Penodi Llywydd newydd

Syr Emyr Jones Parry

Syr Emyr Jones Parry

05 Gorffennaf 2007

Dydd Iau 5 Gorffennaf, 2007
Penodi Syr Emyr Jones Parry yn Llywydd y Brifysgol
Penodwyd Cynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i'r Cenhedloedd Unedig, Syr Emyr Jones Parry, yn Llywydd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Cafodd Syr Emyr ei benodi i'r swydd yng nghyfarfod Cyngor y Brifysgol brynhawn Mercher 4 Gorffennaf. Mae’n olynu yr Arglwydd Elystan Morgan i’r swydd a bydd yn dechrau ar ei waith ym mis Ionawr 2008.

Mewn ymateb i’w benodiad dywedodd Syr Emyr:
‘Mae hon yn fraint arbennig ar rwyf yn edrych ymlaen at 2008.”

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor a Phrifathro Prifysgol Cymru, Aberystwyth:
“Rwyf yn arbennig o falch fod person o’r fath fri rhyngwladol â Syr Emyr wedi ei benodi’n Llywydd. Mae hwn yn gyfnod pwysig iawn yn natblygiad y Brifysgol ac rwyf yn edrych ymlaen yn eiddgar i weithio gyda’n gilydd i sicrhau parhad ei datblygiad a’i llwyddiant. Bydd profiad Syr Emyr a’i amlygrwydd o bwys mawr i’r Brifysgol.”

Yn wreiddiol o Sir Gâr, cafodd Syr Emyr ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, Prifysgol Caerdydd, lle bu’n astudio Ffiseg Ddamcaniaethol, ac yna yng Ngholeg St Catharine Caergrawnt lle derbyniodd radd doethuriaeth mewn Ffiseg Polimer. Ymunodd â’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn 1973, ac yn ystod gyrfa ddisglair bu’n gweithio yng Nghanada, y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, ac ym Madrid.

Yn 2001 cafodd ei benodi’n Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol ar Gyngor Gogledd Môr yr Iwerydd, ac yna yn 2003 symudodd i’w swydd bresennol, Cynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i’r Cenhedloedd Gyfunol yn Efrog Newydd. Cafodd Syr Emyr ei urddo’n Gymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2006.
 
Nodiadau i’r Golygydd:
Pum mlynedd yw cyfnod swydd Llywydd Prifysgol Cymru Aberystwyth ac mae modd i’r ddeiliad y swydd barhau am un cyfnod pellach o 5 mlynedd.

Deiliaid blaenorol y swydd:
Y Gwir Anrhydeddus Henry Austin – Barwn 1af Aberdâr, GCB, DCI  1874-1895
Y Gwir Anrhydeddus Stuart Baron Rendel  1895 – 1913
Syr John Williams, BT, GCVO, LLD, MD, DSC  1913-1926
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Davies, MA LLD  1926 – 1944
Thomas Jones, CH, MA, LLD  1944 – 1954
Syr David Hughes Parry, QC, MA, DCL, Hon LLD  1955 – 1964
Syr Ben Bowen Thomas, MA, LLD  1964 – 1976
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Cledwyn, CH, Hon LLD  1977 – 1985
Syr Melvyn Rosser Hon LLD, FCA  1985 – 1997
Yr Arglwydd Elystan Morgan, LLB  1997 – 2007.