Ein Hanes

Llun o gampws Penglais gyda'r dre a'r prom yn y golygfa.

Dan arweiniad Hugh Owen, un o Gymry Llundain, aeth carfan fechan selog ati o’r 1850au ymlaen i godi digon o arian, trwy gyfraniadau cyhoeddus a phreifat, i sefydlu coleg o statws prifysgol yng Nghymru. 

Prosiect hynod uchelgeisiol oedd hwn ac ym 1872 agorodd y Brifysgol ei drysau, gyda llond dwrn o ddarlithwyr a dim ond 25 myfyriwr mewn adeilad a oedd, ar yr adeg honno, westy heb gael ei orffen ar lan y môr (yr ‘Hen Goleg’ erbyn heddiw). 

Yn ystod y degawd cyntaf, wynebodd y Brifysgol lawer her a allasai fod wedi dod â hi i ben. Trwy haelioni rhai noddwyr unigol a thrwy ymgyrchoedd yn galw ar werin Cymru am gymorth, llwyddwyd i gadw drysau’r Brifysgol ar agor ac, yn bwysicach oll efallai, fe enillodd y coleg le pwysig ym meddyliau a chalonnau’r Cymry. Testun balchder mawr yw’r ffaith bod y Brifysgol wedi gwneud cyfraniad sylweddol 
i addysg menywod, gan ei bod hi ymhlith y sefydliadau cyntaf i dderbyn merched yn fyfyrwyr. 

Ers y dyddiau cynnar hynny, aeth Prifysgol Aberystwyth o nerth i nerth ac mae ganddi bellach dros 6,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff. Wrth i’r sefydliad dyfu, symudodd y prif gampws o’r Hen Goleg ar lan y môr i safle ar Riw Penglais. 

Mae’r safle hwn, gyda’i diroedd a dirluniwyd yn gelfydd, yn mwynhau golygfeydd godidog dros dref Aberystwyth ac arfordir Bae Ceredigion. Mae ar y campws adeiladau newydd, gan gynnwys canolfannau mawr i’r celfyddydau a’r gwyddorau, neuaddau preswyl, Canolfan Gelfyddydau ardderchog ac adnoddau chwaraeon o’r safon uchaf.

Mae’r Hen Goleg yn dal i fod yn rhan hanfodol o’r Brifysgol ac mae cynlluniau cyffrous yn mynd rhagddynt i adnewyddu’r adeilad eiconig, sydd yn drysor o’n treftadaeth, gan ei fod ymhlith yr enghreifftiau pwysicaf o bensaernïaeth yr adfywiad Gothig ym Mhrydain. Ein nod yw creu canolfan ddiwylliant a threftadaeth fywiog, a fydd yn gyrchfan i bobl leol, yn ogystal ag ymwelwyr o bob cwr, i ddefnyddio a mwynhau arddangosfeydd, mannau rhannu dysg a gwybodaeth, a chanolfan a fydd yn sbardun i gychwyn busnesau creadigol.