Ailstrwythuro IBERS

Campws Penglais

Campws Penglais

10 Mai 2010

Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)

Yn ei gyfarfod ar y 6ed o Fai croesawodd Cyngor Prifysgol Aberystwyth ganlyniad ailstrwythuro Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ac yn enwedig y ffaith bod y cwbl wedi’i wneud yn wirfoddol, gan gynnwys drwy adleoli staff i swyddi eraill. Pwysleisiodd y Cyngor pa mor bwysig yw IBERS a’i waith, fel sefydliad sy’n arwain y byd wrth fynd i’r afael â heriau’r unfed ganrif ar hugain. Roedd y Cyngor yn pwysleisio hefyd ei fod yn rhoi ei gefnogaeth lawn i’r Sefydliad a’i staff. Edrychai ymlaen at weld IBERS yn dal ati i ddatblygu ei enw da ymhellach ar flaen y maes mewn ymchwil wyddonol, gan ddysgu, ymchwilio a throsglwyddo gwybodaeth mewn modd sy’n gynaliadwy ac yn llwyddo i gystadlu ar lwyfan y byd.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth, “Mae gan IBERS ran allweddol i’w chwarae ar draws y byd wrth ymdrin â materion megis sicrwydd cyflenwad bwyd a newid yn yr hinsawdd. Rydym wedi rhoi IBERS ar sylfaen gadarnach er mwyn iddo symud ymlaen. Wrth reswm, bu hi’n gyfnod anodd i bawb ac fe hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd mewn modd mor adeiladol er mwyn cael y canlyniad hwn.”