Llwyddiant ar University Challenge

Tim University Challenge Aberystwyth

Tim University Challenge Aberystwyth

06 Hydref 2006

Dydd Gwener, Hydref 6 2006
Llwyddiant ar University Challenge
Mae tîm ‘University Challenge' Aberystwyth trwyddo i ail rownd y gystadleuaeth eleni ar ôl curo Bryste yn y rownd gyntaf.

Bydd Adam McCartney, 3edd flwyddyn Astudiaethau Ffilm a Theledu; Heather Charlton, 2il flwyddyn Geneteg; Damon Hammond, 3edd flwyddyn Saesneg; Josephine Nevill (capten), 3edd flwyddyn Hanes a Gwleidyddiaeth a Rae Wright, 2il flwyddyn y Gyfraith; yn gwynebu Coleg Merton, Rhydychen yn y rownd nesaf ar ôl eu buddugoliaeth o 205 i 195 yn erbyn Bryste.

Dywedodd aelod o'r tîm, Damon Hammond, fod y profiad yn un “anhygoel”.

“Er mwyn penderfynnu ar dîm ar gyfer y rhan o’r gystadleuaeth sy’n cael ei darlledu ar y teledu, trefnodd Undeb Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth ryw fath o gwis tafarn mawr ym ‘Mar 9’ ar y campws ac yna rhoddwyd aelodau cryfaf pob tîm mewn i ddau dîm o’r goreuon,” meddai.

“Wedyn, cymrodd y bobl hynny ran ym mhrawf unigolion Granada TV. Ar ôl hynny, aeth saith ohonom fyny i Brifysgol Birmingham i gymryd rhan yn y cwis oedd yn penderfynnu’r rhestr fer.  Yn amlwg naethon ni’n well na oedden ni’n disgwyl achos cafom ein dewis ar gyfer y teledu.

“Roedd y profiad i mi yn un hynod swreal: Roedden ni yno ar y diwrnod pan gurodd Lloegr Ecuador, gyda Manceinion yn llawn cefnogwyr a dathlu mawr. 

“Roedd Granada TV yn un labyrinth o goridorau ac ystafelloedd y 1960au.  Roedd cael colur, yna cerdded mewn i’r stiwdio i gwrdd â ‘Paxo’ (sydd, er gwaethaf ei fod yn cael ei bortreadu fel rhywun i’w ofni, yn berson hamddenol a bonheddig iawn) yn brofiad mor afreal fel nad oedden ni’n nerfus o gwbl. 

“Roedd y profad o ennill yn un gwych i ni, gan bod ein disgwyliadau yn weddol isel.  Arhosom yn Manceinion y noson honno, gyda’r criw teledu yn talu am westy i ni, ac aethom mas i ddinas y ‘24 hour party people’ yn y nos. Oll yn oll, profiad anhygoel.”

Darlledwyd y rhaglen gyntaf o University Challenge yn 1962, ac mae’n gystadleuaeth gyda 28 tîm i ddechrau, a’r rhai sy’n colli yn cael eu taflu allan o’r twrnament.  Pedwar cystadleuydd sydd ymhob tîm.

Disgwylir i Aberystwyth yn erbyn Coleg Merton, Rhydychen gael ei ddarlledu ar y teledu yn y dyfodol agos.