Adnoddau

Ers mis Ebrill 2000, lleolwyd yr Adran yn Adeilad Parry-Williams, adeilad newydd sbon ar gampws Penglais.

Mae gennym adnoddau a chyfarpar rhagorol, sy’n cynnwys:

  • Canolfan cyfryngau digidol newydd sbon ar gyfer gwaith cynhyrchu a golygu digidol
  • Tri gofod theatr stiwdio, sy’n dal 100 o bobl ac sy’n cynnwys grid ‘trampoline’ a chyfleusterau theatr llawn
  • Tair stiwdio ymarfer gyda lloriau sbonc ac adnoddau technegol hyblyg
  • Stiwdio newydd sbon yn arbennig ar gyfer ymchwil i berfformio a chynhyrchu theatr arbrofol
  • Stiwdio deledu, a dwy stiwdio amlbwrpas ar gyfer gwaith cynhyrchu theatr ffilm a theledu
  • 36 gorsaf golygu digidol a HD, dros 40 o gamerâu digidol a HD, cymysgydd lluniau digidol ac adnoddau galeri newydd
  • Stiwdio sain ddigidol gyda chyfarpar recordio a golygu digidol blaengar
  • Mynediad i Ganolfan Adnoddau’r Ganolfan Ymchwil i Berfformio, casgliad unigryw o lyfrau a deunydd gweledol ar theatr a pherfformio ledled y byd
  • Ystafelloedd darlithio â chyfarpar taflunio ffilm
  • Tafliad carreg oddi wrth Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru
  • Lleolir yr Adran drws nesaf i Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth, un o ganolfannau celfyddydol mwyaf y DU
  • Ceir mynediad at adnoddau pellach drwy ein partneriaethau gyda chwmni Boomerang+, sy'n un o gwmniau cynhyrchu anibynnolo mwyaf Cymru; Theatr Arad Goch, cwmni theatr cymunedol a ieuienctid sydd wedi elwa yn ddiweddar o fuddsoddiad sylweddol; a swyddfa BBC Cymru yn y canolbarth, sydd wedi ei lleoli yng nghalon yr Adran.

Yn y dref a'r cyffiniau mae sawl gofod arall ffurfiol ac anffurfiol a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchiadau gydol y flwyddyn. Mae'r gofodau hyn oll yn ein galluogi i gwrdd â'r ystod eang o ofynion sydd gan fyfyrwyr, staff ac ymarferwyr gwadd.