Sgiliau Dwyieithog i’r Gweithle 1
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adnabod a datblygu sgiliau craidd sydd eu hangen yn y gweithle.
Ffeithiau Allweddol
Iaith: Cymraeg
Hyd: 14 Wythnos
Nifer y Credydau: 10
Tiwtor: Dr Tamsin Davies
Dull Dysgu: Ar-lein
Lefel: Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC
Cod y Modiwl: YD11510
Ffi: £140.00 - Cynllun Hepgor Ffioedd
Gellir archebu lle ar y cwrs yma.
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim. Cyn y gellir archebu eich lle ar y cwrs, rhaid i chi gwblhau cais Hepgor Ffioedd ac anfon prawf o'ch cyfeiriad yng Nghymru atom.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
Disgrifiad
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adnabod a datblygu sgiliau craidd sydd eu hangen yn y gweithle. Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau gweithgareddau sy’n dangos sgiliau cyflogadwyedd craidd, megis gweithdai, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant ar-lein, ac ysgrifennu dyddlyfr adfyfyriol (reflective journal) anffurfiol. Mae’r modiwl hwn yn cydnabod pum sgil graidd sy’n bwysig i’r gweithle:
- Hunan-ymwybyddiaeth
- Cyfathrebu
- Meddwl yn feirniadol
- Llythrennedd ddigidol a gwybodaeth
- Proffesiynoldeb
Bydd y modiwl hefyd yn darparu cefnogaeth i'r rhai llai hyderus eu Cymraeg i gryfhau eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle.
Dyddiadau
13 Hydref 2026 – 29 Ionawr 2027
Canlyniadau Dysgu
1. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.
2. Myfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y modiwl.
3. Datbygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys darllen, cymathu, archwilio a meddwl yn feirniadol.
4. Cymhwyso eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle
Asesiadau
Dyddlyfr hunan-fyfyrio - 100%
Cynnwys
1.Parod am yrfa
Hunan-ymwybyddiaeth o sgiliau a rhinweddau personol
Rhaid dewis 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
o Gweithdy SgiliauAber
o Adnabod eich Sgiliau Byd Gwaith
o Cwis Paru Gyrfa Gyrfa Cymru
o Cwis Sgiliau Byd Gwaith Profi
o Rhestr wirio GraddedigionAber
2. Proffesiynoldeb
Rhaid dewis 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
Sesiynau SgiliauAber:
o Defnyddio LinkedIn i wella cyflogadwyedd
o Golygu a phrawf-ddarllen
NEU
o Lleoliad gwaith neu waith gwirfoddoli
3. Ymwybyddiaeth o amgylcheddau gwaith gwahanol
Rhaid dangos 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
o Ffug gyfweliad
o Gweithdy SgiliauAber
o Creu ac addasu CV
o Ymweld â ffeiriau gyrfaoedd/digwyddiadau cyflogwyr
NEU
o Cwrs datblygiad proffesiynol parhaus priodol
Datryswyr problemau dadansoddol
4. Cyfathrebu
Rhaid dewis 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
o Gweithdai SgiliauAber
o Ysgrifennu ffurfiol
o Trawsieithu
o Sgiliau darllen
o Cyflwyniadau llafar
NEU
o Cwblhau sesiynau’r DSI
Cymwys yn ddigidol
5. Cymwys yn ddigidol
Rhaid dewis 2 weithgaredd tuag at y portffolio:
o Gweithdai SgiliauAber
o Cymraeg ar y cyfrifiadur
o Porth Adnoddau:
o Cwrs ar ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol ‘Sbia ar hwn’
o Offeryn Darganfod Digidol
