Pam astudio gyda ni?

Mae gan yr Adran enw da ers tro am fod yn lle da i uwchraddedigion astudio, a chynigir yma wasanaeth goruchwylio rhagorol, a chyfleusterau ymchwil na welir mo’u tebyg yn y rhan fwyaf o brifysgolion yn y DU. Rydym yn awyddus i ddenu graddedigion mentrus a dychmygus o bob math o gefndir, ac yn barod bob amser i ystyried cynigion ymchwil neu ymholiadau ynglŷn ag ymchwil yn ofalus. Cliciwch ar y dolenni isod i ganfod mwy am yr hyn sydd gennym i’w gynnig.

Bwrsariaethau

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnig nifer o fwrsariaethau MA, rhwng £500 a £1500 i fyfyrwyr MA. Fel arfer, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus radd israddedig Dosbarth Cyntaf ond heb fedru sicrhau cyllid o ffynonnell arall.


Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth, dylech wneud cais ffurfiol ar gyfer astudiaethau uwchraddedig i’r Adran yn y ffordd arferol, yn cynnwys llythyr yn gofyn am gael eich ystyried. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Gorffennaf. Rhaid i'r ceisiadau ddod i law erbyn mis Gorffennaf. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan y Tiwtor Uwchraddedigion.

Gwybodaeth Bellach

Mae aelodau’r Adran bob amser yn falch i gynorthwyo ag ymholiadau ynglŷn ag astudiaethau uwchraddedig, boed hynny ar gyfer dewis cwrs Meistr drwy gwrs priodol, neu ddiffinio maes sy’n addas ar gyfer ymchwilio drwy radd ymchwil M.Phil neu Ph.D. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y lle cyntaf gan y Tiwtor Uwchraddedigion, a fydd hefyd yn medru trefnu ichi ymweld â’r Adran, ac archwilio’r posibiliadau ymchwil gydag arbenigwyr penodol o blith ein staff.