Hugh Owen, C48

What3Words - maddeuant.helpaf.dihunais 

Mae C48 wedi’i lleoli ar Lawr C adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais ger Llyfrgell Hugh Owen (mapiau o'r Brifysgol).

Cliciwch ar y mân-lun i weld llun maint llawn.

Manylebau

Nifer y seddi: 19

Math o ystafell: darlithfa

Maint yr ystafell: 58 m² (7m hyd x 5m lled)

Llenni blacowt

Hygyrchedd

Symudedd: agen Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP)*

Clywed: system Dolen Anwytho Cymorth Clyw (Pa gymorth clywed sydd ar gael yn yr ystafelloedd addysgu?)

*Cynghorir defnyddwyr sydd â phryderon yn ymwneud â symudedd i drefnu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) gyda’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (hse.office@aber.ac.uk), gan nad oes llwybr gwastad i fynd i mewn ac allan o’r ystafell hon.

Cyfarwyddiadau

Ewch i mewn i adeilad Hugh Owen drwy’r fynedfa ar Lawr D, ger prif ddrysau llyfrgell Hugh Owen. Dilynwch y coridor sy’n mynd yn syth ymlaen o’r fynedfa hon a dringwch y grisiau i Lawr C. Ar Lawr C, parhewch ar hyd y coridor hwn ac mae C48 wedi’i lleoli ar y dde.

Offer

Cyfleusterau dysgu safonol

1 taflunydd data

2 bwrdd gwyn

Canllaw Ystafelloedd Addysgu

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu’r canllaw hwn ynghylch defnyddio cyfarpar addysgu safonol yn yr ystafelloedd addysgu canolog – dilynwch y ddolen i lawrlwytho’r ffeil Microsoft Word: Canllawiau Ystafelloedd Dysgu 2023-24