u pasio, gan gynnwys y rheini sydd â dangosydd Y. Ni fydd modiwlau a chanddynt ddangosyddion Q yn cyfrif tuag at y dosbarthiad.
21. TUAAU: Mae'r cymhwyster TUAAU yn arwain at gymrodoriaeth AdvanceHE a bydd angen bodloni gofynion achrediad allanol.
22. Rhaid cyflawni'r gofynion TAR, gyda neu heb SAC, yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, sy'n gwneud darpariaethau ar gyfer dod â lleoliadau mewn ysgolion i ben yn gynnar.
Dyfarniadau ymadael (wrth gefn) israddedig ac uwchraddedig drwy gwrs
23. Dyfarniadau ymadael â dosbarthiad (PGCert, PGDip, BSc/BA lle mae'n bwynt ymadael ar gynllun Meistr integredig):
(i) Bydd modiwlau Q yn cyfrif tuag at nifer y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer y dyfarniad ond nid ar gyfer y credydau a ddefnyddir yn y dosbarthiad.
(ii) Rhaid i o leiaf ddwy ran o dair o'r credydau gofynnol ar gyfer dosbarthiad fod yn seiliedig ar farciau gwirioneddol neu fodiwlau Y; ni ellir cyfrif modiwlau Q.
24. Dyfarniadau ymadael heb ddosbarthiad: CertHE, DipHE, gradd Gyffredin: Ni all dangosyddion Q gyfrannu tuag at fwy nag un rhan o dair o unrhyw ddyfarniad ymadael.
Dyfarniadau eraill ar lefel israddedig
25. Tystysgrif Addysg Broffesiynol (PCE) a Thystysgrif Addysg Broffesiynol i Raddedigion (PRGCE) – Mae'r holl asesiadau ar gyfer modiwlau wedi'u gosod yn ôl yr arfer, ac felly nid oes angen dangosyddion Q nac Y. Mae'r gofynion addysgu ymarferol wedi cael eu newid ar gyfer semester dau yn unig, a bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r rhain wrth fodd yr arholwyr yn gohirio'r dyfarniad terfynol hyd y gallant gwblhau'r gofynion ymarferol sy'n weddill.
Enghreifftiau o sefyllfaoedd a chanlyniadau posibl:
Sefyllfa
Canlyniad
1
Asesiad amgen wedi'i osod ar gyfer myfyriwr, a'r myfyriwr wedi'i sefyll ac wedi pasio'r modiwl
Y myfyriwr yn cael marc pasio
2
Asesiad amgen wedi'i osod ar gyfer myfyriwr, a'r myfyriwr wedi'i sefyll ond wedi methu'r modiwl
Y myfyriwr yn cael marc methu a dangosydd H
3
Asesiad amgen wedi'i osod ar gyfer myfyriwr, a'r myfyriwr wedi penderfynu peidio â'i sefyll. Fodd bynnag, mae wedi cwblhau'r asesiadau eraill
0 fel cosb yn berthnasol i bob achos o beidio â chyflwyno gwaith. Dangosydd H os na phasiwyd yn sgil marciau o gydrannau eraill
4
Asesiad amgen wedi'i osod ar gyfer myfyriwr, a'r myfyriwr wedi penderfynu peidio â'i sefyll. Nid oes gan y myfyriwr unrhyw farciau eraill ar gyfer y modiwl
Y myfyriwr yn cael marc o 0 am beidio â chyflwyno a dangosydd H
5
NI osodwyd asesiad amgen ar gyfer y myfyriwr. Mae wedi cwblhau rhai asesiadau ond nid ydynt yn werth 50% neu fwy ond mae ganddynt farc cydrannol
Dim marc rhannol, gwag a dangosydd Q
6
NI osodwyd asesiad amgen ar gyfer y myfyriwr. Mae wedi cwblhau asesiadau gwerth 50% neu fwy o'r modiwl
Yn cael marc deilliannol gyda dangosydd Y os pasiwyd y modiwl.
Os na phasiwyd y modiwl, defnyddir y dangosydd methu priodol, sef naill ai H neu M ac eithrio mewn achosion o YAA sydd wedi'i gadarnhau7
Bydd y myfyriwr yn cael cynnig yr asesiad yn nes ymlaen (megis gwaith maes)
Marc gwag a dangosydd H
8
Myfyriwr yn ailsefyll o'r sesiwn ddiwethaf am farc wedi'i gapio, ond yn methu neu ddim yn cyflwyno asesiad
0 am beidio â chyflwyno
Dangosydd S (israddedig) neu ddangosydd ailsefyll T ar gyfer modiwlau lefel M9
Y myfyriwr eisiau gadael ei gwrs a chael dyfarniad ymadael â dosbarthiad, os yw hyn ar gael, e.e.
PGCert, PGDip, BSc/BA lle mae'n bwynt ymadael ar gynllun Meistr integredigBydd modiwlau Q yn cyfrif tuag at nifer y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer y dyfarniad ond nid ar gyfer y credydau a ddefnyddir yn y dosbarthiad.
Rhaid i o leiaf ddwy ran o dair o'r credydau gofynnol ar gyfer dosbarthiad fod yn seiliedig ar farciau gwirioneddol neu fodiwlau Y, ni cheir cyfrif modiwlau Q.10
Y myfyriwr eisiau gadael ei gwrs a chael dyfarniad ymadael (heb ddosbarthiad), e.e. CertHE, DipHE, gradd Gyffredin
Ni chaniateir i ddangosyddion Q gyfrannu tuag at fwy nag un rhan o dair o unrhyw ddyfarniad ymadael
11
Myfyrwyr y gosodwyd asesiadau amgen ar eu cyfer, a'u bod wedi eu sefyll ym mis Mai ond wedi eu methu. Wedi eu hailsefyll yn y cyfnod ailsefyll a'u methu eto, a'u bod felly mewn sefyllfa lle mae ganddynt fwy nag 20 credyd o H
Bydd angen i'r myfyriwr ailadrodd y credydau a fethwyd y sesiwn nesaf
12
Myfyrwyr sydd ag ailsefyll H ar gyfer marciau a ddisgwylir yn nes ymlaen (megis gwaith maes) a bod ganddynt hefyd hyd at 20 credyd H mewn modiwlau eraill.
Caniateir iddynt symud ymlaen.
Rhaid i'r modiwlau gwaith maes hyn fod wedi'u nodi ymlaen llaw a'u cofnodi yng nghofnodion y bwrdd arholi13
Myfyrwyr blwyddyn olaf nad ydynt yn fodlon ar ddosbarthiad dangosol eu gradd
Gall myfyrwyr blwyddyn olaf ddewis gwrthod dosbarthiad dangosol y radd ac ailsefyll unrhyw fodiwl semester dau, ac eithrio dangosyddion F neu N.
(Yn semester dau, dim ond mewn achosion YAA y defnyddir dangosyddion F)14
Myfyriwr rhan dau nad ydyw ar ei flwyddyn olaf ac sydd wedi bodloni'r gofynion symud ymlaen ond sydd eisiau ailadrodd y flwyddyn
Mae'n bosibl y gall y myfyriwr ailadrodd modiwlau a fethwyd (o semester un) a gofyn am gael ailadrodd modiwlau a aseswyd yn semester dau
15
Gall myfyrwyr a chanddynt ormod o gredydau a fethwyd ac sy'n gorfod ailadrodd y flwyddyn ddadlau bod arnynt eisiau ailadrodd modiwlau a chanddynt ddangosydd Q er mwyn cael statws llawn-amser i gael cymorth ariannol gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Caniateir i fyfyrwyr ailadrodd modiwlau Q os mynnant.
21/05/20 Confensyniau Arholidau Addendum Mai 2020
Adolygwyd: Mai 2020
-
4.21.2 Atodiad 1 Drws Trugaredd COVID 19: Graddau Israddedig (2019/20)
Pob Amgylchiadau Arbennig i fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf sy'n dod o fewn ffin 2% ym misoedd Mehefin neu Fedi 2020
1.Pwysau Marciau
Argymhellir bod rheol y pwysau marciau a weithredir fel arfer i ddrws 1% yn cael ei gweithredu i ddrws 2% er mwyn cydnabod yr amgylchiadau sy'n wynebu ein myfyrwyr i gyd yn y flwyddyn eithriadol hon o ganlyniad i COVID-19, neu o ganlyniad i amgylchiadau arbennig eraill sy'n effeithio ar fyfyrwyr unigol yn ystod semester dau ym mlwyddyn academaidd 2019-20, felly:
Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, RHAID eu codi i’r dosbarth uwch, ar yr amod eu bod yn bodloni un o’r meini prawf hyn:
a) NAILL AI mae o leiaf 50% o gredydau Rhan Dau yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs neu Flwyddyn Dramor, a hefyd yn eithrio unrhyw fodiwlau â dangosyddion Q, yn y dosbarth uwch neu drosodd
NEU
b) mae dau draean o leiaf o blith 120 credyd olaf Rhan Dau, ac eithrio modiwlau â dangosyddion Q, yn y dosbarth uwch neu drosodd.
Mae i hyn y fantais o allu ymdrin â llawer o achosion Drws Trugaredd mewn modd teg, cyson ac effeithlon.
2. Y Panel Amgylchiadau Arbennig
Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, a hwythau heb eu codi drwy bwysau marciau, CANIATEIR eu codi i’r dosbarth uwch ar argymhelliad Panel Amgylchiadau Arbennig y Brifysgol, os amharwyd ar eu perfformiad yn semester dau 2020.
Rhoddir ffurflen i'r Adrannau ei llenwi ar gyfer pob myfyriwr sy'n dod o fewn drws trugaredd 2% ym misoedd Mehefin neu Fedi 2020 ond nad ydynt yn bodloni meini prawf y pwysau marciau. Rhaid i'r adrannau roi gwybodaeth eglur i esbonio pam maent yn cefnogi neu'n peidio â chefnogi dyfarnu dosbarth uwch i'r radd, wedi iddynt ystyried a yw'n debygol y byddai'r myfyrwyr dan sylw wedi cael y dosbarth uwch i'r radd pe na bai COVID-19 wedi amharu ar semester dau 2019-20.
Dylai'r adrannau gynnwys y ffactorau isod* yn eu hystyriaethau cyn pennu eu hargymhellion i'r Panel:
*Gweler https://www.qaa.ac.uk/docs/guidance/no-detriment-policies-an-overview.pdf
a) A yw'r ffaith bod yr arholiadau traddodiadol a/neu rai ffurfiau eraill ar asesu (e.e. asesiadau ymarferol) wedi'u disodli gan asesiadau eraill wedi effeithio'n negyddol ar y myfyrwyr ai peidio, neu a oes effaith debyg wedi digwydd oherwydd bod y marciau wedi deillio o asesiadau cydrannol mewn modiwlau penodol, neu a fyddai'r myfyrwyr yn debygol o fod wedi cael marciau uwch mewn modiwlau â dangosyddion Q na chyfartaledd eu cyfanswm
b) Amserlen cyflwyno'r traethawd hir (mae dyddiadau cyflwyno hwyrach yn golygu ei bod hi'n fwy tebygol y byddai COVID-19 wedi effeithio ar gyflawniad modiwl y traethawd hir/prosiect mawr, boed hynny'n ymwneud â newid y fethodoleg, cwmpas y gwaith neu hyd yn oed pwnc y prosiect, neu drwy gyfyngiadau ar y gwaith ymchwil ac ysgrifennu)
c) Proffil cyffredinol marciau'r myfyrwyr ar draws Rhan Dau, ac a yw'r perfformiad wedi gostwng yn semester dau 2019-20; os yw'r perfformiad wedi gostwng, a fyddai'r myfyrwyr wedi cyrraedd y dosbarth uwch pe baent wedi perfformio yn unol â'u lefel flaenorol, neu yn wir wedi dangos cynnydd wrth dynnu at ddiwedd y radd, ac a fyddai hynny wedi bod yn debygol heb effaith COVID-19?
Bydd panel Amgylchiadau Arbennig y Brifysgol yn trafod pob achos sy'n dod o fewn y categori hwn er mwyn sicrhau cysonder a thegwch ar draws y Cyfadrannau i gyd. Bydd y panel yn ystyried y materion uchod, ar y cyd ag argymhelliad yr adran yn ystod eu trafodaethau.
Os yw'r Panel Amgylchiadau Arbennig o'r farn nad oes digon o wybodaeth wedi'i rhoi gan yr adran, rhaid i'r Panel chwilio am ragor o wybodaeth gan yr adran cyn y cynhelir Bwrdd Arholi'r Senedd.
DS. Yn unol â'r hyn y cytunwyd arno yn y Senedd, caiff y myfyrwyr y cyfle i dderbyn neu wrthod dosbarth gradd dangosol cyn gynted ag y bydd y canlyniadau ar gael. Mae'r myfyrwyr hefyd yn cadw'r hawl i apelio.
3. Amgylchiadau Arbennig nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 sydd wedi codi yn semester dau 2019-20 neu semestrau blaenorol
Rydym wedi cadarnhau nad oes angen i fyfyrwyr lenwi ffurflenni amgylchiadau arbennig yn semester dau, boed hynny oherwydd bod gwaith heb ei gyflwyno neu oherwydd eu bod o'r farn bod amgylchiadau arbennig wedi cael effaith niweidiol ar eu perfformiad.
Os yw ffurflenni amgylchiadau arbennig wedi'u cyflwyno i adrannau yn gynt yn semester dau (neu hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau symud) dylent gael eu cofnodi yn y byrddau arholi ond ni fyddant yn effeithio ar y penderfyniadau ar y modiwlau a'r drws trugaredd yn semester dau. Dylid ystyried y dystiolaeth am amgylchiadau arbennig a nodwyd gan y byrddau arholi adrannol o semestrau blaenorol yn y modd arferol, ond fe fydd semester dau 2019-20 yn cael ei ystyried ar sail y marciau yn unig, er mwyn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu trin yn gyson, ni waeth p'un a effeithiodd arnynt, COVID-19 neu amgylchiadau eraill.
-
4.21.3 Atodiad 2 Drws Trugaredd COVID-19: Graddau Meistr (2019/20)
Pob Amgylchiadau Arbennig i ôl-raddedigion graddau Meistr a ddysgir drwy gwrs yn eu blwyddyn olaf sy'n dod o fewn ffin 2% ym misoedd Mehefin, Medi a Rhagfyr 2020
1. Pwysau Marciau
Argymhellir bod rheol y pwysau marciau a weithredir i ddrws 1% yn y confensiynau israddedig, ac sy'n cael ei hestyn i ddrws 2% eleni, hefyd yn cael ei gweithredu i gonfensiynau'r graddau Meistr a ddysgir er mwyn cydnabod yr amgylchiadau sy'n wynebu ein myfyrwyr i gyd yn y flwyddyn eithriadol hon o ganlyniad i COVID-19, neu o ganlyniad i amgylchiadau arbennig eraill sy'n effeithio ar fyfyrwyr unigol yn ystod semestrau dau a thri ym mlwyddyn academaidd 2019-20, felly:
Pan fydd cyfartaledd myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, RHAID eu codi i'r dosbarth uwch ar yr amod bod o leiaf 50% o gredydau'r radd Meistr yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs, a hefyd yn eithrio unrhyw fodiwlau â dangosyddion Q, yn y dosbarth uwch neu drosodd.
Mae i hyn y fantais o allu ymdrin â llawer o achosion Drws Trugaredd mewn modd teg, cyson ac effeithlon.
2. Y Panel Amgylchiadau Arbennig
Pan fydd cyfartaledd myfyrwyr Meistr o fewn 2% i unrhyw ffin, a hwythau heb eu codi drwy bwysau marciau, CANIATEIR eu codi i’r dosbarth uwch ar argymhelliad Panel Amgylchiadau Arbennig y Brifysgol, os amharwyd ar eu perfformiad yn semester dau a/neu dri 2020.
Rhoddir ffurflen i'r Adrannau ei llenwi ar gyfer pob myfyriwr sy'n dod o fewn drws trugaredd 2% ym misoedd Mehefin, Medi neu Ragfyr 2020 ond nad ydynt yn bodloni meini prawf y pwysau marciau. Rhaid i'r adrannau roi gwybodaeth eglur i esbonio pam maent yn cefnogi neu'n peidio â chefnogi dyfarnu dosbarth uwch i'r radd, wedi iddynt ystyried a yw'n debygol y byddai'r myfyrwyr dan sylw wedi cael y dosbarth uwch i'r radd pe na bai COVID-19 wedi amharu ar semester dau a/neu dri 2019-20.
Dylai'r adrannau gynnwys y ffactorau isod* yn eu hystyriaethau cyn pennu eu hargymhellion i'r Panel:
*Gweler https://www.quaa.ac.uk/docs/qaa/guidance/no-detriment-policies-an-overview.pdf
a) A yw'r ffaith bod yr arholiadau traddodiadol a/neu ffurfiau eraill ar asesu (e.e. asesiadau ymarferol) wedi'u disodli gan asesiadau eraill wedi effeithio'n negyddol ar y myfyrwyr ai peidio, neu a oes effaith debyg wedi digwydd oherwydd bod y marciau wedi deillio o asesiadau cydrannol mewn modiwlau penodol, neu a fyddai'r myfyrwyr yn debygol o fod wedi cael marciau uwch mewn modiwlau â dangosyddion Q na chyfartaledd eu cyfanswm.
b) A fyddai'r cyfyngiadau symud oherwydd COVID-19 wedi effeithio ar gyflawniad modiwl y traethawd hir/prosiect mawr, boed hynny'n ymwneud â newid y fethodoleg, cwmpas y gwaith neu hyd yn oed pwnc y prosiect, neu drwy gyfyngiadau ar y gwaith ymchwil ac ysgrifennu. Rhoddir ffurflen i'r myfyrwyr er mwyn iddynt gofnodi'r effaith ar eu traethawd hir/prosiect mawr. Bydd eu hadran yn gwirio hyn.
c) Proffil cyffredinol marciau'r myfyrwyr ac a yw'r perfformiad wedi gostwng yn y modiwlau ar ôl semester un; os yw'r perfformiad wedi gostwng, a fyddai'r myfyrwyr wedi cyrraedd y dosbarth uwch pe baent wedi perfformio yn unol â'u lefel flaenorol, neu yn wir wedi dangos cynnydd wrth dynnu at ddiwedd y radd, ac a fyddai hynny wedi bod yn debygol heb effaith COVID-19?
Bydd panel Amgylchiadau Arbennig y Brifysgol yn trafod pob achos sy'n dod o fewn y categori hwn er mwyn sicrhau cysonder a thegwch ar draws y Cyfadrannau i gyd. Bydd y panel yn ystyried y materion uchod, ar y cyd ag argymhelliad yr adran yn ystod eu trafodaethau.
Os yw'r Panel Amgylchiadau Arbennig o'r farn nad oes digon o wybodaeth wedi'i rhoi gan yr adran, rhaid i'r Panel chwilio am ragor o wybodaeth gan yr adran cyn y cynhelir Bwrdd Arholi'r Senedd.
DS: Yn unol â'r hyn y cytunwyd arno yn y Senedd, caiff y myfyrwyr y cyfle i dderbyn neu wrthod dosbarth gradd dangosol cyn gynted ag y bydd y canlyniadau ar gael. Mae'r myfyrwyr hefyd yn cadw'r hawl i apelio.
3. Amgylchiadau Arbennig nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 sydd wedi codi yn semester dau a/neu dri 2019-20 neu semestrau blaenorol
Rydym wedi cadarnhau nad oes angen i fyfyrwyr lenwi ffurflenni amgylchiadau arbennig yn semester dau neu dri, boed hynny oherwydd bod gwaith heb ei gyflwyno neu oherwydd eu bod o'r farn bod amgylchiadau arbennig wedi cael effaith niweidiol ar eu perfformiad.
Os yw ffurflenni amgylchiadau arbennig wedi'u cyflwyno i adrannau yn gynt yn semester dau (neu hyd yn oed yn ystod neu ar ôl y cyfyngiadau symud) dylent gael eu cofnodi yn y byrddau arholi ond ni fydd yn effeithio ar y penderfyniadau ar y modiwlau a'r drws trugaredd yn semestrau dau a thri. Dylid ystyried y dystiolaeth am amgylchiadau arbennig a nodwyd gan y byrddau arholi adrannol o semestrau blaenorol yn y modd arferol, ond fe fydd semester dau a thri 2019-20 yn cael eu hystyried ar sail y marciau yn unig, er mwyn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu trin yn gyson, ni waeth p'un a effeithiodd arnynt, COVID-19 neu amgylchiadau eraill.
-
4.21.4 Atodiad 3 Templed o agenda i fyrddau arholi
Gweler hefyd Pennod 3 o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd: 3.7 Arholiadau a Byrddau Arholi https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/name-193259-cy.html a 3.13 Templedi a'r Canllawiau am gynnal byrddau arholi rhithwir drwy ddefnyddio Microsoft Teams – Mai 2020 (ar gael ar Sharepoint) https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/name-193263-cy.html
1. Rhagair
(i) Croeso
(ii) Cylch Gorchwyl y Bwrdd Arholi
(iii) (Cyfarfod y Panel Amgylchiadau Arbennig)
(iv) Confensiynau Arholiadau'r Brifysgol - sylwer yn benodol
(v) Gofynion Penodol Adrannau (os yw'n berthnasol)
2. Materion yn Codi (os yw'n berthnasol)
3. Materion y Cadeirydd (os yw'n berthnasol)
4. Dadansoddiad o'r Data am yr Arholiadau (Cymharu Modiwlau a Marciau)
5. Cadarnhau Marciau/Hawl Symud Ymlaen/Cymwysterau ar gyfer Myfyrwyr Unigol (gan gynnwys myfyrwyr o'r tu allan i'r Adran)
(i) Ystyried dangosyddion modiwl: DS ni ddylid ailbwyso cydrannau
(ii) Ystyried dosbarthiadau graddau: argymell dosbarthiadau gradd dangosol i'r holl ymgeiswyr; dylai hyn ddigwydd yn awtomatig oni bai bod ymgeisydd yn cyrraedd y drws trugaredd.
Bydd gan Fwrdd Arholi'r Senedd yr awdurdod, drwy drafod ag Adolygydd Allanol y Senedd, i ddatrys sefyllfaoedd na fyddent efallai wedi'u rhagweld.
(iii) Ymgeiswyr Drws Trugaredd: gwneud argymhellion eglur i Banel Amgylchiadau Arbennig y Senedd ar gyfer pob un ymgeisydd Drws Trugaredd, p'un ai codi'r ymgeisydd yw'r argymhelliad ai peidio.
(iv) Materion ynghylch symud ymlaen
6. Adroddiad/Sylwadau/Adborth yr Arholwyr Allanol (os yw'n berthnasol)
7. Gwobrau (os yw'n berthnasol)
8. Unrhyw Fater Arall (os yw'n berthnasol)
9. Amser Dirwyn y Cyfarfod i Ben (Dewisol)
16/03/22 Confensyniau Arholidau Addendum Mai 2020
4.22 Ychwanegiad at Gonfensiynau Arholiadau 2020/21-
4.22.1 Ychwanegiad at Gonfensiynau Arholiadau 2020/21
Dangosyddion modiwlau i'w defnyddio yn 2020/21
Defnyddir y dangosyddion isod ar gyfer marciau modiwl sy'n is na 40% mewn modiwlau israddedig (50% i fodiwlau lefel M a marciau uwchraddedig):
A
Absennol o arholiad ailsefyll Awst yn unig
F
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)
H
Ailsefyll am farc llawn (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)
M
Ailsefyll am farc llawn (rhan un)
N
Ni chaniateir ailsefyll (achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn unig)
P
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan un yn unig mewn achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol)
R
Ailsefyll am farc llawn (rhan un yn unig)
S
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)
T
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau - Lefel M yn unig a marciau uwchraddedig)
U
Dangosydd dros dro am farc coll yn sgil honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol nad yw'r ymchwiliad iddo wedi'i gwblhau eto
Cafodd y dangosyddion canlynol eu cario drosodd o 2019/20 ar gyfer marciau modiwlau:
Q
Llai na 50% o'r asesu sydd wedi'i gynnal, neu ddim asesu o gwbl, ac felly ni cheir marc ar gyfer y modiwl. NI CHEIR cyfle i ailsefyll unrhyw ran o'r asesiad yn y dyfodol, er y gallai myfyriwr ailadrodd y modiwl yn rhan o flwyddyn sy'n cael ei hailadrodd.
Bernir bod y modiwl wedi'i basio at ddibenion symud ymlaen a dyfarnu gradd, ond ni fydd yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd.
Y
I'w ddefnyddio pan fo'r marc a roddwyd yn deillio o asesiadau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, pan na chynhaliwyd asesiadau amgen a phan mai marc pasio yw'r marc.
Bydd modiwlau a chanddynt ddangosydd Y yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd. Ni fydd Y yn cael ei ddefnyddio ar gyfer modiwl a fethwyd.
Amgylchiadau arbennig
1. Ni ofynnir i fyfyrwyr gyflwyno ffurflenni Amgylchiadau Arbennig na thystiolaeth ar gyfer modiwlau a asesir yn ystod semester un a semester dau 2020/21.
2. Os na all myfyrwyr gwblhau asesiadau, beth bynnag fo'r rheswm, fe fyddant yn awtomatig yn cael cyfleoedd i ailsefyll heb gapio'r marciau (dangosydd M/H) os nad ydynt yn cyflwyno gwaith neu os ydynt yn methu, ac eithrio lle mae cosb Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi'i rhoi neu os oedd y canlyniad blaenorol yn gyfle ailsefyll am farc wedi'i gapio.
3. Bydd y drefn Amgylchiadau Arbennig arferol yn cael ei gohirio dros dro am sesiwn academaidd 2020/21 i gwmpasu cyfnodau asesu semester un a semester dau yn ogystal â'r traethodau PGT a gyflwynir ddiwedd mis Medi yn unig.
Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (YAA)
4. Os cafodd cosb YAA ei dyfarnu bydd hynny'n sefyll ac NI chaniateir ailsefyll am farc heb ei gapio (oni bai bod hynny'n cael ei gymeradwyo yn rhan o'r broses YAA).
Myfyrwyr ar gynlluniau cyfnewid
5. Bernir bod myfyrwyr sy'n dychwelyd o gynllun cyfnewid, ac na fu modd iddynt gwblhau rhywfaint neu'r cwbl o'u hasesiad gyda darparwr y cyfnod cyfnewid, wedi pasio at ddibenion symud ymlaen a bydd modd iddynt hefyd ailadrodd credydau yn ystod y flwyddyn ganlynol os dymunant.
6. Bydd myfyrwyr a fu yma ar gyfnod cyfnewid yn cael marciau am fodiwlau ar y telerau uchod.
Bydd rheolau symud ymlaen yn dal mewn grym.
7. Gweler Confensiynau Arholiadau'r Brifysgol:
LlAA 4.2 Gradd Baglor: Rheolau Symud Ymlaen
LlAA 4.3 Graddau Meistr integredig: Rheoliadau Symud Ymlaen
LlAA 4.7 Graddau Sylfaen: Rheolau Symud Ymlaen
LlAA 4.14 Rheolau Symud Ymlaen ar gyfer Cynlluniau Uwchraddedig a Ddysgir
Rhan Un rhaglenni Baglor a Meistr Integredig a dwy flynedd gyntaf cynlluniau sy'n cynnwys blwyddyn sylfaen (lefelau 0 ac 1)
8. Bydd myfyrwyr yn cael cynnig cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (dangosydd M) yn achos methu neu beidio cyflwyno; rhaid cymryd y rhain ar y cyfle cyntaf sef, yn y rhan fwyaf o achosion, ym mis Awst 2021 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno.
9. Ni fydd cap ar nifer y credydau y gall myfyrwyr eu ceisio ym mis Awst (bydd myfyrwyr a fethodd mwy nag 80 credyd yn cael cynnig dewis rhwng ceisio ailsefyll ym mis Awst neu ail-wneud y flwyddyn; bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cysylltu â'r myfyrwyr ar ôl i'r canlyniadau gael eu rhyddhau i wneud y cynnig hwn).
10. Ni fydd unrhyw gyfle i wella ar farciau pasio (noder nad yw canlyniadau Rhan Un y rhaglenni hyn yn cyfrif tuag at ddosbarth y radd derfynol).
Rhan Dau rhaglenni Baglor a Meistr Integredig (Lefelau 2, 3 a 4) ac israddedigion ar gynlluniau Gradd Sylfaen (Lefelau 1 a 2)
11. Bydd myfyrwyr yn cael cynnig cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (dangosydd H) yn achos methu neu beidio cyflwyno; rhaid cymryd y rhain ar y cyfle cyntaf sef, yn y rhan fwyaf o achosion, ym mis Awst 2021 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno.
12. Ni fydd cap ar nifer y credydau y gall myfyrwyr eu ceisio ym mis Awst (bydd myfyrwyr a fethodd mwy nag 80 credyd yn cael cynnig dewis rhwng ceisio ailsefyll ym mis Awst neu ail-wneud y flwyddyn; bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cysylltu â'r myfyrwyr ar ôl i'r canlyniadau gael eu rhyddhau i wneud y cynnig hwn).
13. Bydd myfyrwyr yn cael cynnig un cyfle pellach i wella marc unrhyw fodiwl a basiwyd, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gofrestru ym mis Gorffennaf os dymunant gymryd y cyfle hwn, sy'n cael ei roi ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll. Caiff myfyrwyr eu cynghori'n gryf i drafod â'u hadrannau academaidd ynglŷn ag oblygiadau cymryd cyfle o'r fath cyn cofrestru i ailsefyll modiwl y maent wedi'i basio.
14. Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cael un cyfle i dderbyn neu wrthod dosbarth dangosol pan gyhoeddir y canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn (dim ond yn achos graddau Baglor a Meistr â dosbarth mae hyn yn gymwys). Pan fydd dosbarth dangosol wedi cael ei dderbyn, bydd marciau modiwlau'n derfynol.
Uwchraddedigion a Ddysgir
15. Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd ailsefyll heb eu capio (dangosydd H) yn achos methu neu beidio cyflwyno. Rhaid i fyfyrwyr sy'n cwblhau cymhwyster ym mis Mehefin/Gorffennaf ailsefyll ym mis Awst oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno. Caiff myfyrwyr Meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl mis Mehefin/Gorffennaf ailsefyll ym mis Awst neu yn ystod y sesiwn ganlynol.
16. Bydd myfyrwyr yn cael cynnig un cyfle pellach i wella marc unrhyw fodiwl a basiwyd, gan gynnwys y traethawd hir, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst (yn achos myfyrwyr sy'n cwblhau rhaglen yn semester dau) neu ym mis Awst neu'r sesiwn ganlynol yn achos ymgeiswyr am radd Meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl mis Mehefin/Gorffennaf.
17. Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cael un cyfle i dderbyn neu wrthod dosbarth dangosol pan gyhoeddir y canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn neu ym mis Rhagfyr 2021 (dim ond yn achos graddau Meistr â dosbarth mae hyn yn gymwys). Pan fydd dosbarth dangosol wedi cael ei dderbyn, bydd marciau modiwlau'n derfynol.
Dosbarthiad Dyfarniadau
18. Bydd modiwlau y bernir sydd wedi'u pasio (hynny yw, rhai â dangosydd Q) yn cyfrif tuag at gyfanswm y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer y dyfarniad, ond efallai na fyddant yn gyfwerth â mwy nag un rhan o dair o'r credydau angenrheidiol. Ni ddefnyddir y modiwlau hyn wrth gyfrifo dosbarth y radd. Nid yw nifer y credydau y caniateir eu methu wedi newid ac mae'n aros yr un fath â'r hyn a nodir yng nghonfensiynau'r arholiadau.
Drws Trugaredd i israddedigion ac uwchraddedigion ar gyrsiau a ddysgir (graddau Baglor a Meistr â dosbarth)
19. Bydd myfyrwyr a chanddynt gyfartaledd rhaeadr o fewn 2% i unrhyw ffin yn cael eu codi i'r dosbarth uwch cyhyd â'u bod yn cyflawni meini prawf y pwysau marciau a nodir yng Nghonfensiynau'r Arholiadau.
20. Ni cheir Drws Trugaredd i amgylchiadau arbennig. Mae hyn oherwydd nifer cyfyngedig y marciau sydd i'w cael o'r cyfnod cyn y pandemig y gellir seilio barn arnynt ynglŷn â pherfformiad myfyriwr dros amser a'r penderfyniad a wnaed i ohirio'r amod i gyflwyno ffurflenni Amgylchiadau Arbennig oherwydd trafferthion ynglŷn â chael tystiolaeth a'i ddilysu. Serch hynny, dylid nodi bod gan fyfyrwyr gyfleoedd ychwanegol i wella dosbarth eu gradd trwy'r cyfle i wella marciau modiwlau a basiwyd a chyfleoedd, nad ydynt i'w cael mewn amgylchiadau arferol, i ailsefyll am farc heb ei gapio yn achos modiwlau a fethwyd.
Uwchraddedigion Ymchwil
21. Yn achos myfyrwyr sy'n cymryd modiwlau a ddysgir yn ystod semester un a dau, bydd cyfle ailsefyll am farc heb ei gapio yn cael ei roi ar gyfer pob modiwl a fethwyd heb yr amod i ddarparu ffurflenni Amgylchiadau Arbennig.
22. Ni chaniateir ailsefyll modiwlau a basiwyd.
-
4.22.2 Cyfnod Asesu Ailsefyll yr Haf, Awst 2021 - Amgylchiadau Arbennig
Mae'r adran hon wrthi'n cael ei datblygu. Edrychwch ar y fersiwn Saesneg yn y cyfamser.
4.23 Ychwanegiad Gweithredu Diwydiannol at Gonfensiynau Arholiadau 2022/231. Dangosyddion modiwlau i'w defnyddio yn 2022/23
Defnyddir y dangosyddion isod ar gyfer marciau modiwl sy'n is na 40% ar gyfer modiwlau israddedig (50% ar gyfer modiwlau lefel M a marciau uwchraddedig):
F
Ailsefyll ar gyfer marc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)
H
Ailsefyll am farc llawn (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau) – Amgylchiadau Arbennig
M
Ailsefyll ar gyfer marc llawn (rhan un) – Amgylchiadau Arbennig
N
Ni chaniateir ailsefyll (achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn unig)
P
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan un yn unig mewn achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol)
R
Ailsefyll am farc llawn (rhan un yn unig)
S
Ailsefyll ar gyfer marc wedi'i gapio (rhan dau yn unig, yn cynnwys FDA ac FDSC rhan un a dau)
T
Ailsefyll am farc wedi'i gapio (rhan dau - Lefel M yn unig a marciau uwchraddedig)
U
Dangosydd dros dro am farc coll yn sgil honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol nad yw'r ymchwiliad iddo wedi'i gwblhau eto
2. Dangosyddion modiwl i'w defnyddio yn semester dau 2022/23 lle mae gweithredu diwydiannol wedi effeithio ar yr asesiad:
Q
I’w ddefnyddio pan fo llai na 50% o'r asesiad neu ddim o’r asesiad wedi rhedeg a/neu lai na 50% o'r marciau cydrannol ar gael. Bernir bod y modiwl wedi'i basio at ddibenion symud ymlaen a dyfarnu gradd, ond ni fydd yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd.
Y
I'w ddefnyddio pan fo'r marc modiwl a roddwyd yn deillio o asesiadau a/neu farciau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, a phan mai pasio yw'r marc. Bydd modiwlau a chanddynt ddangosydd Y yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd. Ni ddefnyddir Y ar gyfer marciau modiwlau a fethwyd
H
I'w ddefnyddio pan fo'r marc modiwl a roddwyd yn deillio o asesiadau a/neu farciau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, a phan mai methu yw'r marc. Bydd modiwlau a chanddynt ddangosydd H yn cyfrif yn y credydau a ddefnyddir i gyfrifo dosbarth y radd. Ni ddefnyddir H ar gyfer marciau modiwlau a basiwyd
M
Ailsefyll am farc llawn (rhan un) – Amgylchiadau Arbennig - Defnyddir hefyd pan fo marc y modiwl a roddwyd yn deillio o asesiadau a/neu farciau oedd yn cyfateb i o leiaf 50% ond yn llai na 100% o asesiadau'r modiwl, a phan mai methu yw'r marc. Ni ddefnyddir M ar gyfer marciau modiwlau a basiwyd
3. Ymddygiad Academaidd Annerbyniol
Os cafodd cosb YAA ei dyfarnu bydd hynny'n sefyll ac NI chaniateir ailsefyll am farc heb ei gapio (oni bai bod hynny'n cael ei gymeradwyo yn rhan o'r broses YAA).
4. Myfyrwyr ar gynlluniau cyfnewid
Bydd myfyrwyr a fu ar gyfnod cyfnewid yma yn cael marciau ar gyfer modiwlau ar y telerau uchod.
5. Rheolau symud ymlaen
Gweler Confensiynau Arholiadau y Brifysgol ar gyfer y rheolau symud ymlaen sy'n dal i fod yn berthnasol:
LlAA 4.2 Gradd Baglor: Rheolau Symud YmlaenLlAA 4.3 Graddau Meistr integredig: Rheolau Symud Ymlaen
LlAA 4.7 Graddau Sylfaen: Rheolau Symud Ymlaen
LlAA 4.14 Rheolau Symud Ymlaen ar gyfer Cynlluniau Uwchraddedig a Addysgir
6. Rhan Un rhaglenni Baglor a Meistr Integredig a dwy flynedd gyntaf cynlluniau sy'n cynnwys blwyddyn sylfaen (lefelau 0 ac 1)
Bydd modiwlau gyda dangosyddion Q a Y yn cael eu heithrio o'r cap ar nifer y credydau y gall myfyrwyr eu hailsefyll ym mis Awst.
Bydd myfyrwyr â dangosyddion H neu M yn cael cynnig cyfleoedd ailsefyll heb eu capio yn achos methu neu beidio cyflwyno; rhaid cymryd y rhain ar y cyfle cyntaf sef, yn y rhan fwyaf o achosion, ym mis Awst 2023 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno.
Ni fydd unrhyw gyfle i wella ar farciau pasio (noder nad yw canlyniadau Rhan Un y rhaglenni hyn yn cyfrif tuag at ddosbarth y radd derfynol).
7. Rhan Dau rhaglenni Baglor a Meistr Integredig (Lefelau 2, 3 a 4) ac israddedigion ar gynlluniau Gradd Sylfaen (Lefelau 1 a 2)
Bydd modiwlau gyda dangosyddion Q a Y yn cael eu heithrio o'r cap ar nifer y credydau y gall myfyrwyr eu hailsefyll ym mis Awst.
Bydd myfyrwyr sy’n parhau â’u cyrsiau yn cael cynnig un cyfle pellach i ailsefyll modiwl lle mae’r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst 2023 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gofrestru ym mis Gorffennaf 2023 os dymunant gymryd y cyfle hwn, sy'n cael ei roi ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll. Caiff myfyrwyr eu cynghori'n gryf i drafod â'u hadrannau academaidd ynglŷn ag oblygiadau cymryd cyfle o'r fath cyn cofrestru i ailsefyll modiwl y maent wedi’i basio.
Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf sydd â marciau coll ar gyfer modiwlau sy’n cyfrannu at y dosbarth/dyfarniad terfynol yn cael eu dosbarth dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn (noder bod hyn ond yn berthnasol i raddau Sylfaen, Baglor a Meistr). Pe bai marciau coll ar gael yn ddiweddarach, bydd dosbarthiadau’r graddau’n cael eu hailgyfrifo ar sail ‘dim anfantais’ (bydd y marc uchaf yn sefyll) a bydd unrhyw fyfyriwr yn eu blwyddyn olaf sy’n gwella ar ddosbarth eu gradd yn derbyn y dosbarth gradd uchaf.
Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf sydd ag asesiadau coll ar gyfer modiwlau sy’n cyfrannu at y dosbarth/dyfarniad terfynol yn cael cyfle i dderbyn neu wrthod eu dosbarth gradd dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn (noder bod hyn ond yn berthnasol i raddau Sylfaen, Baglor a Meistr). Pan fydd dosbarth dangosol wedi cael ei dderbyn, bydd marciau modiwlau'n derfynol.
Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf sy’n dewis gwrthod eu dosbarth gradd dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau yn cael cynnig un cyfle pellach i ailsefyll modiwl lle mae’r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst 2023 oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr y flwyddyn olaf gofrestru ym mis Gorffennaf 2023 os dymunant gymryd y cyfle hwn, sy'n cael ei roi ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll. Caiff myfyrwyr y flwyddyn olaf eu cynghori'n gryf i drafod â'u hadrannau academaidd ynglŷn ag oblygiadau cymryd cyfle o'r fath cyn cofrestru i ailsefyll modiwl y maent wedi’i basio.
8. Uwchraddedigion a Addysgir
Bydd myfyrwyr yn cael cynnig un cyfle pellach i ailsefyll modiwl lle mae’r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn gan gynnwys y traethawd hir, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst 2023 (yn achos myfyrwyr sy'n cwblhau rhaglen yn semester dau), oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig ar yr adeg honno, neu ym mis Awst 2023 neu'r sesiwn ganlynol yn achos ymgeiswyr am radd Meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl mis Mehefin/Gorffennaf. Bydd y cyfle hwn ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll.
Bydd myfyrwyr sydd â marciau coll ar gyfer modiwlau sy’n cyfrannu at y dosbarth/dyfarniad terfynol yn cael eu dosbarth dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn neu ym mis Rhagfyr 2023. Pe bai marciau coll ar gael yn ddiweddarach, bydd dosbarthiadau’r graddau’n cael eu hailgyfrifo ar sail ‘dim anfantais’ (bydd y marc uchaf yn sefyll) a bydd unrhyw fyfyriwr sy’n gwella ar ddosbarth eu gradd yn derbyn y dosbarth gradd uchaf.
Bydd myfyrwyr sydd ag asesiadau coll ar gyfer modiwlau sy’n cyfrannu at y dosbarth/dyfarniad terfynol yn cael cyfle i dderbyn neu wrthod eu dosbarth gradd dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau ar ddiwedd y sesiwn neu ym mis Rhagfyr 2023 (noder bod y cyfle hwn ond yn berthnasol i raddau Meistr â dosbarth). Pan fydd dosbarth dangosol wedi cael ei dderbyn, bydd marciau modiwlau'n derfynol.
Bydd myfyrwyr sy’n dewis gwrthod eu dosbarth gradd dangosol yn y cyhoeddiad o’r canlyniadau yn cael cynnig un cyfle pellach i ailsefyll modiwl lle mae’r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn, a bydd yn rhaid cymryd y cyfle ym mis Awst 2023 (yn achos myfyrwyr sy'n cwblhau rhaglen yn semester dau), neu ym mis Awst 2023 neu'r sesiwn ganlynol yn achos ymgeiswyr am radd Meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl mis Mehefin/Gorffennaf. Bydd y cyfle hwn ar sail 'dim anfantais': y marc uchaf fydd yn sefyll.
9. Dosbarthiad graddau Sylfaen a Baglor
Bydd modiwlau y bernir sydd wedi'u pasio (hynny yw, rhai â dangosydd Q) yn cyfrif tuag at gyfanswm y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer graddau Sylfaen/Baglor, ond efallai na fyddant yn gyfwerth â mwy nag un rhan o dair o'r credydau angenrheidiol. Ni ddefnyddir y modiwlau hyn wrth gyfrifo dosbarth y radd. Nid yw nifer y credydau y caniateir eu methu wedi newid ac mae'n aros yr un fath â'r hyn a nodir yng nghonfensiynau'r arholiadau.
10. Dosbarthiad graddau Meistr Integredig
Bydd modiwlau y bernir sydd wedi'u pasio (hynny yw, rhai â dangosydd Q) yn cyfrif tuag at gyfanswm y credydau a basiwyd sy'n ofynnol ar gyfer gradd Meistr Integredig, ond efallai na fyddant yn gyfwerth â mwy nag un rhan o dair o'r credydau angenrheidiol ar lefelau chwech a saith. Ni ddefnyddir y modiwlau hyn wrth gyfrifo dosbarth y radd. Nid yw nifer y credydau y caniateir eu methu wedi newid ac mae'n aros yr un fath â'r hyn a nodir yng nghonfensiynau'r arholiadau.
11. Uwchraddedigion Ymchwil
Ar gyfer modiwlau a addysgir yn ystod semester dau 2023, bydd myfyrwyr yn cael cynnig un cyfle arall i ailsefyll modiwl lle mae'r marc terfynol yn seiliedig ar ddim asesiad neu asesiad anghyflawn, a rhaid ei gymryd ar y cyfle cyntaf. Ni chaniateir ailsefyll modiwlau a basiwyd.
-