Ystyried astudio am radd meistr neu ddoethuriaeth?

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

27 Tachwedd 2006

Dydd Llun 27 Tachwedd 2006
Ystyried astudio am radd meistr neu ddoethuriaeth?
Ffair Astudiaethau Uwchraddedig Aberystwyth: Dydd Mercher 29ain Tachwedd 2006
Bydd Prifysgol Cymru Aberystwyth (PCA) yn cynnal ei seithfed Ffair Astudiaethau Uwchraddedig ar ddydd Mercher, 29ain Tachwedd 2006. Gwahoddir unrhywun sydd â diddordeb i fynychu'r Ffair.  Mae'r Ffair bellach wedi ei sefydlu fel digwyddiad blynyddol yn y Brifysgol.

Cynhelir y Ffair yn Ystafell Fwyta Uwch yn Neuadd Penbryn ar Gampws Penglais y Brifysgol ac fe fydd ar agor o 11.00 y.b. tan 3.00 y.h..

Pwrpas cynnal Ffair Astudiaethau Uwchraddedig blynyddol yw rhoi'r cyfle, nid yn unig i fyfyrwyr presennol ond hefyd i bobl o’r gymuned leol, i holi ynglŷn â'n cyrsiau uwchraddedig.  Cewch gyfle i gwrdd â staff academaidd i drafod y gwahannol agweddau o astudiaethau uwchraddedig yn Aberystwyth.  Gellir hefyd trafod y broses dderbyn a derbyn cyngor ar faterion ariannol oddi wrth staff o’r Swyddfa Derbyn Graddedigion.  Mae’n angenrheidiol fod darpar fyfyrwyr uwchraddedig yn derbyn cyngor ar y materion hyn yn gynnar yn y broses er mwyn manteisio ar y cyfleoedd cyllido sydd ar gael.

Yn ôl Dr. Rhys Williams, Swyddog Derbyn Graddedigion yn PCA, “Yn ôl holiaduron a dderbynwyd yn dilyn ffeiriau blaenorol, nododd canrannau uchel iawn o’r atebwyr y bu eu hymweliad yn fuddiol. ‘Rydym yn falch ein bod yn gallu rhoi’r cyfle hwn i ddarpar uwchraddedigion gwrdd â staff o fwy nag un adran mewn un lle ac felly ymchwilio’r holl bosibiliadau sydd ar gael iddynt yn Aberystwyth. Mae hyn yn cynnwys cyllid, sy’n bwnc pwysig i fyfyrwyr.”

“Mae yna nifer o gyrsiau a chyfleoedd ymchwil gennym yn Aberystwyth ar gyfer myfyrwyr sydd esiau astudio ymhellach. Os ydych erioed wedi ystyried astudio ar lefel uwchraddedig, yna byddwch yn elwa o fanychu’r Ffair Astudiaethau Uwchraddedig.  Cymerwch y cyfle hwn i ganfod mwy.”

Yn ogystal â nifer o ffynonellau cyllid allanol, yn enwedig o Gynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig, gwobreir nifer o Ysgoloriaethau Ymchwil bob blwyddyn gan y Brifysgol.  Mae nifer o’n adrannau academaidd hefyd yn cynnig grantiau i fyfyrwyr Meistr. Mae myfyrwyr uwchraddedig Aberystwyth hefyd yn elwa o Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig eu hunain ac adnoddau ymchwil gwych gan gynnwys mynediad yn rhad ac am ddim i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dylai darpar fyfyrwyr uwchraddedig gysylltu â Dr. Rhys Williams yn y Swyddfa Derbyn Graddedigion.  Ffôn: 01970 622270  Ffacs: 01970 622921  E-bost: rlw@aber.ac.uk neu ymwelwch â www.aber.ac.uk am ragor o fanylion.