AberOfalgar

Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant

Credwn y dylai addysg prifysgol fod ar gael i unrhyw un a fyddai'n cael budd ohono, waeth beth fo’u cefndir. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich profiad ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gallu cyflawni hyd eithaf eich gallu wrth astudio gyda ni.  Rydym yma i'ch cefnogi ar bob cam o'ch taith, beth bynnag fo'ch amgylchiadau.

AberOfalgar – Ceiswyr lloches

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i Geiswyr Lloches, Ffoaduriaid a phobl eraill sy'n ceisio noddfa yn y DU.

Rydym yn croesawu pobl sy'n ceisio diogelwch ac rydym am greu teimlad o gynhwysiant drwy annog pobl i dderbyn diwylliant, sgiliau a gwahaniaethau.

Rydym ar hyn o bryd yn gwneud cais am statws Prifysgol Noddfa, menter sy'n cydnabod arfer da prifysgolion o ran croesawu, cynorthwyo a grymuso pobl sy'n chwilio am noddfa. Ein nod yw denu myfyrwyr sydd â photensial academaidd, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu profiad personol.

Ydy’r gefnogaeth hon ar eich cyfer chi?

Mae nifer o wahanol opsiynau statws swyddogol. Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi braslun syml a gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar Wefan Fisâu a Mewnfudo'r DU.

  • Ceisiwr Lloches: rydych chi’n gwneud cais am loches, neu rydych chi’n aros am benderfyniad gan Lywodraeth y DU.
  • Ffoadur: rydych wedi cael caniatâd i aros yn y DU a statws swyddogol ffoadur. Mae gennych lythyr gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) i gadarnhau hyn.
  • Diogelwch Dyngarol: mae gennych ganiatâd i aros yn y DU am resymau dyngarol. Mae gennych lythyr gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) i gadarnhau hyn.
  • Caniatâd Cyfyngedig i Aros (LLR) neu ganiatâd yn ôl disgresiwn i aros (DLR): rydych wedi cael caniatâd i aros yn y DU dros dro. Mae gennych lythyr gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) i gadarnhau hyn.

Cael gwybod beth yw penderfyniad y Swyddfa Gartref  

Os bydd unrhyw newidiadau i'ch statws tra byddwch yn astudio, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Os bydd eich cais am loches yn llwyddiannus tra byddwch yn astudio yn y Brifysgol, bydd eich statws ffioedd yn newid i ‘myfyriwr cartref’, yn weithredol o'r flwyddyn academaidd ganlynol.  

Byddai hyn yn wir am y rhai:

  • y rhoddwyd statws ffoadur iddynt
  • sydd wedi sicrhau diogelwch dyngarol
  • sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn i aros
  • y mae eu rhieni, eu priod neu eu partner sifil yn cael eu cydnabod yn ffoadur gan Lywodraeth y DU
  • sydd wedi sicrhau diogelwch dyngarol
  • sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn i aros ac sy’n bodloni'r 'amod teuluol' ar ddyddiad cais yr aelod o’r teulu am loches.

Mae cyllid ar gael gan Gyllid Myfyrwyr os cewch ganlyniad cadarnhaol ar ôl cyflwyno cais am loches.

Os bydd eich cais am loches yn cael ei wrthod tra byddwch yn astudio yn y brifysgol:

  • cewch eich ystyried yn fyfyriwr rhyngwladol o hyd
  • bydd y terfyn amser ar unrhyw Fisa neu Ganiatâd i Aros yn cael ei fonitro a'i gymhwyso'n unol â rheoliadau'r Swyddfa Gartref.

Cymorth Prifysgol Aberystwyth

Marion Thomson yw'r cyswllt penodedig ar gyfer Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid ac mae'n cynnig y gefnogaeth ganlynol trwy gydol eich astudiaethau:

  • Gallai Mentor Ffordd Hyn fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol, rhoi cyngor ynghylch rheoli eich amser a datblygu sgiliau trefnu.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at fforddhyn@aber.ac.uk 

Mae Llety Haf ar gael yn y Brifysgol i geiswyr lloches - gellir gwneud cais amdano ar y we-ddalen llety

Ysgoloriaeth Noddfa

Mae’r Ysgoloriaethau Noddfa ar gyfer y rhai hynny o gefndiroedd lle’u gorfodwyd i fudo sy'n wynebu rhwystrau rhag mynd i brifysgol oherwydd bod rheoliadau'r Swyddfa Gartref yng nghyswllt eu statws mewnfudo yn eu hatal rhag cael cyllid gan Gyllid Myfyrwyr.  Mae’r Ysgoloriaeth Noddfa ond yn berthnasol i'r rhai sy'n byw yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.  

 

Dewisiadau Cymorth eraill a gwe-ddalennau defnyddiol

Darpariaeth Ffydd leol

Mae prifysgolion eraill hefyd yn cynnig ysgoloriaethau

Get help as a refugee or asylum seeker | British Red Cross

London Asylum Crisis Project - Refugee Action (refugee-action.org.uk)

Asylum seeker support | The Salvation Army

Support - Birmingham City of Sanctuary

Shelter Legal England - Accommodation for asylum seekers - Shelter England  - needs to meet UKVI conditions

AberOfalgar – Ymadawyr Gofal

Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn cynnig ystod eang o gymorth i fyfyrwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Rydym wedi ymrwymo i helpu mwy o bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'r rheiny sy'n ymadael â gofal i fynd i'r brifysgol.

Rydym yn aelod o’r Rhwydwaith Gweithgareddau i Bobl sy’n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr yng Nghymru (CLASS Cymru) a sefydlwyd ac a gadeirir gan staff ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r rhwydwaith hwn yn rhannu’r arferion, yr adnoddau a’r hyfforddiant gorau er mwyn gwella profiad myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal a'r rheiny sy'n ymadael â gofal yng Nghymru.

 

Ydw i'n gymwys i gael cymorth?

Mae ein pecyn cymorth ar gael i'r categorïau canlynol o fyfyrwyr amser llawn sy'n hanu o'r DU:

Categori Diffiniad Y dystiolaeth sydd ei hangen
Ymadawyr Gofal Myfyrwyr sydd yn iau na 25 oed ac sydd wedi bod yng ngofal eu Hawdurdod Lleol am gyfnod o 13 wythnos o leiaf yn yr adeg rhwng 14 oed a dechrau eu cwrs. Cadarnhad o'ch sefyllfa mewn llythyr oddi wrth eich Awdurdod Lleol neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau ichi fod dan ofal yr Awdurdod Lleol am o leiaf 13 wythnos ar ôl troi 14 oed, eich bod nawr wedi gadael gofal yr Awdurdod, a'ch bod yn unigolyn wedi gadael gofal yn ôl y diffiniad Deddf Plant (Ymadael â Gofal)

Cymorth Prifysgol Aberystwyth

Os ydych wedi ticio'r blwch ar eich ffurflen gais UCAS i nodi eich bod yn rhywun sy'n gadael gofal, byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i’ch cais ddod i law.  Gallwch hefyd hunangyfeirio drwy lenwi ein furflen gais ar gyfer Bwrsariaeth Ymadawyr Gofal, Gofalwyr Ifainc, a Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio oddi wrth eu teuluoedd

 

Marion Thomson yw'r cyswllt penodedig ar gyfer Ymadawyr Gofal ac mae'n cynnig y gefnogaeth ganlynol trwy gydol eich astudiaethau.

  • Bydd Mentor Ffordd Hyn ar gael i chi i'ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol, rhoi cyngor ynghylch sut i reoli eich amser a datblygu sgiliau trefnu.

Llety

Mae Llety Haf ar gael yn y Brifysgol i Ymadawyr Gofal - gellir gwneud cais amdano ar y we-ddalen llety

Os/pan fyddwch yn symud i lety preifat yn eich ail flwyddyn, cofiwch ofyn i ni os ydych yn cael trafferth darparu gwarantwr. Rydym yn bwriadu sefydlu cynllun lle bydd y Brifysgol yn sefyll fel gwarantwr, ond am y tro gallwn roi cadarnhad i chi o hanes eich taliadau yn y brifysgol, os oes angen.  Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn ymhellach mnt@aber.ac.uk.

Cyllid ychwanegol 

Os ydych chi'n derbyn bwrsariaeth gadael gofal, gallwn hefyd gynnig ein pecyn graddio i chi sy'n cynnwys £100 tuag at gost pecyn llogi gwisg/ffotograffau.

Dolenni defnyddiol eraill

Astudio yn y Brifysgol - Class Cymru 

Thrive: the magazine for young people | The Fostering Network

Darpariaeth Ffydd Leol

https://housinghand.co.uk/university-guarantor-service/

 

AberOfalgar – Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd

Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn cynnig ystod eang o gymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teulu.

Rydym yn ymrwymo i weithio tuag at greu'r amgylchedd a'r amodau cywir i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio i gwblhau eu cyrsiau trwy wella'r gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig yn barhaus.

Ydy'r cymorth hwn yn iawn er eich cyfer chi?

Os bydd rhywun wedi ymddieithrio oddi wrth ei deulu, mae’n golygu nad oes ganddo gymorth ei rieni bellach, nac ychwaith aelodau eraill o’r teulu weithiau, a hynny oherwydd bod y berthynas rhyngddyn nhw wedi chwalu’n barhaol ac o ganlyniad, mae’r berthynas wedi dod i ben. Hwyrach y bydd hyn yn cyfeirio at eich rhieni biolegol, eich llys-rieni neu rieni sy’n mabwysiadu neu aelodau ehangach o'r teulu sydd wedi bod yn gyfrifol am eich cefnogi yn y gorffennol.

Mae ein pecyn cymorth ar gael i'r categori canlynol o fyfyrwyr amser llawn sy'n hanu o'r DU:

Categori Diffiniad Y dystiolaeth sydd ei hangen
Myfyrwyr wedi'u Dieithrio oddi wrth eu teuluoedd Myfyrwyr sydd yn iau na 25 oed ac nad ydynt yn cael cefnogaeth gan eu teulu bellach oherwydd rhwyg yn eu perthynas sydd wedi rhoi terfyn ar unrhyw gyswllt rhyngddynt. Does gan fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio ddim perthynas gyfathrebol ag unrhyw riant, ac yn aml eu rhwydweithiau teuluol ehangach hefyd Cadarnhad o'ch sefyllfa yn eich asesiad Cyllid Myfyrwyr, neu mewn llythyr oddi wrth weithiwr proffesiynol sy'n gyfarwydd â'ch amgylchiadau teuluol.  

Cymorth Prifysgol Aberystwyth

Os ydych wedi ticio'r blwch ar eich ffurflen gais UCAS i nodi eich bod yn rhywun sy'n gadael gofal, byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i’ch cais ddod i law.  Gallwch hefyd hunangyfeirio drwy lenwi ein furflen gais ar gyfer Bwrsariaeth Ymadawyr Gofal, Gofalwyr Ifainc, a Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio oddi wrth eu teuluoedd.

Marion Thomson yw'r cyswllt penodedig ar gyfer Ymadawyr Gofal ac mae'n cynnig y gefnogaeth ganlynol trwy gydol eich astudiaethau:

  • Bydd Mentor Ffordd Hyn ar gael i chi i'ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol, rhoi cyngor ynghylch sut i reoli eich amser a datblygu sgiliau trefnu.

Llety

Mae Llety Haf ar gael yn y Brifysgol i Ymadawyr Gofal - gellir gwneud cais amdano ar y we-ddalen llety

Os/pan fyddwch yn symud i lety preifat yn eich ail flwyddyn, cofiwch ofyn i ni os ydych yn cael trafferth darparu gwarantwr. Rydym yn bwriadu sefydlu cynllun lle bydd y Brifysgol yn sefyll fel gwarantwr, ond am y tro gallwn roi cadarnhad i chi o hanes eich taliadau yn y brifysgol, os oes angen.  Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn ymhellach mnt@aber.ac.uk.

Cyllid ychwanegol 

Os ydych chi'n derbyn bwrsariaeth gadael gofal, gallwn hefyd gynnig ein pecyn graddio i chi sy'n cynnwys £100 tuag at gost pecyn llogi gwisg/ffotograffau.

Dolenni defnyddiol eraill

Darpariaeth Ffydd Leol

https://housinghand.co.uk/university-guarantor-service/ 

 

AberOfalgar - Myfyriwr sydd yn Rhieni

P'un a oes gennych chi blentyn eisoes neu eich bod ar fin dod yn rhiant, mae cyfoeth o wasanaethau ar gael i gefnogi eich astudiaethau gyda ni.

Yn ein barn ni, ni ddylai bod yn feichiog, mabwysiadu neu ofalu am blentyn ynddo’i hun fod yn rhwystr rhag ceisio am le ar raglen astudio, cychwyn arni neu lwyddo ynddi.  Rydym yn ymdrechu i fod mor hyblyg â phosibl o dan amgylchiadau o’r fath.

Mae gan y Brifysgol Polisi Beichiogrwydd a Mamolaeth
Myfyrwyr ac Absenoldeb Mabwysiadu ac Absenoldeb Rhiant i
Fyfyrwyr 

Cyfleusterau ar gyfer Bwydo ar y fron, Tynnu llaeth a Bwydo o'r botel

Mwy o wybodaeth: Bwydo eich babi

Mae campysau'r Brifysgol yn gwbl gyfeillgar i fwydo ar y fron ac nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran bwydo o’r botel neu fwydo ar y fron. Rydym yn deall y gallai fod yn well gan rieni weithiau gael man preifat, tawel a diogel i fwydo’u baban (o’r botel neu ar y fron) neu i dynnu llaeth.

Mae gennym ystafelloedd pwrpasol ar gyfer bwydo ar y fron/tynnu llaeth i gynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n bwydo ar y fron, neu i’w defnyddio gan gydweithwyr beichiog sydd angen man preifat i orffwys. Mae’r cyfleusterau hyn yn agored i’r holl fyfyrwyr a staff.

Gofal Plant wedi ei ariannu gan y Llywodraeth

Gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer plant 3-4 oed -  Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn rhoi hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant 3 a 4 oed am 48 wythnos y flwyddyn.

Grant Gofal Plant - Cyllid Myfyrwyr Cymru

Lwfans Dysgu Rhieni - Cyllid Myfyrwyr Cymru

Lwfans Dysgu Rhieni - Cyllid Myfyrwyr Lloegr   

 

Cymorth Prifysgol Aberystwyth

  • Bydd Mentor Ffordd Hyn ar gael i chi i'ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol, rhoi cyngor ynghylch sut i reoli eich amser a datblygu sgiliau trefnu.

Dolenni defnyddiol eraill

Aber Running Buggies

 

AberOfalgar - Ffoadur

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i Geiswyr Lloches, Ffoaduriaid a phobl eraill sy'n ceisio noddfa yn y DU.

Rydym yn croesawu pobl sy'n ceisio diogelwch ac rydym am greu teimlad o gynhwysiant drwy annog pobl i dderbyn diwylliant, sgiliau a gwahaniaethau.

Ydy’r gefnogaeth hon ar eich cyfer chi?

Mae nifer o wahanol opsiynau statws swyddogol. Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi braslun syml a gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar Wefan Fisâu a Mewnfudo'r DU.

  • Ceisiwr Lloches: rydych chi’n gwneud cais am loches, neu rydych chi’n aros am benderfyniad gan Lywodraeth y DU.
  • Ffoadur: rydych wedi cael caniatâd i aros yn y DU a statws swyddogol ffoadur. Mae gennych lythyr gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) i gadarnhau hyn.
  • Diogelwch Dyngarol: mae gennych ganiatâd i aros yn y DU am resymau dyngarol. Mae gennych lythyr gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) i gadarnhau hyn.
  • Caniatâd Cyfyngedig i Aros (LLR) neu ganiatâd yn ôl disgresiwn i aros (DLR): rydych wedi cael caniatâd i aros yn y DU dros dro. Mae gennych lythyr gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) i gadarnhau hyn.

Fel ffoadur sy'n byw yn y DU byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr cartref a gallech fod yn gymwys i gael cyllid gan Cyllid Myfyrwyr yn dibynnu ar eich statws preswylio. Mae Cyllid Myfyrwyr Lloegr a Chyllid Myfyrwyr Cymru yn rhestru'r meini prawf preswylio ac i bwy y maent yn berthnasol ar eu tudalennau gwe. 

Marion Thomson yw'r cyswllt penodedig ar gyfer Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid ac mae'n cynnig y gefnogaeth ganlynol trwy gydol eich astudiaethau:

  • Gallai Mentor Ffordd Hyn fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol, rhoi cyngor ynghylch rheoli eich amser a datblygu sgiliau trefnu.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at fforddhyn@aber.ac.uk 

Llety

Mae Llety Haf ar gael yn y Brifysgol i geiswyr lloches - gellir gwneud cais amdano ar y we-ddalen llety

Os/pan fyddwch yn symud i lety preifat yn eich ail flwyddyn, cofiwch ofyn i ni os ydych yn cael trafferth darparu gwarantwr. Rydym yn bwriadu sefydlu cynllun lle bydd y Brifysgol yn sefyll fel gwarantwr, ond am y tro gallwn roi cadarnhad i chi o hanes eich taliadau yn y brifysgol, os oes angen.  Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn ymhellach mnt@aber.ac.uk.

Dewisiadau Cymorth eraill a gwe-ddalennau defnyddiol

Darpariaeth Ffydd leol

Mae prifysgolion eraill hefyd yn cynnig ysgoloriaethau

Get help as a refugee or asylum seeker | British Red Cross

London Asylum Crisis Project - Refugee Action (refugee-action.org.uk)

 

 

 

AberOfalgar – Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc

Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn cynnig ystod eang o gymorth i Ofalwyr sy’n Oedolion Ifanc. Rydym wedi ymrwymo i helpu mwy o bobl â phrofiad o fod mewn gofal i fynd i'r brifysgol.

Rydym yn aelod o Gynghrair Gofalwyr Ceredigion ac rydym yn cyfarfod â nhw'n rheolaidd ac yn gallu trosglwyddo gwybodaeth i helpu ein myfyrwyr sy'n ofalwyr i reoli eu hastudiaethau ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu.

Ydy’r cymorth hwn yn iawn er eich cyfer chi?

Mae ein pecyn cymorth ar gael i'r categorïau canlynol o fyfyrwyr amser llawn sy'n hanu o'r DU:

Categori Diffiniad Y dystiolaeth sydd ei hangen
Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc Myfyrwyr sydd yn iau na 25 oed ac sy'n gyfrifol am roi gofal sylweddol heb dâl i aelod o’r teulu na allant ymdopi heb eu cymorth.   Gall hyn fod o ganlyniad i salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Cadarnhad o'ch statws fel Oedolyn Ifanc sy'n Ofalwr trwy'r corff Cyllid Myfyrwyr perthnasol, neu lythyr oddi wrth eich Awdurdod Lleol/Gwasanaethau Cymdeithasol neu Grŵp Cefnogi Gofalwyr.  Nid oes hawl gan fyfyrwyr derbyn Lwfans Gofalwr ar yr un pryd â'r Fwrsariaeth hon.

Cymorth Prifysgol Aberystwyth

Os ydych wedi ticio'r blwch ar eich ffurflen gais UCAS i nodi eich bod yn rhywun sy'n gadael gofal, byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i’ch cais ddod i law.  Gallwch hefyd hunangyfeirio drwy lenwi ein furflen gais ar gyfer Bwrsariaeth Ymadawyr Gofal, Gofalwyr Ifainc, a Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio oddi wrth eu teuluoedd

Marion Thomson yw'r cyswllt penodedig ar gyfer Ofalwyr sy’n Oedolion Ifanc ac mae'n cynnig y gefnogaeth ganlynol trwy gydol eich astudiaethau.

  • Bydd Mentor Ffordd Hyn ar gael i chi i'ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol, rhoi cyngor ynghylch sut i reoli eich amser a datblygu sgiliau trefnu.

Llety

Mae Llety Haf ar gael yn y Brifysgol i Ofalwyr sy’n Oedolion Ifanc - gellir gwneud cais amdano ar y we-ddalen llety

Os/pan fyddwch yn symud i lety preifat yn eich ail flwyddyn, cofiwch ofyn i ni os ydych yn cael trafferth darparu gwarantwr. Rydym yn bwriadu sefydlu cynllun lle bydd y Brifysgol yn sefyll fel gwarantwr, ond am y tro gallwn roi cadarnhad i chi o hanes eich taliadau yn y brifysgol, os oes angen.  Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn ymhellach mnt@aber.ac.uk

Cyllid ychwanegol 

Os ydych chi'n derbyn bwrsariaeth gadael gofal, gallwn hefyd gynnig ein pecyn graddio i chi sy'n cynnwys £100 tuag at gost pecyn llogi gwisg/ffotograffau.

Dolenni defnyddiol eraill

Cyngor Ceredigion - Gwybodaeth i Ofalwyr 

Cerdyn Gofalwyr Ceredigion

Darpariaeth Ffydd Leol

https://housinghand.co.uk/university-guarantor-service/