Mae Help Fan Hyn

Gall Prifysgol fod yn gyfnod cyffrous, ond gall fod yn heriol hefyd. Does dim rhaid i ti ddelio ag e’ ar dy ben dy hun.   

Mae help fan hyn 

Pryderu am Arian?
Poeni am dy les?
Poeni am les rhywun arall?
Llwyth gwaith yn llethu?
Teimlo'n unig?
Hiraethu am adre?

Mae sawl ffordd i ti gael cymorth a chyngor: 

Help os oes gen ti Gyflwr Iechyd hirdymor

Os oes gen ti Gyflwr Iechyd hirdymor galli di gael cyngor gan y Gwasanaeth Hygyrchedd. Gallant roi cyngor ar yr amrywiaeth o opsiynau cymorth sydd ar gael. Cer i’n tudalennau gwe Hygyrchedd am ragor o wybodaeth. Galli di hefyd anfon e-bost atom yn hygyrchedd@aber.ac.uk neu ein ffonio ar 01970 621761 / 622087 

Tudalennau Gwe Hygyrchedd

Poeni am rywun arall?

Galli roi gwybod i ni os wyt ti’n pryderu ynglŷn â rhywun arall. Llenwa’r ffurflen mynegi pryderon, a bydd aelod o staff yn cysylltu a ti.. Galli di hefyd godi pryderon drwy ffonio 01970 621761 / 622087 

Ffurflen Mynegi Pryderon

Adrodd a Chymorth

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi profi ymosodiad, aflonyddu neu ymddygiad annerbyniol arall gallwch roi gwybod amdano yma. Gellir gwneud adroddiadau yn ddienw.

Adrodd a Chymorth