Lefel E ar ei newydd wedd

Yr haf hwn, bydd newidiadau ar Lefel E (ail lawr) Llyfrgell Hugh Owen.

Byddwn yn symud rhai mannau i staff a myfyrwyr o gwmpas i greu gofod mwy i fyfyrwyr ac i greu rhagor o fannau astudio yng nghornel de-orllewinol y Llyfrgell. Bydd gan yr ardal astudio newydd olygfeydd dros y dref i’r môr ac yn cynnwys 6 ystafell astudio grŵp newydd.

  • Lefel E gyda’r ardal a fydd yn ehangu yn y cylch coch. Ni fydd yr ardal hon ar gael i’w defnyddio o’r 7 Mehefin

 

Cau Ystafell Gyfrifiaduron EL6

Fel rhan o'r newid, bydd rhai staff GG yn symud i’r ystafell gyfrifiaduron EL6 ar Lefel E a bydd yr ystafell hon yn troi’n swyddfa staff yn barhaol. Felly byddwn yn cau’r ystafell ar 20 Mai er mwyn i unrhyw waith swnllyd ddechrau pan ddaw'r tymor i ben.

  • Ystafell EL6 Lefel E wedi’i dynodi gan y groes goch. Bydd yr ystafell yn cau ar 20 Mai.

Bydd Lefel E ar ei newydd wedd yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2024.

Ffeindiwch eich ffordd o gwmpas Llyfrgell Hugh Owen gyda Map Llawr y Llyfrgell arlein