Cwrs Cynganeddu: Cam 3

 

The course 'Cwrs Cynganeddu: Cam 3' can be studied as a stand-alone course and is a Welsh Medium Course for the Certificate of Higher Education in Creative Writing at Aberystwyth University.

Key Facts

 

Language: Welsh

Duration: 10 Weeks 

Number of Credits: 10

Tutor: Ceri Wyn Jones

Learning Method: Online: Scheduled Sessions 

Level: This module is at CQFW Level 4

Module Code: YD11310

Fee: £255.00 - Fee Waiver Scheme available

This course is currently unavailable for booking

Be the first to know when new dates are announced by joining our mailing list.

 

Thanks to financial support from Medr through the Fee Waiver Scheme  : Lifelong Learning , Aberystwyth University individuals who live in Wales (and who are not studying at a university), can study this course for free. Before your place on the course can be booked, you must complete a Fee Waiver application and send us proof of your address in Wales.

Due to the nature of the course, there are a limited number available so it will be first come, first served!

 

Amlinell 

Os wyt ti eisoes yn medru cynganeddu’n gywir ac wedi cael y profiad o gyfansoddi englynion cywyddau a hir-a-thoddeidiau, dyma’r cwrs i ti. Dyma gyfle i ymarfer y grefft wrth i sesiynau ar lein dy herio i gyfansoddi cerddi’n wythnosol, cyn i ti dderbyn adborth adeiladol ar y cerddi hynny gan diwtor sydd hefyd yn Brifardd. Bydd y cwrs hwn yn addas ar gyfer y sawl sydd wedi dilyn dwy ran gyntaf Cwrs Cynganeddu Dysgu Gydol Oes (sef ‘Dechrau o’r Dechrau’n Deg’ ac ‘Yr Ail Gam’), Bydd hefyd yn hollol addas ar gyfer y sawl sydd wedi dod i gynganeddu’n rhugl ar hyd llwybrau eraill.

Rhaglen y Cwrs

Bydd y cwrs yn cynnwys cyfres o naw gweithdy, fel a ganlyn:

  1. (a) Adolygiad o’r cynganeddion unigol, y goddefiadau a’r beiau gwaharddedig (b) Gosod tasg ysgrifennu englyn. Adborth yn y wers nesa.
  2. (a) Adolygiad o’r prif fesurau (y cywydd, yr englyn a’r hir-a-thoddaid) ac o rai mesurau eraill (cywydd deuair fyrion, englyn oenfyr, englyn milwr, englyn cyrch) (b) Gosod tasg ysgrifennu cywydd. Adborth yn y wers nesa.
  3. (a) Cyflwyno mesur newydd (ee cyhydedd nawban) (b) Gosod tasg ysgrifennu hir-a-thoddaid. (Adborth yn y wers nesa.)
  4. (a) Cyflwyno mesur newydd (ee cywydd llosgyrnog) (b) Gosod tasg ygrifennu ar ee fesur y cyhydedd nawban neu’r cywydd llosgyrnog. Adborth yn y wers nesa
  5. Gosod tasg asesu 1 (i) Cywydd. Adborth ysgrifenedig + y wers nesa.
  6. Gosod tasg asesu 1 (ii) Englyn. Adborth ysgrifenedig + y wers nesa
  7. Gosod tasg asesu 2 ar unrhyw fesur heb law cywydd neu engyn. Adborth ysgrifenedig + y wers nesa.
  8. Paratoi at Eisteddfod y Dosbarth.
  9. Eisteddfod y Dosbarth.

Canlyniadau Dysgu 

  1. Llunio gwahanol ffurfiau ar y gynghaneddLlunio cerddi ar wahanol fesurau cynganeddol.
  2. Cyflwyno a thrafod eu gwaith eu hunain a gwaith eraill.
  3. Llunio cywydd ac englynLlunio cerdd ar fesurau caeth heb law’r cywydd a’r englyn.

Asesiadau 

  1. Gwaith Unigol (700 o eiriau) Cwblhau’r tasgau a chyfrannu i weithdai a thrafodaethau ar eu gwaith eu hunain a gwaith eraill. (40%)
  2. Cerdd Gynganeddol (600 o eiriau) Cyflwyno (yn ysgrifenedig) gerdd gynganeddol ar unrhyw fesur traddodiadol heb law’r cywydd a’r englyn. (30%)
  3. Cywydd ac Englyn (600 o eiriau)  Cyflwyno cywydd ac englyn ar lafar ac yn ysgrifenedig. (30%)

Gofynion Mynediad 

Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Mae’r cwrs yn addas i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.

Beth sydd ei angen arnaf? 

  • Mynediad i'r rhyngrwyd. 
  • Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd. 
  • Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.