Dr Steven Thompson

.
BA, PhD(Cymru) Photograph of Dr Steven Thompson.

Cyswllt

Ebost: sdt@aber.ac.uk
Swyddfa: B17
Rhif Ffon: 1737

Proffil

Mae Dr Steven Thompson BA, Ph.D (Cymru) yn hanesydd y cyfnod modern, gyda diddordeb penodol yn hanes Cymru a Phrydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys hanes meddygaeth, darpariaeth lles cymdeithasol, a hanes llafur. Mae ei waith ymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar economi gymysg darpariaeth feddygol a lles cymdeithasol yn ne Cymru rhwng tua 1780 a 1950. Mae ganddo ddiddordeb hefyd yn hanes darpariaeth tai, adfywiad caneuon gwerin, a hanes chwaraeon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gan Steven Thompson ddiddordeb yn hanes Cymru a Phrydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, a diddordeb ymchwil penodol yn hanes iechyd a meddygaeth, darpariaeth lles cymdeithasol, merched a rhywedd, a’r mudiad llafur. Daw’r holl ddiddordebau hyn at ei gilydd yn y prosiect ymchwil enfawr y mae’n gweithio arno ar hyn o bryd. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar economi gymysg y gwasanaethau meddygol a lles cymdeithasol yn ardal ddiwydiannol de Cymru o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Y nod yw gwerthuso darpariaeth yr awdurdodau cyhoeddus, y mudiadau gwirfoddol a dyngarol, y mudiadau hunangymorth a chydymddibynnol, cyflogwyr, a theuluoedd a rhwydweithiau’r gymdogaeth. Mae ganddo ddiddordeb ymchwil hefyd yn adfywiad caneuon gwerin o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif ac mae’n awyddus i gymharu’r adfywiadau Cymraeg a Saesneg. Yn olaf, mae’n datblygu ei waith ymchwil cynharach ar hanes darpariaeth tai drwy wneud gwaith pellach ar gymdeithasau adeiladu a chlybiau, darpariaeth tai gan gyflogwyr, ac ymgyrchoedd y mudiad llafur i wella safonau tai’r dosbarth gweithiol.

Fel ysgrifennydd Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru bu’n gyfrifol, ar y cyd â mudiadau a sefydliadau eraill, am drefnu digwyddiadau, gan gynnwys rhaglen flynyddol y Gymdeithas. Mae’r ysgolion undydd diweddar yn cynnwys Merched a Gwleidyddiaeth yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif (a gynhaliwyd ym Mhontypridd); Adfywio’r Cymoedd: Ymchwil Polisi, Diwygio Cymdeithasol ac Adfywio Cymoedd y De (Blaenafon); Bywyd a Gwaith Menna Gallie (Ystradgynlais); Merthyr Tudful: Y Traddodiad Dinesig (Merthyr Tudful); o Fetropolis Gymreig i Brifddinas Cymru: Caerdydd 1880-2000 (Caerdydd); Trafod Datganoli yng Nghymru (Bangor). Bu’n olygydd y cyfnodolyn Llafur ers 2008. Ceir mwy o wybodaeth am y Gymdeithas, a’r cyfnodolyn, ar www.llafur.org.

Cyhoeddiadau

2009

  • 'Brodyr trwyadl mewn tywydd garw: Welfare provision and the social centrality of the South Wales Miners' Federation', Welsh History Review, 24, 4 (2009), tt.141-67.

2008

  • 'The Bicycling Craze of the 1890s in Wales', Transactions of the Honourable Society of the Cymmrodorion, 2007, 14 (2008), tt.114-26.

2006

  • Unemployment, Poverty and Health in Interwar South Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2006), tt.256.
  • 'Unemployment, Poverty and Women's Health in Interwar South Wales', yn Pam Michael a Charles Webster (goln), Health and Society in Twentieth-Century Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2006), tt.98-122.
  • 'Review article: Class Cohesion, Working-Class Homogeneity and the Labour Movement in Industrial South Wales', Llafur, 9, 3 (2006), tt.81-91.

2005

  • 'Chwiw Feicio Cymru'r 1890au', Cof Cenedl, 20 (2005), tt.133-65.

2004

  • 'Conservative Bloom on Socialism's Compost Heap': Working-Class Home Ownership in South Wales, c.1890-1939', yn R. R. Davies a Geraint H. Jenkins (goln.) From Medieval to Modern Wales: Historical Essays in Honour of Kenneth O. Morgan and Ralph A. Griffiths (Caerdydd, 2004), tt.246-63.

2003

  • 'That beautiful summer of severe austerity': Health, diet and the working-class domestic economy in south Wales in 1926', Welsh History Review, 21, 3 (2003), tt.552-74.
  • 'A Proletarian Public Sphere: Working-class self-provision of medical services and care in South Wales, c.1900-1948', yn A. Borsay (gol.), Medicine in Wales, c.1800-2000: Public Service or Private Commodity? (Caerdydd, 2003), tt.86-107.
  •  'To relieve the sufferings of humanity, irrespective of party, politics or creed: Conflict, consensus and voluntary hospital provision in Edwardian south Wales', Social History of Medicine, 16, 2 (2003), tt.247-62.

2002

  • 'Hospital Provision, Charity and Public Responsibility in Edwardian Pontypridd', Llafur, 8, 3 (2002), tt.53-65.
  • 'Without any distinction of sect, or creed, or politics'?: Charity and hospital provision in nineteenth-century Aberystwyth', Ceredigion, XIV, 2 (2002), tt.38-56.