IBERS Gwybodaeth ac Arloesedd

(Ch i'r dd)Yr Athro Mervyn Humphreys, Ms Jo Spikes and Mr Stephen Smith

22 Gorffennaf 2008

Cafodd rhifyn 2008 IBERSGwybodaeth ac Arloesedd ei lansio gan Brifysgol Aberystwyth ar faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ddydd Mawrth 22 Gorffennaf.

IBERS Gwybodaeth ac Arloesedd yw'r fersiwn ddiweddaraf o Arloesedd IGER, cyhoeddiad blynyddol Sefydliad Ymchwil yr Amgylchedd a Tîr Glas (IGER) tan iddo uno â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2008.   

O dan olygyddiaeth Mr Stephen Smith, Ms Jo Spikes a'r Athro Mervyn Humphreys, mae’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys 9 erthygl sydd yn cynnig blas o’r gwaith sydd yn cael ei wneud yn IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Maent yn cyffwrdd ar ystyriaethau economaidd o fioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau a lles pobl, effaith newidiadau rheoli ar ucheldir, effaith anifeiliaid cnoi cil ar yr amgylchedd a’r modd y gall bridio planhigion helpu i ymdopi â’r heriau a godir gan ddefnyddio geneteg a genomeg sylfaenol, y potensial am fio-ynni a biodanwyddau adnewyddadwy o laswelltau, y modd y gall proteinau parasitiaid fod yn ffactor allweddol i ddatblygu strategaethau rheoli newydd, a datblygu model labordy i brofi cynhyrchion naturiol i wella clwyfau mewn ceffylau. Yn olaf ceir crynodeb o hanes astudiaethau amaethyddol, biolegol ac astudiaethau tir yn Aberystwyth.

Yn ei gyflwyniad mae Darpar Gyfarwyddwr IBERS, Yr Athro Wayne Powell, yn ystyried rhai o’r heriau sydd yn wynebu’r byd heddiw ac yn amlinelli rhai o’r ffyrdd y bydd IBERS yn cyfrannu at eu datrys.  

“Dyma’r adeg orau erioed i fod yn fiolegydd. Mae datblygiadau aruthrol yn ein dealltwriaeth o’r modd y mae systemau byw yn gweithio ac yn rhyngweithio â’r amgylchedd ar lefel celloedd, molecylau a phoblogaethau wedi newid nodweddion sylfaenol y biowyddorau. Yn gyfochrog â’r datblygiadau hyn, mae cymdeithas yn chwilio am atebion i’r heriau mawr sy’n wynebu ein planed: newid yn yr hinsawdd, bwyd, dŵr a sicrwydd ynni, ynghyd â chynaladwyedd amgylcheddol," meddai.
 
“Bydd y gweithdrefnau i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn dibynnu ar y biowyddorau a’u technolegau cysylltiedig, ynghyd ag economi’r 21ain ganrif sydd yn seiliedig ar wybodaeth. Mae IBERS mewn sefyllfa eithriadol o dda i gipio’r cyfleoedd hyn sy’n dod i’r amlwg trwy gysylltu ymchwil ganfod ac ymchwil drosiadol i sicrhau effaith economaidd a chymdeithasol.

“Mae gwyddonwyr IBERS yn cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod o newid amgylcheddol cyflym a chynyddol sy’n bygwth buddiannau cenedlaethol a diogelwch byd-eang. Bydd IBERS yn  mynd i’r afael â chwestiynau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag effaith newidiadau amgylcheddol cyflym yn yr amgylchedd ar systemau biolegol ac amaethyddol, gan ystyried sut y gellir delio â’r cyfryw newidiadau i sicrhau bod cynhyrchiant bwyd a gwasanaethau ecosystemau yn cael eu cynnal mewn ffyrdd amgylcheddol,” ychwanegodd.

Mae copïau o IBERS Gwybodaeth ac Arloesedd ar gael oddi wrth Llyfrgell a Gwasanaeth Gwybodaeth Stapledon, IBERS, Prifysgol Aberystwyth, Gogerddan, Aberystwyth SY23 3EB. Ffôn: 01970 823000 Ffacs: 01970 828357 E-bost: gogstaff@aber.ac.uk.