E-lawlyfr 2 - Cysyniadau Gwleidyddol Allweddol

Mae E-lawlyfr 2 yn cynnwys 8 adnodd astudio unigol sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 3 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol.’ Mae tair elfen i bob adnodd:

  • Cyflwyniad a gwybodaeth graidd
  • Llawlyfr gwaith
  • Canllaw i athrawon

Ceir hefyd pedwar o glipiau fideo byr sy'n trafod pynciau sy'n berthnasol i gynnwys yr e-lawlyfr. Mae rhain i'w gweld ar waelod y dudalen hon.

Rhyddfrydiaeth: nodweddion allweddol

Rhyddfrydiaeth: nodweddion allweddol

Cyflwyniad i ystod o’r elfennau hynny sydd wedi dod i hawlio lle canolog yn y byd-olwg Rhyddfrydol, gan gynnwys unigolyddiaeth, rhyddid, rheswm, cydraddoldeb, goddefgarwch, cydsyniad a chyfansoddiadaeth

 

 

Rhyddfrydiaeth: ffrydiau amrywiol

Ceidwadaeth: nodweddion allweddol

Ceidwadaeth: nodweddion allweddol

Cyflwyniad cyffredinol i rai o'r elfennau sydd wedi dod i hawlio lle canolog yn y byd-olwg Ceidwadol, megis traddodiad, pragmatiaeth, amherffeithrwydd dynol, cymdeithas organig, hierarchaeth, awdurdod ac eiddo.

Ceidwadaeth: ffrydiau amrywiol

Ceidwadaeth: ffrydiau amrywiol

Cyflwyniad cyffredinol i dair ffrwd Geidwadol allweddol: Ceidwadaeth Awdurdodaidd, Ceidwadaeth Draddodiadol a'r Dde Newydd.

 

Sosialaeth: cysyniadau allweddol

Sosialaeth: cysyniadau allweddol

Cyflwyniad cyffredinol i amryw o elfennau sydd wedi dod i hawlio lle canolog yn y byd-olwg Sosialaidd, er enghraifft cymuned, cydweithrediad, cydraddoldeb cymdeithasol, dosbarth a pherchnogaeth gyffredin.

Sosialaeth: ffrydiau amrywiol

Sosialaeth: ffrydiau amrywiol

Cyflwyniad cyffredinol i ddwy ffrwd Sosialaidd allweddol: Marcsiaeth a Democratiaeth Gymdeithasol.

Cenedlaetholdeb: cysyniadau allweddol

Cenedlaetholdeb: cysyniadau allweddol

Cyflwyniad cyffredinol i amryw o’r elfennau hynny sydd wedi dod i hawlio lle canolog yn y byd-olwg Cenedlaetholgar, gan gynnwys y genedl, y syniad o gymuned organig, sofraniaeth genedlaethol a hunanbenderfyniaeth cenedlaethol.

Cenedlaetholdeb: ffrydiau amrywiol

Cenedlaetholdeb: ffrydiau amrywiol

Cyflwyniad gyffredinol i rai o'r prif ffurfiau ar genedlaetholdeb, gan gynnwys Cenedlaetholdeb Ethnig, cenedlaetholdeb Sifig, Cenedlaetholdeb Rhyddfrydol a Chenedlaetholdeb Ceidwadol.