Cwrs Cynganeddu: Cam 3
Gellir astudio Cwrs Cynganeddu: Cam 3 fel cwrs annibynnol ac mae'n gwrs Cyfrwng Cymraeg ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Cymraeg
Hyd: 10 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Ceri Wyn Jones
Dull Dysgu: Ar lein / Sesiynau Byw
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: YD11310
Ffi: £255.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim. Cyn y gellir archebu eich lle ar y cwrs, rhaid i chi gwblhau cais Hepgor Ffioedd ac anfon prawf o'ch cyfeiriad yng Nghymru atom.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
Amlinell
Os wyt ti eisoes yn medru cynganeddu’n gywir ac wedi cael y profiad o gyfansoddi englynion cywyddau a hir-a-thoddeidiau, dyma’r cwrs i ti. Dyma gyfle i ymarfer y grefft wrth i sesiynau ar lein dy herio i gyfansoddi cerddi’n wythnosol, cyn i ti dderbyn adborth adeiladol ar y cerddi hynny gan diwtor sydd hefyd yn Brifardd. Bydd y cwrs hwn yn addas ar gyfer y sawl sydd wedi dilyn dwy ran gyntaf Cwrs Cynganeddu Dysgu Gydol Oes (sef ‘Dechrau o’r Dechrau’n Deg’ ac ‘Yr Ail Gam’), Bydd hefyd yn hollol addas ar gyfer y sawl sydd wedi dod i gynganeddu’n rhugl ar hyd llwybrau eraill.
Rhaglen y Cwrs
Bydd y cwrs yn cynnwys cyfres o naw gweithdy, fel a ganlyn:
- (a) Adolygiad o’r cynganeddion unigol, y goddefiadau a’r beiau gwaharddedig (b) Gosod tasg ysgrifennu englyn. Adborth yn y wers nesa.
- (a) Adolygiad o’r prif fesurau (y cywydd, yr englyn a’r hir-a-thoddaid) ac o rai mesurau eraill (cywydd deuair fyrion, englyn oenfyr, englyn milwr, englyn cyrch) (b) Gosod tasg ysgrifennu cywydd. Adborth yn y wers nesa.
- (a) Cyflwyno mesur newydd (ee cyhydedd nawban) (b) Gosod tasg ysgrifennu hir-a-thoddaid. (Adborth yn y wers nesa.)
- (a) Cyflwyno mesur newydd (ee cywydd llosgyrnog) (b) Gosod tasg ygrifennu ar ee fesur y cyhydedd nawban neu’r cywydd llosgyrnog. Adborth yn y wers nesa
- Gosod tasg asesu 1 (i) Cywydd. Adborth ysgrifenedig + y wers nesa.
- Gosod tasg asesu 1 (ii) Englyn. Adborth ysgrifenedig + y wers nesa
- Gosod tasg asesu 2 ar unrhyw fesur heb law cywydd neu engyn. Adborth ysgrifenedig + y wers nesa.
- Paratoi at Eisteddfod y Dosbarth.
- Eisteddfod y Dosbarth.
Canlyniadau Dysgu
- Llunio gwahanol ffurfiau ar y gynghaneddLlunio cerddi ar wahanol fesurau cynganeddol.
- Cyflwyno a thrafod eu gwaith eu hunain a gwaith eraill.
- Llunio cywydd ac englynLlunio cerdd ar fesurau caeth heb law’r cywydd a’r englyn.
Asesiadau
- Gwaith Unigol (700 o eiriau) Cwblhau’r tasgau a chyfrannu i weithdai a thrafodaethau ar eu gwaith eu hunain a gwaith eraill. (40%)
- Cerdd Gynganeddol (600 o eiriau) Cyflwyno (yn ysgrifenedig) gerdd gynganeddol ar unrhyw fesur traddodiadol heb law’r cywydd a’r englyn. (30%)
- Cywydd ac Englyn (600 o eiriau) Cyflwyno cywydd ac englyn ar lafar ac yn ysgrifenedig. (30%)
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Mae’r cwrs yn addas i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
Beth sydd ei angen arnaf?
- Mynediad i'r rhyngrwyd.
- Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd.
- Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.
