Cynllun Lleoliadau Seneddol / Tŷ'r Cyffredin

Beth yw'r cynllun hwn?

Dyma gyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o fywyd gwleidyddol trwy roi cymorth i gynrychiolwyr gwleidyddol yn Nhŷ’r Cyffredin neu Senedd Cymru. 

Bydd myfyrwyr yn gweithio yn swyddfa Aelod Seneddol neu Aelod Senedd am 4-6 wythnos yn ystod gwyliau’r haf (wedi’r arholiadau a chyn gwyliau haf yr Aelodau). 

Fel arfer, mae’r gwaith yn cynnwys ysgrifennu datganiadau i’r wasg, gwaith ymchwil a delio â materion etholaethol. Gall hefyd gynnwys mynychu digwyddiadau (rhai yn nodedig iawn!), neu fod yn rhan o ymgyrch etholiadol. 

Pwy all fod yn rhan o’r cynllun hwn?

Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr yr ail flwyddyn yn unig. Mae’r cynllun yn digwydd ar ddiwedd yr ail flwyddyn. 

Lleoedd cyfyngedig sydd ar gael felly rhaid mynychu cyfweliad er mwn cael eich dewis ar gyfer y cynllun. 

Rydym yn dewis myfyrwyr sydd wedi dangos eu bod yn frwdfrydig ynglŷn ag astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol, rhai sy’n gallu gweithio’n galed a'n ddiwyd o dan bwysau, a chanddynt sgiliau rhyngbersonol da ac yn gallu addasu’n gyflym i amgylchedd gwahanol. 

Proffiliau Myfyrwyr

Mae’r llyfryn hwn (Llawlyfr Lleoliadau Seneddol 2023-24) yn ddathliad o’r Cynllun Lleoliadau Seneddol, a gellir darllen am brofiadau nifer o fyfyrwyr fu’n rhan o’r cynllun dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yma. Mae’r proffiliau yn y llyfr yn dangos brwdfrydedd y myfyrwyr ynglŷn â’u lleoliadau, ehangder y profiadau a gynigiwyd, a’r modd y bu i bob myfyriwr elwa o’i brofiad ar y Cynllun Lleoliadau Seneddol. 

Cynllun Lleoliadau Seneddol

Sut i ymgeisio

Dylai’r ffurflen hon (Ffurflen Lleoliad Seneddol 2024) gael ei llenwi a’i chyflwyno gyda gweddill y cais, ynghyd â CV, ac eglurhad tudalen o hyd yn nodi pam mae arnoch eisiau mynd ar y cynllun, a hynny ar e-bost i Catrin Edwards (cwe6@aber.ac.uk) a Ceuron Bryn Tecwyn (cet18@aber.ac.uk) erbyn 15 Chwefror 2024 erbyn 16.00. Os byddwch yn cael eich dewis i fynd ar leoliad, bydd y CV a’r datganiad personol yn cael eu hanfon at ASau a allai gynnig lleoliad ichi. Mae’r ffurflen gais yma yn cael ei defnyddio at ddibenion yr adran yn unig. Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwybod ar e-bost erbyn 25 Chwefror 2024 a ydynt ar y rhestr fer ai peidio. Y dyddiad dros dro ar gyfer cynnal cyfweliadau yw’r wythnos sy’n cychwyn ar 4 Mawrth 2024.