Canllawiau Cyswllt Dibynadwy

Beth yw cyswllt dibynadwy? 

Cyswllt dibynadwy yw’r person a enwebir gan fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth i fod yn rhywun y gellir cysylltu ag ef os oes pryderon difrifol am ddiogelwch a/neu les y myfyriwr. Mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis rhiant, gofalwr, neu aelod o'u teulu fel cyswllt dibynadwy.  Er hyn, gall y cyswllt dibynadwy fod yn rhywun arall os ydynt dros 18 oed ac yn cytuno i gyflawni’r swyddogaeth hon. 

Fel arfer, ni ddylai’r cyswllt dibynadwy fod yn fyfyriwr arall o Brifysgol Aberystwyth nac yn aelod o staff, oni bai eu bod hefyd yn rhiant/gofalwr/partner/aelod agos o'r teulu.Dewis ein myfyrwyr yw eu cyswllt dibynadwy ond rydym yn argymell bod y person a ddewisir yn rhywun mae’r myfyriwr yn ymddiried ynddo ac yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn iddo am help a chefnogaeth.

Pam mae angen i fyfyrwyr gael cyswllt dibynadwy?

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gymuned sy'n gofalu.  Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein myfyrwyr, sy'n cynnwys cyd-weithio â nhw a hefyd, lle bo’n briodol, gydag aelodau o'u rhwydwaith cymorth.

Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni hyn, gofynnwn i bob myfyriwr roi inni fanylion eu person cyswllt mewn argyfwng a’u cyswllt dibynadwy pe bai angen cysylltu â nhw am eu cymorth a'u cefnogaeth.

Gall y cyfnod o symud i brifysgol a’r amser a dreulir yno fod yn gyffrous. Ond weithiau gall fod yn heriol. Efallai bydd gan ein myfyrwyr newydd rwydwaith o gefnogaeth, boed yn deulu, ffrindiau a/neu gefnogwyr eraill.  O’r herwydd, gall fod yn fuddiol i'n myfyrwyr os oes cyswllt dibynadwy ar gael, yn ogystal ag aelodau eraill o’u rhwydwaith cymorth pan fo angen, i gynnig cefnogaeth a sicrwydd.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n fyfyriwr?

Wrth i chi gofrestru bob blwyddyn byddwn yn gofyn i chi roi manylion eich cyswllt dibynadwy.  Bydd myfyrwyr newydd yn gwneud hyn yr un pryd â rhoi manylion eu cyswllt mewn argyfwng, a manylion eu meddyg teulu ac ati.

I fyfyrwyr sy'n dychwelyd, mae'n gyfle i adolygu a phenderfynu a ydych chi’n hapus â’r cyswllt dibynadwy presennol neu a hoffech chi newid y manylion.

Gallwch ddiweddaru'r manylion hyn ar unrhyw adeg, a gallwch ddisgwyl negeseuon trwy gydol y flwyddyn academaidd i’ch atgoffa i wirio'ch manylion personol er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gyfredol.

Gofynnwn i bob myfyriwr sicrhau caniatâd eu cyswllt dibynadwy cyn iddynt ychwanegu eu manylion at eu cofnod myfyriwr neu eu diweddaru.  Byddem yn eich annog i rannu dolen y tudalennau gwe hyn er mwyn i'ch cyswllt dibynadwy fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n gysylltiedig â’r rôl a phryd y byddem yn ystyried cysylltu â nhw.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n gyswllt dibynadwy?

Os ydych wedi cael eich dewis gan fyfyriwr fel eu cyswllt dibynadwy, mae hyn oherwydd fod y myfyriwr yn ymddiried ynoch ac yn dymuno i’r Brifysgol gysylltu â chi pe bai unrhyw bryderon difrifol am ddiogelwch a/neu les y myfyriwr.  

Fel prifysgol, ni fydd cyswllt â chysylltiadau dibynadwy yn digwydd yn aml, a lle bynnag y bo modd byddwn yn ceisio cynnwys ein myfyrwyr wrth wneud unrhyw benderfyniadau pan fyddwn yn ystyried cysylltu â'u cyswllt dibynadwy.

Os oes gennych unrhyw bryderon am les a/neu ddiogelwch myfyriwr, yna peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r Brifysgol.  Gallwch gysylltu â thîm Diogelwch y Brifysgol 24/7 drwy ffonio 01970 622 649.  Os nad yw'n fater brys, yna mae croeso i chi gysylltu â'n tîm Gwasanaethau i Fyfyrwyr – gallwch wneud hynny drwy e-bostio studentwellbeing@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 621 761

O dan ba amgylchiadau gallai’r Brifysgol ystyried cysylltu â chyswllt dibynadwy?

Ni fyddwn fel arfer yn cysylltu â chyswllt dibynadwy myfyriwr heb ei ganiatâd.  Byddwn yn defnyddio’r cyswllt a nodwyd yn fwyaf diweddar gan y myfyriwr yn ei gofnod myfyriwr, ac sy'n parhau yn enw cyswllt ar yr adeg pan fydd angen y gefnogaeth.   Os ydym am gysylltu â'r person hwn, byddwn fel arfer yn trafod hyn gyda'r myfyriwr ar y pryd. Dyma rai enghreifftiau posibl:

  • Pan fydd myfyriwr yn cytuno â chais gweithiwr cymorth i fyfyrwyr proffesiynol sy’n ei gefnogi, i’r Brifysgol gysylltu â’r cyswllt dibynadwy;
  • Pan fydd y myfyriwr yn gofyn i aelod o staff gysylltu â'i gyswllt dibynadwy. Gall hyn fod oherwydd bod y myfyriwr yn sâl a/neu ddim yn teimlo ei fod yn gallu cysylltu â nhw ei hunan.

Bydd rhai amgylchiadau eithriadol pan fyddwn efallai yn penderfynu cysylltu â chyswllt dibynadwy myfyriwr heb ei ganiatâd.  Gwneir hyn ar ôl cynnal asesiad risg, pan nad ydym yn gallu cysylltu/ymwneud â'r myfyriwr a phan fydd gennym bryderon difrifol am ddiogelwch a/neu les myfyriwr.  

Dyma rai enghreifftiau pryd y gellid ystyried hyn (nodwch nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr)

  • mynd i'r ysbyty neu’n cael ei gymryd i’r ysbyty mewn argyfwng
  • dioddef anaf corfforol difrifol, gan gynnwys hunan-niweidio
  • rhoi'r gorau i astudio a/neu i gymorth proffesiynol a pheidio ag ymateb i ymdrechion niferus i gysylltu â chi
  • heb eich gweld yn ddiweddar mewn llety/neuadd breswyl a pheidio ag ymateb i ymdrechion niferus i gysylltu
  • bod â salwch difrifol parhaus, ac yn ymddangos fel pe bai'n gwaethygu
  • profi argyfwng iechyd meddwl pan fydd pryderon difrifol am eich lles.

Mae pob amgylchiad yn cael ei ystyried fesul achos.  Ni fyddwn yn defnyddio'ch cyswllt dibynadwy heb awdurdod staff uwch y tîm Gwasanaethau i Fyfyrwyr a byddem fel arfer yn sicrhau caniatâd y myfyriwr.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng fy nghyswllt mewn argyfwng a’m cyswllt dibynadwy?

I lawer o fyfyrwyr, efallai mai'r un person fydd y ddau gyswllt. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn wir i bawb.

Ni fydd eich cyswllt mewn argyfwng yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn a dim ond o dan yr amgylchiadau mwyaf difrifol.  Fel arfer, byddai hyn pan fydd angen cymorth yn ddi-oed a phan fydd er budd hanfodol y myfyriwr. Byddai hyn hefyd yn debygol o ddigwydd pan fydd y gwasanaethau brys wedi mynegi pryder ac wedi gofyn am yr wybodaeth hon oherwydd pryderon difrifol a/neu sefyllfa o argyfwng.

Oes rhaid i mi ddarparu manylion cyswllt dibynadwy?

Nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i chi ddarparu manylion cyswllt dibynadwy i ni. Fodd bynnag, mae er eich lles ac felly rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwneud hynny.

A allaf newid fy nghyswllt dibynadwy?

Mae'n bwysig eich bod chi’n cymryd cyfrifoldeb dros y cyswllt dibynadwy rydych wedi ei enwebu a’ch bod yn ei adolygu'n rheolaidd.  Gallwch newid eich enwebiad unrhyw bryd yn eich cofnod myfyriwr.