Newyddion a Digwyddiadau
Digwyddiadau
Newyddion
Llogi Ystafelloedd Cyfrifiadurol GG
10/02/2012
Os hoffech archebu un o Ystafelloedd Cyfrifiadurol Gwasanaethau Gwybodaeth os gwelwch yn dda wnewch gais trwy ddefnyddio’r ffurflen archebu arlein ar:http://www.aber.ac.uk/cy/is/computers/booking/
Gwaith cynnal a chadw hanfodol i weinydd Exchange ebost aelodau staff
06/02/2012
Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw hanfodol i weinydd ebost Exchange aelodau staff yn cychwyn ar ddydd Llun, Chwefror 13.
Bydd hyn yn effeithio ar gyfrifon grŵp gwahanol o ddefnyddwyr pob diwrnod, ar sail llythyren gyntaf yr enw defnyddiwr. Ni fydd modd i ddefnyddwyr gael mynediad i'w blwch post Exchange, calendrau na thasgau tra bo hyn yn digwydd.
Er bod Gwasanaethau Gwybodaeth yn anelu i gwblhau'r gwaith cyn gynted ag y bo modd, mae'n bosib na fydd modd ichi gael mynediad i'ch blwch post am y diwrnod cyfan.
Mae'r amserlen fel a ganlyn
Llun 13 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda R
Mawrth 14 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda A
Merch 15 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda E
Iau 16 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda I
Gwe 17 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda M
Llun 20 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda S
Mawrth 21 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda B
Merch 22 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda F
Iau 23 Chwef: Nid oes yna waith cynnal a chadw ar y gweill
Gwe 24 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda N
Llun 27 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda T
Mawrth 28 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda C
Merch 29 Chwef: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda G
Iau 1 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda K
Gwe 2 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda O
Llun 5 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda U
Mawrth 6 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda D
Merch 7 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda H
Iau 8 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda L
Gwe 9 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda P
Llun 12 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda Q
Mawrth 13 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda V
Merch 14 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda W
Iau 15 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda X
Gwe 16 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda Y
Llun 19 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda Z
Mawrth 20 Mawrth: Ffolderi cyhoeddus
Iau 22 Mawrth: Enwau defnyddwyr yn cychwyn gyda J
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achosir i ddefnyddwyr gan hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, croeso ichi gysylltu â ni:
E-bost: gg@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 62 2400
Cyfarwyddwr Newydd i Wasanaethau Gwybodaeth
03/02/2012
O Ionawr 2012 Roger Matthews yw Cyfarwyddwr newydd Gwasanaethau Gwybodaeth. Astudiodd Roger Fotaneg a Microbioleg yng Ngholeg Royal Holloway, Llundain, ond darganfu ei yrfa mewn cyfrifiadureg yn ystod ei drydedd flwyddyn. Ar ôl graddio, gweithiodd ym myd modelu cyfrifiadurol mewn tyfiant coedwigoedd ym Mhrifysgol Bangor. Ar 1 Mawrth 1974 fe’i penodwyd i redeg y Gwasanaeth Cynghori Rhaglenni yn PC Aberystwyth. Yn haf 1979 dechreuodd ddatblygu graffeg cyfrifiadurol ac yn 1984 sefydlodd y gwasanaeth microgyfrifiadur i gynnal ac i adeiladu cyfrifiaduron yn Aberystwyth ar gyfer y Brifysgol. Bu’n bennaeth ar y gwasanaeth nes uno’r Llyfrgell, yr Uned Gyfrifiadur a’r Uned Glyweled yn 1995. Fe’i penodwyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth yn 1996. Ers hynny bu ynghlwm wrth ddarparu gwasanaeth sy’n sgorio’n uchel iawn yn arolwg boddhad myfyrwyr. Mae’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o’r radd uchaf i fyfyrwyr, staff dysgu ac ymchwilwyr drwy gyfuno’r gorau o lyfrgellyddiaeth draddodiadol â manteision modern TCG a'r technegau diweddaraf.Defnyddio technoleg i wella profiad dysgu ac addysgu eich myfyrwyr
30/01/2012
Cychwynnwch y flwyddyn newydd trwy fynychu cwrs mewn addysgu trwy gyfrwng technoleg. Mae cyrsiau ar gyfer semester 2 yn cynnwys:
Easy Digital Video for Teaching
7 Chwefror 2.10pm-4pm
Blogs and Wikis for Active Learning
24 Chwefror 10.10am-12.30pm
Social Bookmarking for Teaching, Learning, and Research
5 Mawrth 12.10pm- 1pm
Avoiding Death by PowerPoint: Visual Design and Student Interaction
19 Mawrth 2.10pm-4.30pm
Blended Learning: Free Up Class Time for Student Interaction
12 Ebrill 1.10pm—2pm
Podcasting for Learning Extended Beyond Lectures
3 Mai 10.10am-12pm
Archebwch le trwy gysylltu â GDSYA https://stafftraining.bis.aber.ac.uk/sd/list_courses.php
I wneud cais am hyfforddiant ar gyfer AberLearn Blackboard sydd wedi ei deilwra’n arbennig neu unrhyw agwedd arall o addysgu trwy gyfrwng technoleg, os gwelwch yn dda cysylltwch â Chymorth e-ddysgu ar is-alto@aber.ac.uk
Gweithio’n gallach: Sgiliau Astudio ar gyfer myfyrwyr. Cofrestrwch yn awr!
25/01/2012
Mae’r Rhaglen Ymarferion Astudio Israddedig yn cynnig cyflwyniadau ar ysgrifennu, cyfathrebu a sgiliau gwybodaeth.
- Gweler y rhaglen lawn
- Cofrestrwch ar y modiwl
Cychwynnwch y flwyddyn newydd trwy fynychu cwrs mewn addysgu trwy gyfrwng technoleg.
09/01/2012
Defnyddio technoleg i wella profiad dysgu ac addysgu eich myfyrwyrCychwynnwch y flwyddyn newydd trwy fynychu cwrs mewn addysgu trwy gyfrwng technoleg. Mae cyrsiau ar gyfer semester 2 yn cynnwys:
E-Assessment: Effective Questions, Formative Feedback
12 Ionawr 9.30am-12.30pm
Easy Digital Video for Teaching
7 Chwefror 2.10pm-4pm
Archebwch le trwy gysylltu â GDSYA https://stafftraining.bis.aber.ac.uk/sd/list_courses.php
I wneud cais am hyfforddiant ar gyfer AberLearn Blackboard sydd wedi ei deilwra’n arbennig neu unrhyw agwedd arall o addysgu trwy gyfrwng technoleg, os gwelwch yn dda cysylltwch â Chymorth e-ddysgu aris-alto@aber.ac.uk
Manylion Cyswllt
Gwasanaethau GwybodaethPrifysgol Aberystwyth
Llyfrgell Hugh Owen
Penglais
Aberystwyth
SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ffacs: 01970 62 2404 Ebost: gg@aber.ac.uk