Am Brifysgol Aberystwyth

Llun awyr o'r hen goleg a'r prom yn Aberystwyth.

Fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru, ers tro byd mae gennym enw da am gyflenwi rhagoriaeth academaidd, profiad eithriadol i fyfyrwyr ac ymchwil o safon fyd-eang. 

 

Ein cenhadaeth 

Cyflwyno addysg ac ymchwil ysbrydoledig mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac unigryw yng Nghymru. Gan adeiladu ar ein cryfderau hanesyddol a’n henw da am ragoriaeth, byddwn yn gwneud cyfraniad i gymdeithas yng Nghymru ac yn y byd ehangach drwy gymhwyso ein gwybodaeth i heriau lleol a byd-eang. Gan weithio mewn cymuned groesawgar a dwyieithog, byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i feithrin meddwl beirniadol, cwestiynu annibynnol a sgiliau sy’n paratoi ein dysgwyr ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol.  

Enw da am ansawdd addysgu eithriadol 

Dros y 150 mlynedd ddiwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi datblygu’n gymuned academaidd gref gyda thros 2,000 o staff a 6,000 o fyfyrwyr o bedwar ban byd. Mae gennym 19 o adrannau academaidd, wedi’u trefnu’n dair cyfadran ar draws y gwyddorau, y gwyddorau cymdeithasol, a’r celfyddydau a’r dyniaethau. 

Mae gennym enw penigamp am ragoriaeth addysgu. Wrth galon ein cenhadaeth mae addysgu sy’n cael effaith; dyna pam ein bod yn cael ein gosod yn gyson ymhlith prifysgolion gorau’r DU am ansawdd addysgu a boddhad myfyrwyr. 

Ymchwil sy’n ysbrydoli ac yn cael effaith 

Rydym yn brifysgol sy’n cael ein harwain gan ymchwil ac sy’n dathlu creu a chyfnewid gwybodaeth, effaith ac arloesi. Mae ein hymchwil yn sylfaen i’n haddysgu ac yn ei lywio i gyfoethogi profiad dysgu ein myfyrwyr. Mae ein hymchwil yn cyflwyno manteision i gymdeithas yn ehangach ac yn effeithio ar yr economi, yr amgylchedd, ar bolisi cyhoeddus a bywyd diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt. Gan amrywio o frwydro newid yn yr hinsawdd, gwella ansawdd bwyd a chynhyrchu bwyd, hyrwyddo iechyd dynol ac anifeiliaid, i ddatblygu deallusrwydd artiffisial a helpu i ddatblygu fforio yn y gofod, mae ein hymchwilwyr ar flaen y gad o ran arloesi ac cheir buddion rhyngwladol pellgyrhaeddol yn sgil effaith ein hymchwil. Yn asesiad diweddar y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, mae 98% o ymchwil y Brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch (REF 2021).  

Profiad Eithriadol i Fyfyrwyr  

Mae bywyd myfyrwyr yma’n troi o gwmpas ein campws arfordirol a thref ddiogel, glos ac eto gosmopolitan Aberystwyth. Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2022 gosodwyd Aberystwyth ar y brig yng Nghymru a Lloegr am foddhad myfyrwyr, sy’n tystio i’r profiad academaidd a chymdeithasol eithriadol y mae myfyrwyr yn ei dderbyn yn ystod eu cyfnod gyda ni. 

Buddsoddi yn ein hadnoddau 

Mae ein cyfraddau uchel o foddhad myfyrwyr yn adlewyrchu ansawdd yr addysg a ddarperir gennym yn ogystal â buddsoddiadau diweddar o dros £100m i wella ac ehangu ein hadnoddau preswyl ac addysgu oedd eisoes yn rhagorol. 

Ailwampiwyd ac uwchraddiwyd darlithfeydd a mannau addysgu ledled y Brifysgol, gyda chyfleusterau i recordio’r holl ddarlithoedd ar gyfer adolygu a chyfnerthu dysgu. Drwy dargedu buddsoddiad, rydym ni’n ymrwymo i sicrhau y gall ein myfyrwyr fanteisio ar gyfleusterau addysgu a dysgu o safon fyd-eang, a sicrhau’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu bywydau. 

Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau a lleoliadau i ddod hyd i’r lle sy’n gweithio i chi, gyda’r rhan fwyaf o’n preswylfeydd o fewn pellter cerdded rhwydd i’r campws. Rydym ni wedi buddsoddi dros 50 miliwn i wella ein llety myfyrwyr i’r holl fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig. Mae Fferm Penglais wedi’i gosod mewn amgylchedd sydd wedi’i dirlunio’n hyfryd, ac yn cynnig llety i fyfyrwyr sydd gyda’r gorau yn y DU gyda golygfeydd ysblennydd o arfordir Bae Ceredigion. Ym mis Medi 2020, croesawyd myfyrwyr newydd a rhai oedd yn dychwelyd i Neuadd Breswyl hanesyddol Pantycelyn sydd newydd ei hailwampio, adeilad eiconig sy’n dyddio o’r 1950au. Dynodwyd Pantycelyn yn llety i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn 1973 ac fe’i cydnabyddir yn genedlaethol am ei chyfraniad i ddiwylliant a chymdeithas Cymru. 

Cyfoethogir bywyd y myfyrwyr ymhellach gan Undeb Myfyrwyr bywiog, sy’n rhedeg dros 100 o glybiau a chymdeithasau gwahanol. Mae gennym ein Canolfan Chwaraeon ein hunain ar y campws gyda thrac rhedeg, llain 3G, pwll nofio, campfa, wal ddringo, stiwdio sbin, a dosbarthiadau llesiant a ffitrwydd. Ein Canolfan Celfyddydau ar y campws yw un o’r mwyaf yn y DU gyda theatr, mannau arddangos a pherfformio yn ogystal â sinema boutique, bar a chaffis. 

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg 

Rydym ni’n ymfalchïo yn ein hanes hir o addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wir, mae ein lefel o ddarpariaeth i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg gydag un o’r uchaf yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr rhugl eu Cymraeg yn ogystal a’r rheini sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr ar draws amrywiaeth eang o bynciau o amaethyddiaeth i astudiaethau plentyndod, a gwleidyddiaeth i wyddor anifeiliaid.