Amcanion Cynaladwyedd 2024

Mae’n bleser gan y Gwasanaethau Croeso fod yn rhan o ymrwymiad parhaus Prifysgol Aberystwyth i gynaladwyedd yn ei holl weithrediadau. Cyflwynwn y Cynllun Gweithredu Cynaladwyedd hwn fel dogfen waith. Fel gyda phob cynllun o’r fath, yr unig ffordd y gellir ei wireddu yw drwy ymgysylltiad ein staff, cwsmeriaid a chyflenwyr.

Rydym ni’n croesawu mewnbwn i’r cynllun wrth i ni ymdrechu at sicrhau arferion cynaliadwy gwell a bod yn garbon niwtral.

Olew Palmwydd

Amcan cyffredinol: Yn y pen draw rydym ni’n dymuno tynnu pob cynnyrch sy’n cynnwys olew palmwydd anghynaladwy o’r Gwasanaethau Croeso. Rydym yn bwriadu gwneud hyn drwy ymgysylltu â’r cyflenwyr yn ogystal â darparu gwybodaeth i gwsmeriaid ynghylch pa gynhyrchion sy’n cynnwys olew palmwydd. Rydym ni’n cefnogi cynhyrchu olew palmwydd achrededig cynaliadwy (RSPO) mewn modd cynaliadwy sy’n helpu i atal datgoedwigo; cynorthwyo tâl teg i gymunedau a gweithwyr; yn ogystal â diogelu bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

Camau cyflawni:

Cam Gweithredu

Ble i’w roi ar waith

Amcan y camau gweithredu

Dyddiad targed ar gyfer lansio

Rhoi’r system labelu ganlynol ar y cynhyrchion sy'n cynnwys olew palmwydd: Gwyrdd (dim); Melyn (olew palmwydd, ond yn RSPO); Coch (heb ei achredu)

Pob safle 

Ein nod yw rhoi'r wybodaeth berthnasol i gwsmeriaid fel y gallant hwy benderfynu prynu'r cynnyrch hwnnw ai peidio. 

ar waith / parhaus  

Neilltuo adnoddau er mwyn cael gwybod am yr olew palmwydd a ddefnyddiwyd yn y cynhyrchion a brynir, trwy gyfrwng y llwyfan prynu a thrwy drafod â’r cyflenwyr

Tîm gweinyddol Penbryn

Sicrhau bod gwybodaeth am y cynnyrch yn cael ei chasglu a'i gwirio. Cysylltu â’r cyflenwyr i roi gwybod am gynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio ac sydd felly'n debygol o gael eu tynnu o’n rhestr.

parhaus   

Adolygiad o'r holl gynhyrchion sy'n cynnwys olew palmwydd nad yw’n RSPO, gyda dewisiadau amgen os oes modd.

Tîm gweinyddol Penbryn

Darparu gwybodaeth am y cynnyrch a fydd yn cael ei ddisodli gan ddewisiadau amgen 

ar waith / parhaus 

Adolygu’r polisi Olew Palmwydd 

Pob safle 

Sicrhau bod y polisi’n gweithio ac angen adolygu pellach

Awst 2024

 

https://rspo.org/why-sustainable-palm-oil/?gclid=Cj0KCQiA8t2eBhDeARIsAAVEga3pVSVu_S_PnMwkwaA0wwkK7gCN7xOypNNi3pShLmi1VWQ6w2w6t-QaAubjEALw_wcB

Lleihau Gwastraff Bwyd

Amcan cyffredinol: Osgoi unrhyw fwyd a gaiff ei brynu ond na chaiff ei fwyta er mwyn lleihau ôl troed carbon a chynyddu arferion cynaliadwy gan gwsmeriaid a staff. Caiff hyn ei wneud drwy leihau gwastraff ar blatiau (bwyd a brynir ond na chaiff ei fwyta yn yr allfeydd), lleihau faint o fwyd sydd wedi dyddio, yn ogystal â lleihau gwastraff wrth gynhyrchu bwyd. Yna caiff yr holl wastraff a gynhyrchir ei roi mewn biniau ailgylchu bwyd yn yr holl allfeydd.

Camau cyflawni.

Cam Gweithredu

Ble i’w roi ar waith

Amcan y camau gweithredu

Dyddiad targed ar gyfer lansio

Parhau â’r gostyngiad pris i unrhyw fwyd sy’n nesáu at y dyddiad gwerthu, gyda sticeri “pan fydd wedi mynd, mae wedi mynd”

Pob safle  

Gwerthu bwyd na fydd yn para’n hir am bris y gost neu’n is er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei fwyta yn hytrach na'i daflu i ffwrdd

Parhaus

Llunio bwydlenni a fydd yn hwyluso cynigion arbennig byrdymor am fwyd a baratowyd yn y ceginau, megis prif saig am £4.00

Neuadd fwyd, Blas Gogerddan 

Er mwyn i ni allu gwerthu bwyd os gwnaed gormod ohono, yn gyflym am bris y gost i fyfyrwyr.

Parhaus 

Mesur faint o wastraff bwyd a daflwyd yn ôl y maint sydd yn y biniau bwyd drwy gynnal gwiriad bob wythnos cyn iddo gael ei gasglu.

Neuadd Fwyd, Undeb y Myfyrwyr

Monitro ein gwastraff bwyd a, thrwy hynny, helpu i fonitro llwyddiant y camau uchod

parhaus - adolygiad Awst 2024

Rheoli faint o fwyd poeth a wneir i'w weini wrth y cownteri poeth tua diwedd amseroedd gwasanaeth, o 15 munud cyn cau’r cownter. Felly, os bydd pryd bwyd penodol wedi’i werthu i gyd, ni ddylid paratoi mwy ohono.

Neuadd Fwyd, Blas Gogerddan 

Lleihau’r maint o fwyd sydd wedi’i goginio ac na ellir ei ailddefnyddio ac sydd felly’n gorfod cael ei daflu.

Parhaus

https://www.lovefoodhatewaste.com/take-action-save-food/our-planet-your-food?gclid=Cj0KCQiA8t2eBhDeARIsAAVEga1lzCPC5arUHVzL9YEROuFHeu8M5hruklw7x67EyIEBegRTtGpBBPcaAjsWEALw_wcB

 

Lleihau defnydd o eitemau tafladwy ar y campws

Amcan cyffredinol: - Yn ein diwylliant o gydio mewn bwyd a mynd, mae galw parhaus am rywfaint o ddefnydd o gynhyrchion tafladwy. Fodd bynnag byddwn yn gyntaf yn ceisio sicrhau bod popeth tafladwy naill ai’n ailgylchadwy neu’n fioddiraddadwy. Yna byddwn yn ceisio lleihau faint o eitemau tafladwy a ddefnyddir ac annog arferion sy’n atgyfnerthu hyn. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod mwy o ddeunydd yn cael ei ailgylchu lle bo’n bosibl.

Camau cyflawni.

Cam Gweithredu

Ble i’w roi ar waith

Amcan y camau gweithredu

Dyddiad targed ar gyfer lansio

Cyflwyno ffi 25c ar gwpanau untro, gan werthu cwpanau cadw am bris y gost 

Pob safle  

Er mwyn lleihau'r maint o gwpanau untro a ddefnyddir ar y campws, sef yr eitem anoddaf i'w hailgylchu.

parhaus - adolygiad Awst 24 

Dod o hyd i gyflwynwyr poteli dŵr amldro cost-effeithiol fel y gellir gwahardd poteli dŵr plastig ar y Campws

Neuadd Fwyd, cynadledda

Ceisio dod o hyd i botel amldro sy’n rhatach na chost potel ddŵr untro

Ebrill 2024 

Gweini’r holl fwyd a diod a ddarperir yn fewnol ar lestri tsieini a gwydr y gellir eu hailddefnyddio

Neuadd Fwyd, Pantycelyn, CAFFIbach

Er mwyn sicrhau mai dim ond ar gyfer bwyd a diod i’w cymryd allan y defnyddir deunydd untro

ar waith / parhaus

Hybu Diwrnod Di-blastig ar draws y campws

Pob safle 

Annog mwy o drafod ar ddefnyddio llai o blastig untro.

Ebrill 2024

Monitro maint y ffrydiau gwastraff tirlenwi ac ailgylchu, a chadw cofnod ohonynt. Yn ogystal ag adolygu’r gwastraff i gyd, yn unol â’r rheoliadau newydd

Pob safle 

Er mwyn i ni allu monitro’r gostyngiad mewn sbwriel tirlenwi

Mai 2024

Cyflwyno sgôr negyddol am becynnu plastig wrth ymdrin â thendrau cyflenwyr ar gyfer y Gwasanaethau Croeso

Prynu canolog

Annog deunyddiau y gellir eu hailgylchu ar gyfer pecynnu ac wrth anfon nwyddau.

Parhaus

Prynu cwpanau amldro i’w defnyddio mewn cynadleddau yn lle’r cwpanau untro a ddefnyddir ar hyn o bryd, a rhoi trefn ar waith ar gyfer eu dosbarthu a’u casglu

Y tîm cynadledda

Atal defnyddio unrhyw gwpanau untro wrth gynnal cynadleddau.

Uchelgais

Gweini poteli dŵr ail-lenwi yn unig yn Ystafelloedd Medrus

Y tîm cynadledda

Lleihau'r plastig a ddefnyddir yn ddiangen

Parhaus

 

https://wrapcymru.org.uk/

Y Daith at Garbon Sero Net

Amcan cyffredinol: - Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i gyflawni targed di-garbon erbyn y flwyddyn 2030-31.  Bydd y Gwasanaethau Croeso yn monitro ac yn adolygu ei arferion i leihau ein hallyriadau o fewn cwmpas 1, 2 a 3 ein gweithrediadau.

Cwmpas 1 yw ffynonellau allyriadau uniongyrchol yn deillio o beiriannau, cyfleusterau a cherbydau’n eiddo i’r cwmni. Cwmpas 2 yw ffynonellau allyriadau anuniongyrchol yn gysylltiedig â chynhyrchu trydan, gwres, stêm a/neu oeri. Cwmpas 3 yw allyriadau anuniongyrchol yn deillio o bob gweithgarwch a ffynhonnell arall nad ydynt o fewn Cwmpas 2; gan gynnwys teithio busnes, cymudo, gwastraff a danfoniadau trydydd parti.

Camau cyflawni.

Gweithredu

Ble i’w roi ar waith

Amcan y camau gweithredu

Dyddiad targed ar gyfer lansio

Hoffem roi arwyddion carbon ar fwydlenni i helpu i lywio ymddygiad y cwsmeriaid 

Pob safle 

Er mwyn galluogi ein cwsmeriaid i wneud penderfyniadau am brynu ar sail gwybodaeth gadarn.

Uchelgais

Ei gwneud yn ofynnol i’r holl gyflenwyr ymrwymo i gyrraedd sefyllfa garbon sero yn eu gweithrediadau trwy'r broses dendro

Prynu canolog

Helpu i leihau'r carbon o gwmpas 3

Parhaus

Lleihau'r ynni a ddefnyddir mewn oergelloedd drwy ddefnyddio socedi Bluetooth sy’n galluogi diffodd oergelloedd gyda’r nos nad ydynt yn hanfodol ar gyfer bwyd

Pob safle 

Lleihau'r carbon a’r trydan a ddefnyddir yn ddiangen.

Gorffennaf 2024

Gwirio bod seliau’r oergelloedd yn iawn, er mwyn lleihau'r ynni a ddefnyddir a gwella effeithlonrwydd

Pob safle 

Lleihau'r ynni a ddefnyddir

Gorffennaf 2024 a phob blwyddyn 

Defnyddio cerbydau trydanol yn unig fel adran

Gwasanaethau Croeso

2 fan trydan newydd wedi'u prynu

Parhaus

Tynnwch yr holl offer nwy sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes

Pob safle 

Lleihau’r carbon a gynhyrchir yn ystod y gwaith paratoi bwyd

Parhaus

Adolygu’r offer cegin a sut y’u defnyddir, drwy fonitro eu perfformiad ynni. Arwain adolygiad ar y dulliau cynhyrchu a chylchred oes yr offer

Pob safle 

Lleihau'r ynni a ddefnyddir

Parhaus

Galluogi darllen faint o ynni a ddefnyddir ym mhob safle arlwyo yn unigol

Pob safle 

Ei gwneud hi’n bosib i staff fonitro faint o ynni a ddefnyddir a sicrhau arbedion

Parhaus

 

https://www.gov.wales/net-zero-wales

Arferion a phwrcasu moesegol

Amcan cyffredinol: - Mae’r Gwasanaethau Croeso yn mesur perfformiad yn defnyddio’r dull triphlyg pobl, elw a phlaned. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau pwrcasu moesegol drwy geisio sicrhau ein bod yn dilyn 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Drwy ofyn am ymddygiad moesegol a chynaliadwy gan ein cyflenwyr ein gobaith yw y gallwn annog a dathlu ymddygiad sydd o fudd i bawb.

Camau cyflawni.

Cam Gweithredu

Ble i’w roi ar waith

Amcan y camau gweithredu

Dyddiad targed ar gyfer lansio

Ei gwneud yn ofynnol i bob cyflenwr ymrwymo i dalu'r cyflog byw

Prynu Canolog

Hybu cyflog teg i'r holl weithwyr ac isgontractwyr

Parhaus

Bydd yr holl gyflenwyr bwyd yn cael eu defnyddio drwy fframwaith TUCO neu DEFRA neu, lle cânt eu penodi'n uniongyrchol, bydd hynny drwy dendr cystadleuol drwy GwerthwchiGymru gan ddefnyddio cylch gorchwyl fframwaith TUCO

Prynu Canolog

I sicrhau safonau cyson sy'n ofynnol i gyflenwyr er mwyn sicrhau arferion da o ran cynaliadwyedd a chyrchu mewn ffordd foesegol.

Parhaus

Sicrhau bod pob cwmni sy'n cyflenwi’r Gwasanaethau Croeso wedi ymrwymo i gydymffurfio â 17 Nod Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig

Prynu Canolog

Hyrwyddo arferion da ymhlith ein cyflenwyr

Parhaus

Gosod polisi prynu lle y prynir yn lleol, yng Nghymru ac wedyn ym Mhrydain, lle bo modd gwneud hynny o fewn gweithdrefnau ariannol y Brifysgol

Prynu Canolog

Er mwyn inni allu prynu cynnyrch mor lleol â phosib

Parhaus

Gofynnwch i'n prif gyflenwyr ddarparu meini prawf mesur blynyddol ar gyfer eu harferion cynaliadwy er mwyn sicrhau gwelliant parhaus

Prynu Canolog

Annog gwelliant parhaus ymhlith ein cyflenwyr o ran gwneud cynnydd tuag at gynaliadwyedd a sefyllfa sero-net

Parhaus

Sicrhau bod yr holl gyflenwyr wedi ymrwymo i gydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 fel amod o gael masnachu â'r Gwasanaethau Croeso

Prynu Canolog

Drwy gyfrwng holiadur blynyddol i bob cyflenwr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth

Parhaus

Gweithio tuag at fabwysiadu 'Bwydlenni dros Newid' wrth brynu ein bwyd i gyd, ac wrth ei baratoi a’i weini

Pob safle 

I'w ddefnyddio yn ganllaw ar gyfer paratoi ein bwyd ar gyfer pob un o'n mannau i'n helpu i wella ein cynaliadwyedd

Parhaus 

Ymuno â'r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy

Gwasanaethau Croeso

Cael sgôr annibynnol ar gynaliadwyedd yr adran er mwyn cael adolygiad blynyddol

24 Ionawr ac yn barhaus 

Cyflwyno ‘Bwyd ar gyfer Bywyd’ i'n bwydlenni

Gwasanaethau Croeso

Hyrwyddo’r ein cynnyrch o ran yr agweddau moesegol a lles anifeiliaid

24 Ionawr ac yn barhaus 

 

https://www.tuco.ac.uk/procurement/sustainability/menus-of-change