Amgylchedd Eithriadol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amgylchedd eithriadol i ddysgu a byw ynddo. Mae'r dref ei hunan yn ganolfan ddiwylliannol eangfrydig a bywiog ar lannau'r Canolbarth yng nghanol cefn gwlad hardd rhwng y bryniau a'r môr. Mae ymdeimlad balch o gymuned yma yn 'Aber'. Mae croeso cynnes i bawb yn y rhan unigryw hon o'r byd. Yn ddiweddar cyhoeddwyd mai Aberystwyth yw un o'r lleoedd mwyaf diogel i astudio ynddo yng ngwledydd Prydain, a'r un mwyaf diogel oll yng Nghymru gan arolwg Complete University Guide 2016.

A hithau'n Brifysgol sy'n arwain y byd ac sy'n canolbwyntio'n wirioneddol ar ei myfyrwyr, dyma'r rysáit am rai o'r myfyrwyr bodlonaf ym Mhrydain. Daeth Aberystwyth yn y 5ydd safle ym Mhrydain a'r uchaf yng Nghymru am brofiad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf, 2017. Daeth y Brifysgol ar y brig hefyd, yr uchaf yng Nghymru am ragoriaeth dysgu a phrofiad myfyrwyr yn The Times and The Sunday Times Good University Guide 2016.

Mae'r ymdeimlad o gymuned a geir yn y dref hefyd yn estyn i'r Brifysgol, lle mae perthynas unigryw rhwng y myfyrwyr a'r staff, ac mae'r staff dysgu yn ymfalchïo yn eu polisi drws agored.

Mae natur eithriadol y Brifysgol hon hefyd yn amlwg o'i hadnoddau, ei darlithfeydd â'r dechnoleg ddiweddaraf, y llyfrgell ardderchog, y neuaddau preswyl newydd sy'n arwain y sector, heb sôn am yr rhith-amgylchedd dysgu sydd â miloedd o oriau o ddarlithoedd wedi'u recordio sydd ar gael i helpu'r myfyrwyr â'u hastudiaethau. 

Mae'n wir bod Aber mewn rhan wirioneddol brydferth o'r byd, a'i bod ymhlith y lleoedd mwyaf diogel ym Mhrydain i astudio ynddo, ond yr hyn sy'n gwneud Prifysgol Aberystwyth yn wirioneddol arbennig yw'r myfyrwyr.

*Mae safleoedd Prifysgol Aberystwyth yn cael eu cymharu yn erbyn rhestr o sefydliadau addysg uwch a geir yn The Times & Sunday Times Good University Guide 2018