Archif Alumni
Edrychwch ar hen gopiau o'r Cylchlythyr Alumni
Y Gronfa Flynyddol
Edrychwch dros manylion prosiectau ac adroddiadau'r Gronfa Flynyddol
Cefnogi Aber
Pan agorodd Prifysgol Aberystwyth ei drysau ym 1872, roedd y diolch yn bennaf i haelioni dynion a merched cyffredin o Gymru a gyfrannodd tuag at y costau cychwynnol, ac a wnaeth, i raddau helaeth, sicrhau goroesiad y brifysgol yn ei blynyddoedd cynnar cyn y cafwyd unrhyw gyllid gan y llywodraeth.
Bron i 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae eich haelioni a’ch cymorth yn parhau i fod yn hanfodol bwysig i ni – ni allwn gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol heb eich cymorth a’ch anogaeth.
Sut bynnag yr hoffech ein cefnogi wrth i ni wynebu heriau’r unfed ganrif ar hugain, gallwn eich sicrhau bod eich rhodd yn cael effaith ac y caiff eich dewisiadau a’ch gofynion eu bodloni.