Gwobr RIBA

Cyflwyno'r wobr. O’r chwith i’r dde: Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Ole Smith a Tom Chapman-Andrews, Stiwdios Heatherwick; Pierre Wassenaar, Llywydd Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru.

Cyflwyno'r wobr. O’r chwith i’r dde: Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Ole Smith a Tom Chapman-Andrews, Stiwdios Heatherwick; Pierre Wassenaar, Llywydd Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru.

11 Hydref 2010

Cyflwynwyd gwobr Cymdeithas Frenhinol Penseiri Prydain i Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar ddydd Gwener 1af Hydref.

Derbyniwyd y wobr oddi wrth Pierre Wassenaar, Llywydd Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru, gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Noel Lloyd ynghyd â chynrychiolwyr o Stiwdios Heatherwick a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Mae prosiect yr Unedau Creadigol, a ddylunwyd ar gyfer Canolfan y Celfyddydau gan Stiwdios Heatherwick, yn un o saith prosiect yn unig o Gymru i dderbyn gwobr oddi wrth y Gymdeithas eleni, a’r unig un yng Nghanolbarth Cymru. Bu’r Gymdeithas yn cyhoeddi 102 o wobrau eleni – 93 o’r Deyrnas Unedig a’r gweddill o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae prosiect Canolfan y Celfyddydau yn un o 17 o wobrau a roddwyd i ysgolion a phrifysgolion. Rhoddir y gwobrau i adeiladau sydd wedi cyrraedd safonau pensaerniol uchel ac sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at yr amgylchedd lleol. Mae’r gwobrau wedi cael eu cyflwyno bob blwyddyn ers 1966.

Bwriad prosiect yr Unedau Creadigol oedd i ddatblygu rôl Canolfan y Celfyddydau fel man canolog creadigol ar gyfer busnesau celf, asiantaethau datblygu’r celfyddydau, artistiaid a chrefftwyr. Mae’r cymysgedd o artistiaid a busnesau celf yn nodwedd unigryw o’r datblygiad hwn gyda thenantiaid sefydledig a newydd yn rhyngweithio gyda’i gilydd mewn amgylchedd creadigol a symbylol er mwyn cyflawni eu potensial economaidd a chreadigol. Fel adran o Brifysgol Aberystwyth, mae prosiect y Ganolfan hefyd yn gysylltiedig ag Uned Fasnacheiddio’r Brifysgol a strategaeth Cynulliad Cymru i roi blaenoriaeth i ddatblygu sector y diwydiant creadigol. Gwnaethpwyd y prosiect, sy’n werth £1.4 miliwn, yn bosibl yn sgil cefnogaeth oddi wrth Brifysgol Aberystwyth, Cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae pob uned yn llawn gydag amrediad o fusnesau creadigol sefydledig a newydd, yn gweithio mewn meysydd sy’n cynnwys teledu, cynhyrchu cerddorol a Digidol, cyhoeddi llyfrau, pensaerniaeth ac artistiaid gweledol proffesiynol gan gynnwys cynllun Artistiaid Preswyl y Ganolfan. Gyda’u gorffeniad nodweddiadol o ‘ddur crychlyd’ mae golwg unigryw yr Unedau wedi profi’n ddeniadol iawn i gwmniau creadigol sy’n edrych am gartref yr un mor greadigol.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn adran o Brifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gyfleusterau sydd heb eu hail ledled Cymru a‘r rhan fwyaf o’r DU ac mae’n croesawu dros 700,000 o ymwelwyr y flwyddyn gyda’i rhaglen amrywiol sy’n cynnwys pob agwedd o’r celfyddydau.
Stiwdios Heatherwick yw un o gwmniau dylunio mwyaf blaenllaw’r DU gyda phrosiectau sy’n cynnwys adeilad byd-enwog Longchamp yn Efrog Newydd, y Rolling Bridge yn Llundain a’r East Beach Café yn Littlehampton a enillodd wobr oddi wrth Gymdeithas Frenhinol Penseiri Prydain. Ei brosiect pwysicaf diweddaraf yw Pafiliwn y DU yn y Shanghai Expo a fydd yn cael ei agor ym mis Mai.

Gwobrau Cymdeithas Frenhinol Penseiri Prydain yng Nghymru yn 2010:
 Llyfrgell Ganolog Caerdydd BDP
 Canolfan Gelf Chapter Ash Sakula
 Unedau Busnes Creadigol Stiwdio Heatherwick
 Hafod Eryi (ar gopa’r Wyddfa) Penseiri Ray Hole
 Canolfan Ddarganfod Margam Loyn a Chwmni / Uned Penseiri & Ymchwil Dylunio
 Skypad - Uned Ymddiriedolaeth Cancr yr Arddegau Dylunio Pensaerniol orms
 Gesty Sleeperz Clash Associates