Llwyddiant Llenyddol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol

26 Hydref 2012

Yn yr Eisteddfod Ryng-golegol a gynhaliwyd ym Mangor eleni dau fyfyriwr o’r gwyddorau ddaeth i'r brig yng nghystadlaethau'r prif wobrau llenyddol. Gruffudd Antur, myfyriwr ffiseg ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y gadair ac Elliw Haf Pritchard, myfyrwraig seicoleg enillodd y Goron.  Mae'r ddau'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ymgeisiodd dros 25 yng nghystadleuaeth y Gadair a'r Athro Peredur Lynch o Brifysgol Bangor gafodd y fraint o'u beirniadu.  Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i Gruffudd, sy'n wreiddiol o Lanuwchllyn ac yn ei ail flwyddyn yn y Brifysgol, ennill y gadair.

Y testun oedd "Gobaith", ac ysbrydolwyd cerdd Gruffudd gan ymdrechion yr Alban i sicrhau annibyniaeth.  Roedd ei gerdd yn sôn am drywydd yr Alban tuag at annibyniaeth a pherthynas Cymru â'r datblygiadau hyn, a hynny ar ffurf dau unigolyn yn ceisio cyrraedd yr un man gyda'i gilydd. Dywedodd Gruffudd, "Er mai Ffiseg yw fy mhwnc yn y Brifysgol, mae'r agwedd fathemategol ar y pwnc yn ei gwneud hi'n haws i mi 'sgrifennu yn y mesurau caeth gan ei fod yn ddull eitha' fformiwlaig o sgrifennu.”

Daw enillydd y Goron - Elliw - o'r Groeslon, Caernarfon ac mae yn ei blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.

Fe'i gwobrwywyd am ddarn o ryddiaith ar y teitl 'Cysylltu' ac mae'n debyg bod eu hastudiaethau wedi darparu sail i linyn cyswllt y stori fel yr esbonia Elliw, "Roedd gennyf ddiddordeb mewn perthynas pobl â'i gilydd, a'r effaith gaiff torri cysylltiad rhwng dau berson ar unigolyn. Sylfaen y stori yw torri ac yna ceisio ail-greu'r cysylltiad hwnnw rhwng dau berson."

Yn ei beirniadaeth nododd Dr Angharad Price, Prifysgol Bangor, "Roedd y 24 a oedd wedi cystadlu wedi cynhyrchu gwaith o safon uchel iawn...a braf oedd gweld cystadleuaeth cystal, ond roedd gwaith y buddugol yn codi i dir uwch, gydag ysgrifennu aeddfed a neges bendant iddi."