Lansiad ymchwil i ddiogelwch cig

Dr Michael Lee

Dr Michael Lee

19 Gorffennaf 2010

Heddiw, ddydd Llun 19eg o Orffennaf  lansiodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig Elin Jones AC y prosiect ymchwil Gwella Diogelwch Bwyd a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau diogelwch cig.

Cynhaliwyd y lansiad ym Mhafiliwn IBERS Prifysgol Aberystwyth yn ardal Gofal Cefn Gwlad Sioe Frenhinol Cymru a daeth cynrychiolwyr o ddiwydiant, y byd academaidd ag amaeth ynghyd er mwyn nodi cychwyn y prosiect sy’n ceisio lleihau yn sylweddol y nifer o achosion halogi cig mewn lladd-dai.

Caiff y prosiect ymchwil gwerth £460,000 a ymgymerir gan wyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a phartneriaid diwydiannol.  Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth gan bartneriaid ar draws y sector bwyd-amaeth gan gynnwys British Chlorophyll Co Ltd; Bwydydd Castell Howell Ltd; Randall Parker Foods Ltd, Waitrose Ltd ac Wynnstay Group PLC.

Prif amcan yr ymchwil yw edrych ar ffyrdd o ganfod achosion o halogi cig a hynny mewn ymgais i atal heintiau difrifol fel E.coli. 

Gall cig gael ei halogi mewn lladd-dai pan fydd micro-organebau mewn deunydd gwastraff yn cyffwrdd â chig wrth iddo gael ei brosesu. Gall yr organebau hyn fod mor fach nes ei fod bron yn amhosib eu canfod.

Mi fydd y prosiect tair blynedd yn datblygu marcwyr cloroffyl naturiol y gellid eu hychwanegu i borthiant anifeiliaid. Yna caiff y cig ei sgrinio yn y lladd-dy gan ddefnyddio delweddu fflwrolau a fydd yn amlygu'r marcwyr, ac yn canfod halogiad o wastraff anifeiliaid yn y cig.

Mae Dr Michael Lee, arweinydd y prosiect yn IBERS, wrthi yn datblygu marcwyr chloroffyl naturiol, Mg-Chlorophyllin, sy’n cynyddu arddwysedd fflwrolau bum gwaith ar ôl cynnig y marcwyr i’r anifail.

Eglurodd Dr Lee: “Mae gweithio â phartneriaid ar draws y diwydiant yn caniatáu i ni weithio ar hyd y gadwyn fwyd - o ddatblygu’r marcwyr naturiol o fewn y labordy drwyddo i arsylwi ar brosesau cynhyrchu a chwilio am halogiad ar gig.  Rydym yn gweithio gyda British Chlorophyll er mwyn datblygu’r marcwyr a’r Grŵp Wynnstay i ddatblygu bwyd ar gyfer wyn sy'n cynnwys y marcwyr.”

Bydd y prosiect hefyd yn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio’r marcwyr er mwyn darganfod halogiad wyau a dofednod.  Dywedodd Dr Lee: “Mae pum marciwr yn cael eu profi gyda dofednod ar hyn o bryd er mwn gweld os oes modd canfod halogiad mewn wyau a chig iâr.  Mae hyn yn gam mawr ymlaen wrth geisio lleihau achosion o salmonela.  Mae canfyddiadau’r cyhoedd o’r peryglon sydd ynghlwm â dofednod yn dipyn uwch na chig coch, rydym felly’n hynod o falch o fod yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid er mwyn ceisio datrys y broblem.”

Un o'r cwestiynau allweddol dan sylw fydd penderfynu sut gaiff y marcwyr hyn eu rhoi i'r anifeiliaid - eu bwydo mewn porthiant dwys, mewn dŵr neu ychwanegion mwynau. Wedi hynny, bydd y system ddelweddu yn cael ei datblygu..

Ariennir y prosiect trwy raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd yn annog ymchwil a datblygu ar y cyd rhwng sefydliadau academaidd a diwydiant.

Dywedodd y Gweinidog Dros Faterion Gwledig Elin Jones AC: “Mae gwella diogelwch bwyd yn holl bwysig er mwyn cynnal hyder cwsmeiriaid yn y cynnyrch y maent yn ei brynu, a  hygrededd cynhrychwyr y diwydiant amaeth Cymreig.”

“Yn ddiweddar cyhoeddais ymgynghoriad ar gyfer Strategaeth Fwyd i Gymru ac mae ymchwil perthnasol er mwyn cefnogi datblygiad y strategaeth hon yn bwysig. Bydd y cynllun Gwella Diogelwch Bwyd yn cyfrannu at gyflawni’r amcan hwn.”

Mae cysylltiad agos rhwng y gwaith yn IBERS a Phrosiect ProSafeBeef y Comisiwn Ewropeaidd, sydd â'r nod o leihau halogiad o bathogenau mewn cig. Bydd prosiect Dr Lee yn adeiladu ar y gwaith datblygu marcwyr cloroffyl a wnaed gan ProSafeBeef, gan archwilio'r defnydd posibl iddynt mewn diwydiant.

Dywedodd Cadeirydd y Prosiect Gwella Diogelwch Bwyd, Mr Duncan Sinclair sy’n cynrychioli Waitrose Ltd: “Mae’r prosiect hwn yn esiampl arbennig o sut y gall gwaith ar y cyd rhwng y gwahanol fusnesau  o fewn yr un gadwyn gyflenwi weithio gyda'i gilydd er mwyn darparu ateb cadarnhaol a dibynadwy i un o’r nifer o sialensiau sy’n ein hwynebu wrth ddarparu bwyd diogel i gwsmeriaid.  Rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gan arbenigedd y grŵp ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda’r holl bartneriaid am oes y prosiect.”

au13010