Adnoddau Ymchwil

I’r hanesydd, mae Aberystwyth yn un o leoliadau ymchwil rhagorol y DU, yn ogystal â’r brif ganolfan ar gyfer astudio pob agwedd ar hanes Cymru yn ei gyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol. 

Adnoddau Ymchwil

I’r hanesydd, mae Aberystwyth yn un o leoliadau ymchwil rhagorol y DU, yn ogystal â’r brif ganolfan ar gyfer astudio pob agwedd ar hanes Cymru yn ei gyd-destun Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol. Mae adnoddau llyfrau, cyfnodolion ac archifau mewn nifer o lyfrgelloedd yma, gan gynnwys casgliadau enfawr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef unig lyfrgell hawlfraint Cymru ac un o blith pum llyfrgell hawlfraint yn unig yn y DU. Yma, gellir gweld pob cyhoeddiad hawlfraint a gyhoeddir yn y DU, ac mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gartref i nifer o gasgliadau sy’n ymwneud â Phrydain yn gyffredinol. Ers ei sefydlu hi yw prif gadwrfa’r byd ar gyfer archifau sy’n ymwneud â hanes Cymru, a nifer ohonynt yn dal heb eu harchwilio’n fanwl. Mae Llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol yn gartref i fwy na 600,000 o gyfrolau a thros 3000 o gyfresi cyfnodolion, yn ogystal â nifer o gasgliadau ymchwil unigryw. At hyn, ceir nifer o lyfrgelloedd arbenigol ar gyfer ymchwilwyr meysydd fel hanes amaethyddol, archifau a gwyddor gwybodaeth, astudiaethau pensaernïol ac archaeolegol. Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i nifer o sefydliadau a arweinir gan ymchwil ac sy’n ddefnyddiol i haneswyr nifer o gyfnodau a diddordebau. Mae’r rhain yn cynnwys y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; a Swyddfa Gofnodion Ceredigion, yn ogystal â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

 

Y Cyfnod Canoloesol

Ar gyfer y cyfnod canoloesol, mae’r enghreifftiau o’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil yn cynnwys casgliad llawysgrifau amhrisiadwy’r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n cynnwys cofnodion llys seciwlar ac eglwysig yn ogystal â phapurau llenyddol, teuluol ac ystadau. Mae casgliadau’r Adran yn y maes hwn yn cynnwys Bas-Data Rholiau Llysoedd Dyffryn Clwyd (gan gynnwys casgliad meicroffilm mawr); mae’r prosiect hwn, a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yn brif adnodd ar gyfer astudio Cymru’r Oesoedd Canol diweddar.

Y Cyfnod Modern Cynnar

I haneswyr y cyfnod modern cynnar, mae archifau’r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys cofnodion Llysoedd y Sesiynau Mawr (yr hyn sy’n cyfateb i awdurdodaeth Brawdlysoedd Lloegr) sydd heb eu harchwilio fel y cyfryw, casgliadau helaeth o ddeunyddiau profiant, a chofnodion yr eglwys yng Nghymru. Mae cofnodion ystadau yn cynnwys nifer o brif gasgliadau yn trafod amrywiaeth eang o bynciau. Yn ogystal â’i chasgliadau helaeth o lawysgrifau, mae gan y Llyfrgell Genedlaethol hefyd gopïau meicroffilm o’r brif gyfres Dogfennau Gwladol (1547-1782), Papurau’r Swyddfa Gartref (1782-1820), a chofnodion Esgobol o Lyfrgell Palas Lambeth. Ymhlith ei chasgliadau helaeth o lyfrau a phamffledi print, mae gan y Llyfrgell Genedlaethol hefyd ar feicroffilm gasgliad cyflawn o’r holl Lyfrau Saesneg Cynnar 1475-1700; a Llyfrau’r Ddeunawfed Ganrif; argraffiad cyflawn o 20,000 Traethodyn Thomason ar gyfer 1640-60; a chasgliad o Bamffledi Gwleidyddol Ffrainc ar gyfer 1547-1648.

Yr ugeinfed ganrif

I hanesydd yr ugeinfed ganrif, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi datblygu casgliadau meicrofiche a meicroffilm digyffelyb o gasgliadau archifau o rannau eraill o Brydain a thu hwnt, yn ogystal â’i chasgliadau helaeth ei hun o bapurau newydd a llawysgrifau (gan gynnwys Papurau Lloyd George). Mae’r rhain yn cynnwys archifau’r Pleidiau Rhyddfrydol, Ceidwadol a Llafur, Plaid Annibynnol Llafur a Phlaid Cymru; a hefyd ddeunyddiau o fudiad cenedlaethol yr Alban. Mae’r casgliadau ar y drefn gyhoeddus ac amgylchiadau cymdeithasol ym Mhrydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn cynnwys Cythrwfwl Sifil, Siartiaeth a Therfysgoedd yn Lloegr y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg; Mudiadau Protest, Trefn Sifil a’r Heddlu ym Mhrydain rhwng y Ddau Ryfel Byd; Gwrthdaro a Chytundeb yng Nghysylltiadau Diwydiannol Prydain 1916-46; a Streic Fawr 1926. Mae deunyddiau canol yr ugeinfed ganrif yn cynnwys casgliadau o Archif Arsylwad Torfol Tom Harrisson; Adroddiadau Cudd-wybodaeth Prydain y Weinidogaeth Wybodaeth 1940-44; casgliad ar feicroffilm o Bapurau Newydd Poblogaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd; ac Adroddiadau’r Llywodraeth Filwrol ar gyfer yr Almaen (Ardal UDA), 1945-53. Mae’r deunyddiau sy’n ymwneud â hanes y cyfryngau torfol yn cynnwys catalogau radio a drama deledu’r BBC 1923-75; a rhifynnau cyhoeddi ffilmiau newyddion Prydain 1913-70. Mae casgliadau meicroffilm newydd yn cael eu hychwanegu’n gyson at gasgliadau’r Llyfrgell.

Y cyfnod modern

Ar gyfer y cyfnod modern, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i gasgliad helaeth o bapurau newydd a chyfnodolion o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, o Loegr, Cymru a thu hwnt (yn eu ffurf wreiddiol ac ar feicroffilm), a chasgliadau rhagorol o lawysgrifau, darluniadau, mapiau a deunyddiau sain. Mae’r casgliadau meicroffilm yn amrywio o Gofnodion y Cabinet i Lyfrau Cofnodion cymdeithasau’r Oweniaid 1838-1845; gyda chasgliadau arbennig ar Y Mewnfudwr yn America; ac Archifau’r Gwyddonwyr Prydeinig. Cedwir casgliadau sylweddol o lên-gwerin ac ethnograffeg amatur, megis papurau Tom Jones (o Drealaw, y Rhondda), a chasgliadau cyfoethog i hwyluso gwaith ymchwil ar ddiwylliant poblogaidd yn gyffredinol, gan gynnwys papurau helaeth nifer o gerddorion Cymru a sylwebyddion ar y sîn gerddorol yng Nghymru, fel papurau D. Emlyn Evans. O ran chwaraeon, ceir yma lyfrau Cofnodion a Chyfrifon nifer o gyrff chwaraeon (yn cynnwys clybiau criced, tenis a golf), ynghyd â chasgliadau helaeth o bapurau newydd.

Llyfrgell Hugh Owen

Mae nifer o gasgliadau arbennig ym mhrif lyfrgell y brifysgol, Llyfrgell Hugh Owen, sy’n ychwanegu at adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol. I’r haneswyr sy’n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Prydain, ceir yma gasgliad helaeth o adroddiadau’r llywodraeth a chyhoeddiadau’r HMSO sy’n dyddio’n ôl dros gan mlynedd, ac wrth gwrs rediad cyflawn o Hansard. I haneswyr sy’n ymddiddori yn UDA, mae adnoddau Llyfrgell Hugh Owen yn cynnwys y casgliad microffilm Early American Imprints, sef casgliad cyflawn o bopeth a argraffwyd yng Ngogledd America (ac eithrio papurau newydd) hyd  1800. Ar gyfer cyfnod Rhyfel Cartref America a’r Ailymgorfforiad, ceir Official Records of the Wars of the Rebellion, cyfres gyflawn o gofnodion milwrol cyhoeddedig y Rhyfel Cartref;  Congressional Globe (1860-1873) a Congressional Record (1873-77), cofnod cyflawn o drafodion y gyngres yn ystod y blynyddoedd hyn; Ku Klux Klan Hearings Cyngres UDA (1871-72), sy’n datgelu’r amgylchiadau cymdeithasol a gwleidyddol yn y de ar ôl y rhyfel; a rhifynnau meicroffilm o bapurau newydd a chyfnodolion. Mae gan Lyfrgell Hugh Owen hefyd bapurau newydd Gorllewin Affrica’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif ar feicroffilm, cofnodion Cymdeithas Cenhadon yr Eglwys, cofnodion consylaidd UDA, a phapurau o Lyfrgell Prifysgol Ibadan i gefnogi gwaith ymchwil yn hanes modern Affrica. Mae Llyfrgell Hugh Owen hefyd yn un o ddwy Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd benodol yn unig yng Nghymru, ac yn derbyn y rhan fwyaf o gyhoeddiadau a lunnir gan brif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys testunau deddfwriaethol, adroddiadau ac ystadegau ar ystod cyfan o bynciau’n ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd ac integreiddio Ewropeaidd. Mae ein chwaer-adrannau, y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn cynnig arbenigedd pellach yn y maes hwn. Mae gan Lyfrgell Hugh Owen hefyd ei chasgliad papurau newydd ei hun ar feicroffilm, a chasgliad mawr sy’n tyfu o hyd o adnoddau ar-lein, gan gynnwys Archif Ddigidol y Times yn ei chyfanrwydd. Ceir manylion yn llawn ar wefan y llyfrgell.

Aberystwyth a'r dre

Sefydlwyd Archif Wleidyddol Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 1983 a cheir yma gofnodion helaeth sy’n ymwneud â phleidiau gwleidyddol Cymru, gan gynnwys cofnodion Cymdeithasau Ceidwadol penodol o ddechrau’r ugeinfed ganrif, a chofnodion y Blaid Lafur o 1937 ymlaen. Mae’r archif fwyaf, sef archif Plaid Cymru, yn dyddio’n ôl i sefydlu’r blaid yn 1925. Yn ogystal â phapurau David Lloyd George a’i gyfoeswyr, mae gan y Llyfrgell Genedlaethol hefyd bapurau llawer mwy o wleidyddion diweddar, gan gynnwys pedwar o bum Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru: James Griffiths, Cledwyn Hughes (Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos), George Thomas (Is-iarll Tonypandy) a John Morris; Clement Davies, Arweinydd y Blaid Ryddfrydol, Yr Arglwydd Elwyn-Jones, Yr Arglwydd Ganghellor 1974-9, Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru 1945-81, a Beata Brookes, ASE Ceidwadol Gogledd Cymru 1979-89, a nifer o ASau’r meinciau cefn a roddodd wasanaeth hir, yn cynnwys Leo Abse, Emlyn Hooson (Yr Arglwydd Hooson), Ted Rowlands a Dafydd Wigley. Ceir hefyd gofnodion o fudiadau megis Cyngor Cenedlaethol Cymru Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig, a fu gynt yn Undeb Cynghrair y Cenhedloedd, 1923-56, a Chymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru, 1928-70au, a chofnodion a phapurau’n ymwneud ag ymgyrchoedd a grwpiau pwyso, er enghraifft, cofnodion a phapurau’r Ymgyrch Senedd i Gymru, 1953-6, cofnodion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a phapurau nifer o grwpiau pwyso radical a chenedlaethol diweddar. Mae Archif Wleidyddol Cymru yn cyhoeddi Newyddlen ddwywaith y flwyddyn.

Ceir manylion pellach am yr holl gasgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar wefan y Llyfrgell, ac yn benodol ar ei safle Drych Digidol a’i safle Trysorau.

 

Mae Aberystwyth hefyd yn lleoliad da ar gyfer cynorthwyo gwaith ymchwil i hanes amrywiaeth eang o gymunedau lleol. Ceir casgliadau helaeth yn y Llyfrgell Genedlaethol o bapurau plwyf, teulu, ystadau a llywodraeth leol o’r cyfnod canoloesol diweddar ymlaen, a’r rheiny’n ymwneud â Chymru a nifer o wledydd eraill ym Mhrydain. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a’r Cofnodion Henebion Cenedlaethol, hefyd wedi’u lleoli yn Aberystwyth. Mae’r sefydliad hwn yn darparu adnoddau ar gyfer ymchwilio i hanes yr amgylchfyd adeiledig o’r cynfyd pell ymlaen, gan gynnwys gwybodaeth a dadansoddi am safleoedd archaeolegol ac ystod eang o adeiladau yng Nghymru ym mhob cyfnod. Mae Swyddfa Gofnodion Ceredigion, a sefydlwyd yn y 1970au, yn gartref i ddeunyddiau helaeth sy’n ymwneud â gweinyddiaeth leol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn arbennig, gan gynnwys Deddf y Tlodion ac addysg, yn ogystal ag archifau sy’n ymwneud â llongau ym mhorthladd Aberystwyth, a mwyngloddio plwm yng Ngheredigion. Ceir mwy o ddeunydd, gan gynnwys amrywiaeth eang o arteffactau yn Amgueddfa Ceredigion, a chyfoeth amrywiol o safleoedd a sefydliadau Treftadaeth yn yr ardal leol y gall myfyrwyr uwchraddedig Hanes, Archifau a Threftadaeth gael deunyddiau enghreifftiol oddi wrthynt a meithrin arbenigedd proffesiynol.