Lansio ymchwil £4.9m i geirch

Bydd Quoats yn cael ei arwain gan Dr Athole Marshall o IBERS.

Bydd Quoats yn cael ei arwain gan Dr Athole Marshall o IBERS.

21 Gorffennaf 2010

Heddiw, ddydd Mercher 21 Gorffennaf yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, bydd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones AC yn lansio ymchwil newydd o bwys i ddatblygu gwell amrywiadau o geirch a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth.

Disgwylir hefyd y bydd Quality Oats (QUOATS), prosiect pum mlynedd £4.9m a gyllidir gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), Defra, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth yr Alban, yn cynyddu manteision iechyd wrth i fwy a mwy o bobol droi at geirch fel rhan o ddiet iachach.

Mae’r galw cynyddol am fwyd neu borthiant diogel, iach a maethlon, ynghyd â’r cynnydd yng nghostau ynni amaethyddol a gwrtaith, a’r angen i ffermio mewn dull mwy cynaliadwy yn ffactorau sy’n ysgogi’r astudiaeth, yn ôl Dr Athole Marshall, pennaeth y Rhaglen Bridio Ceirch yn IBERS.

“Mae ceirch yn gnwd saib gwerthfawr o fewn cylchdro’r grawnfwyd gan leihau clefydau a phroblemau chwyn, mae arnynt angen llai o wrtaith na gwenith, maent yn perfformio’n well mewn mannau ymylol ac maent yn borthiant anifeiliaid uchel eu gwerth y gellir ei dyfu a’i fwydo ar y fferm”.

Ychwanegodd “Yn IBERS, rydym yn llwyddo i gyfuno ymchwil sylfaenol ar eneteg planhigion â thechnegau bridio planhigion i ddatblygu amrywiadau o blanhigion sy’n fasnachol hyfyw gan helpu i gwrdd â heriau diogelwch bwyd, dŵr ac ynni, a chynaladwyedd amgylcheddol”.

Mae’r amrywiadau o geirch a ddatblygir ar hyn o bryd yn IBERS yn cyfrif am fwy na 60% o farchnad hadau ceirch y DU, gyda gwerth ‘gât-fferm’ o £80m. Un amrywiad, Gerald, a ddatblygwyd gan y Sefydliad yw’r geirchen aeaf a dyfir fwyaf aml, sy’n dal 45% o’r farchnad, tra bod y corgeirch noeth a ddatblygwyd yn y Sefydliad yn cyfrif am tua 5% o holl gnwd ceirch y gaeaf.

Er y manteision a gynigir eisoes gan geirch, cred Dr Marshall fod angen datblygu amrywiadau newydd a fydd yn ymateb yn dda i’r newid yn yr amgylchedd a’r hinsawdd, yn defnyddio llai o wrtaith, yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy deniadol i gynhyrchwyr a defnyddwyr.

Cefnogir y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy’r rhaglen Arbenigedd Academaidd ar gyfer Busnes (A4B) a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd (UE). Lluniwyd y rhaglen i sicrhau bod Cymru’n ymestyn ffrwyth economaidd ei sefydliadau academaidd i’r eithaf.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones: "Fel rhan o’m Rhaglen Adnewyddu'r Economi (RAE) rwyf wedi dwyn sylw at yr angen i Gymru wneud yn fawr o’i chyfran o arian ymchwil allanol.”

“Mae’n braf gweld sut drwy weithio mewn partneriaeth, mae Llywodraeth y Cynulliad, drwy’r rhaglen A4B, wedi galluogi i Brifysgol Aberystwyth dderbyn arian sylweddol gan Defra a’r BBSRC er lles yr economi Gymreig ym maes ymchwil a datblygu o bwys.”

Mae’r prosiect hwn yn dwyn at ei gilydd holl gadwyn cynhyrchu ceirch gan gynnwys bridwyr, marchnatwyr cnwd, byrddau ardoll a’r defnyddwyr diwydiannol terfynol. Datblygiad newydd fydd y defnydd o’r technolegau genomeg mwyaf diweddar i astudio nodweddion mewn system fodel yn seiliedig ar hen gyltifar diploid.

“Bydd cyfuno arbenigedd wrth fridio planhigion yn foleciwlaidd a chonfensiynol, a dadansoddi cyfansoddiad grawn a gwerthuso amrywiadau newydd ac arloesol trwy ymchwil gyda phartneriaid diwydiannol yn sicrhau y bydd amrywiadau newydd y ceirch yn ateb gofynion y gwahanol ddefnyddwyr terfynol” dywed Dr Marshall.

Mae datblygu ceirch sy’n diwallu anghenion y diwydiant melino yn bwysig. Bydd y tîm yn astudio sail enetig cynhwysiad β-glucan mewn ceirch, y gwyddys ei fod yn iselhau colesterol gwaed, gyda’r nod o ddatblygu amrywiadau newydd a fydd yn gweddu i’r dim i’r farchnad bwydydd iach.

Yn draddodiadol, mae ceirch yn borthiant pwysig i anifeiliaid ac mae’r amrywiadau modern yn addas iawn ar gyfer dognau. Bydd y tîm hefyd yn datblygu ceirch sy’n darparu bwyd ynni uchel i’r sectorau dofednod ac anifeiliaid cnoi cil, a gall hyn hefyd helpu i leihau allyriadau nwy tŷ gwydr o gynyrchiadau anifeiliaid.

Yn ogystal â hyn, mewn datblygiad newydd ac arloesol, bydd y prosiect yn archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio ceirch i gynhyrchu cemegau llwyfan pwysig i’r diwydiant plastigau, colur a bwyd.

Cyllid QUOATS
Noddir y prosiect QUOATS ar y cyd gan BBSRC, Defra trwy Raglen Âr Cynaliadwy LINK, a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Arbenigedd Academaidd ar gyfer Busnes - Llywodraeth Cynulliad Cymru, a thrwy Gronfa Ymchwil Contractau Llywodraeth yr Alban.

Partneriaid QUOATS
Partneriaid y prosiect yw ADAS UK Ltd, Bernard Matthews Ltd, British Oat and Barley Millers' Association, Du Pont (U.K.) Limited, G B Seeds, Halo Foods Ltd, Coleg Prifysgol Harper Adams, Mole Valley Feed Solutions, Nairns Oatcakes Ltd, Oat Services, Phytatec (UK) Ltd, Poultry Xperience, Canolfan Ymchwil Organig (Elm Farm), Sefydliad Ymchwil Cnydau’r Alban, Senova Ltd ac adrannau DairyCo, EBLEX a HGCA y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).

IBERS
Sefydlwyd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth, ym mis Ebrill 2008 yn dilyn uno’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd, a oedd gynt yn rhan o’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), â Phrifysgol Aberystwyth. Mae IBERS yn dal i dderbyn cyllid sylweddol ar gyfer ymchwil gan y BBSRC a buddion o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

Bridio Ceirch yn IBERS
Cynhyrchodd y rhaglen bridio ceirch yn IBERS amrywiadau nodedig, megis y math o geirchen aeaf gwelltyn-byr Gerald (rhestrwyd ym 1993), a dyfarnwyd iddi Gwpan Grawnfwyd y Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol (NIAB) am gyfraniad arbennig i ffermio âr yn 2002. Dilynodd Kingfisher a Millennium yn 1999 a 2000. Ychwanegwyd math arall o geirchen aeaf, Mascani, at y Rhestr Gymeradwyo yn 2004 am ei gyfuniad o gynhaeaf toreithiog ac ansawdd melino eithriadol o ran cynhwysiad uchel o gnewyll, pwysau penodol uchel a sgriniadau isel. Dilynwyd hyn gan Tardis a Brochan yn 2007. Mae Tardis yn fath o geirchen sy’n dwyn cnwd da, yn gwrthsefyll llwydni a choronrwd yn ardderchog, tra bod Brochan yn gallu gwrthsefyll glyniad yn dda dros ben oherwydd y gwelltyn byr iawn a gysylltir â gwneuthuriad planhigyn newydd a’r cynhwysiad cnewyllyn uchel ar gyfer melino. Ceirchen goden yw Balado 2009 sy’n rhoi cnwd lluosog i ffermwyr.

Ar ben hyn, cynhyrchwyd chwe math o geirch noeth y gaeaf a brofodd yn gerrig milltir: Kynon (1990), Grafton (2000), Hendon (2003), Expression (2004) a Racoon (2005) a Fusion (2009).

au12110