Dechrau'r gwaith adeiladu ar y Ganolfan Ddelweddu £10.4m

Chwith i'r Dde Mr Richard Bailey o HBG Construction Limited, Yr Athro Noel Lloyd a Mr David Neill Cyfarwyddwr Rhaglen See3D yn nodi dechrau'r gwaith adeiladu

Chwith i'r Dde Mr Richard Bailey o HBG Construction Limited, Yr Athro Noel Lloyd a Mr David Neill Cyfarwyddwr Rhaglen See3D yn nodi dechrau'r gwaith adeiladu

19 Medi 2006

Dechrau'r gwaith adeiladu ar y Ganolfan Ddelweddu £10.4m
Mae'r gwaith adeiladu ar y Ganolfan Ddelweddu newydd £10.4m ar gampws Penglais wedi dechrau wrth i’r contractwyr, HBG Consturction Ltd – Western, gwblhau’r gwaith o glirio’r safle a thorri’r seiliau.

Nodwyd dechrau’r gwaith gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Noel Lloyd, Mr Richard Bailey, Cyfarwyddwr Rhanbarthol HBG Construction Limited, a Mr David Neill, Cyfarwyddwr y rhaglen, ar safle’r adeilad newydd yn ddiweddar. Mae’r prosiect wedi derbyn £6m gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnwys £4.4miliwn o raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Yr Athro Lloyd:
“Bydd y ganolfan hon yn darparu amgylchedd ddelweddu rithwir o safon byd-eang a gyda’r gorau ym Mhrydain, gyda’r gallu i ddatrys problemau cymhleth a gwella proffidolrwydd y sector fusnes yng Nghymru.”

Dywedodd Andrew Davies, Gweinidog Menter, Dyfeisgarwch a Rhwydweithio, ei fod yn falch i weld y gwaith yn cychwyn ar brosiect mor bwysig. “Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn falch iawn i gefnogi sefydlu y Ganolfan Ddelweddu, a fydd, ynghyd â’r Technium CAST ym Mangor, yn sefydlu Cymru ar y blaen yn y sector ddelweddu byd-eang.”

See3D
Adnabyddir y Ganolfan Ddelweddu fel See3D ac fe fydd yn gweithredu fel adran o fewn y Brifysgol yn Aberystwyth, gan gynnig ei gwasanaethau i sefydliadau masnachol a rhai allanol arall, yn ogystal â adrannau academaidd y Brifysgol.  Mae’r tîm llawn o ddeg aelod staff yn cynnwys datblygwyr meddalwedd profiadol yn ogystal â cyfarwyddwyr cymorth masnachol.  Ceir gwybodaeth bellach ar y wefan www.see3d.co.uk neu trwy ebostio info@see3d.co.uk.

Bydd adnoddau’r ganolfan yn cynnwys:
• Theatr rithwyr 3-D grom
• Tafluniad rhyngweithiol ymdrwytho llawn Fakespace Powerwall 
• Cyfrifiaduron Prism Extreme gan Silicon Graphics Inc ar gyfer prosesu setiau data mawr
•  Offer cyfrifiadurol Sun Microsystems, a gweithfannau sy'n rhoi profiad rhithwir personol
•  Adnoddau wedi eu rheoli’n llawn, gan gynnwys swyddfeydd unigol, gweithdai, a gweithfannau i ddefnyddwyr Delweddu.

Mae arian ychwanegol ar gyfer y prosiect wedi cael ei ddarparu gan y partneriaid diwydiannol Silicon Graphics Inc a Sun Microsystems.