Sgiliau Dwyieithog i’r Gweithle 1
The course is to enable students to identify and develop core skills needed in the workplace.
Key Facts
Language: Welsh
Duration: 14 Weeks
Number of Credits: 10
Tutor: Dr Tamsin Davies
Learning Method: Online
Level: This module is at CQFW Level 4
Module Code: YD11510
Fee: £140.00 - Fee Waiver Scheme available
This course is available to book.
Thanks to financial support from Medr through the Fee Waiver Scheme : Lifelong Learning , Aberystwyth University individuals who live in Wales (and who are not studying at a university), can study this course for free. Before your place on the course can be booked, you must complete a Fee Waiver application and send us proof of your address in Wales.
Due to the nature of the course, there are a limited number available so it will be first come, first served!
Disgrifiad
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adnabod a datblygu sgiliau craidd sydd eu hangen yn y gweithle, a’r gweithle dwyieithog yn benodol. Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau gweithgareddau sy’n dangos sgiliau cyflogadwyedd craidd, megis gweithdai, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant ar-lein, ac ysgrifennu dyddlyfr adfyfyriol (reflective journal) anffurfiol. Mae’r modiwl hwn yn cydnabod sgiliau sy’n gysylltiedig â nodweddion graddedigion Prifysgol Aberystwyth:
- Parod am yrfa
- Datryswyr problemau dadansoddol
- Cymwys yn ddigidol
Bydd y modiwl hefyd yn darparu cefnogaeth i'r rhai llai hyderus eu Cymraeg i gryfhau eu sgiliau dwyieithog i’r gweithle. Mae’r modiwl yn addas i siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd lefel CEFR B2 neu’n uwch.
Dyddiadau
14 Hydref 2026 - 29 Ionawr 2027
Canlyniadau Dysgu
1. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.
2. Myfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y modiwl.
3. Datbygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys darllen, cymathu, archwilio a meddwl yn feirniadol.
4. Cymhwyso eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle
Asesiadau
Dyddlyfr hunan-fyfyrio - 100%
Cynnwys
1.Parod am yrfa
Hunan-ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol
Rhaid dewis 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
o Gweithdy SgiliauAber
o Adnabod eich Sgiliau Byd Gwaith
o Cwis Paru Gyrfa Gyrfa Cymru
o Cwis Sgiliau Byd Gwaith Profi
o Rhestr wirio GraddedigionAber
2. Proffesiynoldeb
Rhaid dewis 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
Sesiynau SgiliauAber:
o Defnyddio LinkedIn i wella cyflogadwyedd
o Golygu a phrawf-ddarllen
NEU
o Lleoliad gwaith neu waith gwirfoddoli
3. Ymwybyddiaeth o amgylcheddau gwaith gwahanol
Rhaid dangos 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
o Ffug gyfweliad
o Gweithdy SgiliauAber
o Creu ac addasu CV
o Ymweld â ffeiriau gyrfaoedd/digwyddiadau cyflogwyr
NEU
o Cwrs datblygiad proffesiynol parhaus priodol
Datryswyr problemau dadansoddol
4. Cyfathrebu
Rhaid dewis 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
o Gweithdai SgiliauAber
o Ysgrifennu ffurfiol
o Trawsieithu
o Sgiliau darllen
o Cyflwyniadau llafar
NEU
o Cwblhau sesiynau’r DSI
Cymwys yn ddigidol
5. Cymwys yn ddigidol
Rhaid dewis 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
o Gweithdai SgiliauAber
o Cymraeg ar y cyfrifiadur
o Porth Adnoddau:
o Cwrs ar ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol ‘Sbia ar hwn’
o Offeryn Darganfod Digidol
