Uwchgylchu Dillad

 

Uwchgylchu Dillad can be studied as a stand-alone course at Aberystwyth University.

Key Facts

 

Language: Welsh

Duration: 10 Weeks

Number of Credits: 10

Tutor: Eleri Gould

Learning Method: Face-to-face

Level: This module is at CQFW Level 4

Module Code: YD15110

Fee: £150.00 - Fee Waiver Scheme available 

This course is currently unavailable for booking

Be the first to know when new dates are announced by joining our mailing list.

 

Thanks to financial support from Medr through the Fee Waiver Scheme  : Lifelong Learning , Aberystwyth University individuals who live in Wales (and who are not studying at a university), can study this course for free.

Due to the nature of the course, there are a limited number available so it will be first come, first served!

 

Amlinell 

Bydd myfyrwyr sy’n cymryd y modiwl hwn yn cael profiad o weithio gyda gwahanol fathau o ddillad; byddant yn dysgu sut i’w torri ac yna sut i’w defnyddio i greu datganiadau ecoffasiwn sy’n newydd a chyffrous. Mae angen sylw mawr iawn i fanylion trwy gydol y cwrs.


Bydd myfyrwyr yn dechrau trwy wneud bag syml drwy uwchgylchu ac yna symud ymlaen i ddillad, gan ddatblygu sgiliau dylunio ar hyd y ffordd. Byddwn yn trafod nodweddion gwahanol fathau o ffabrig a’u rhinweddau unigryw. Bydd angen i fyfyrwyr fedru cael peiriant gwnïo i’w ddefnyddio rhwng sesiynau. Dechreuwch gasglu hen ddillad a siwmperi yn barod i’w huwchgylchu.

Rhaglen y Cwrs

Bydd myfyrwyr yn dechrau trwy ddod i ddeall y peiriant gwnïo drwy wneud bag siopa syml ac wedyn symud ymlaen i wneud dillad, o’r pen i’r traed. Bydd pob dilledyn yn cael ei wneud drwy dynnu eitemau o ddillad presennol yn ddarnau ac ail-greu eitemau newydd ohonynt, gan ddefnyddio darnau, nodweddion, sbarion a thrimiau presennol. Mae hwn yn gwrs tecstil heb frasbwythau ac sy’n torri rheolau.

Sesiwn 1: Tasg un: Ymgyfarwyddo â pheiriant gwnïo (naill ai peiriant y myfyrwyr eu hunain neu’r Janome 525 Sewist). Tasg dau: Gwneud bag siopa o ddilledyn, sef dewis ffabrig wedi’i ailgylchu, creu a thorri patrwm papur, gwnïo’r bag gan ddefnyddio sêm Ffrengig sydd ag addurniadau igam-ogam a phoced os dymunir.

Sesiwn 2: Dylunio a gwneud het Lluniadu a dylunio arddull yr het. Dewis/gwneud ffabrig yn ôl ei nodweddion gwahanol e.e. gwlân yn erbyn plastig; gellir gwneud gwlân ffelt drwy ferwi siwmper, gellir gwneud ffabrig gwrth-ddŵr trwy smwddio bagiau plastig gyda’i gilydd a gellir gwneud ffabrigau mwy trwchus trwy asio haenau at ei gilydd. Torri a pharatoi’r ffabrig, gwnïo’r holl ddarnau at ei gilydd, gan ddefnyddio addurniadau os dymunir.

Sesiwn 3: Trawsnewid top (o grys-T mawr) Trafodaeth: Edrych ar wahanol arddulliau a syniadau. Dylunio blaen a chefn yr arddull a ddymunir – gwddf halter, heb gefn, rib/rhesog, wedi’i ffitio ac ati. Torri’r crys-T a’i ailosod ar y manecwin. Gwnïo’r holl ddarnau a rhoi sylw i bob sêm a gorffeniad.

 

Sesiwn 4: Trawsnewid gwaelod (sgert neu drywsus) Trafodaeth: Edrych ar wahanol arddulliau a syniadau. Dylunio’r dilledyn a ddewisir gan fod â syniad uwchgylchu penodol mewn golwg h.y. gwneud sgert o lewys crys neu droi pâr o drowsus yn sgert. Casglu’r darnau dillad angenrheidiol a’u torri i baratoi. Gosod y darnau ar y manecwin. Gwnïo’r holl ddarnau at ei gilydd a rhoi sylw i’r sêm a manylion y gorffeniad.

Sesiwn 5: Gwneud dilledyn uchaf/trosdilledyn (o ddilledyn sy’n bodoli’n barod) Trafodaeth: Edrych ar y gwahanol opsiynau (e.e. clogyn, gwasgod, cardigan). Tynnu llun syniadau am y dilledyn gorffenedig. Casglu eitemau posibl i’w torri. Gosod popeth at ei gilydd a gwnïo’r dilledyn, gam wrth gam. Rhoi sylw i bob sêm, addurniad a gorffeniad.

Sesiwn 6: Cyflwyno’r asesiad i grŵp a thiwtor.

Canlyniadau Dysgu

  1. Ysgrifennu Datganiad o Fwriad ar gyfer prosiect personol.
  2. Dylunio a chyflwyno tri dilledyn gorffenedig sydd wedi’u huwchgylchu.
  3. Dangos dealltwriaeth o wahanol rinweddau a gwendidau gwahanol ffabrigau trwy lyfr log gweledol.
  4. Ailddylunio dilledyn syml wedi’i wneud o ddillad wedi’u hailgylchu ym mhrosiect un.

Asesiadau

  1. Adroddiad - 10%
  2. Portffolio - 90%

Gofynion Mynediad 

Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.