Llwybr llaethog

Gwartheg godro

Gwartheg godro

14 Ebrill 2011

Mae gwyddonwyr yn Aberystwyth yn arwain prosiect rhyngwladol i gefnogi ffermio llaeth organig gyda mewnbwn isel.

Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n arwain 26 o  bartneriaid o 11 gwlad wahanol ar brosiect o’r enw SOLID – Ffermio Llaeth Organig Cynaliadwy gyda Mewnbwn Isel.

Dechreuodd y prosiect pum mlynedd sydd werth £5.28 miliwn ynghynt y mis hwn.

Prif nod y prosiect, sy’n cynnwys gwartheg a geifr, yw gwella bridiau a dulliau bwydo er mwyn cynnal lefelau cynnyrch a gwella lles ac iechyd anifeiliaid, a dal i gwrdd y galw yn y farchnad am laeth o ansawdd uchel.

Bydd ffermwyr a chwmnïau bach a chanolig yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn gweithio’n agos gyda gwyddonwyr i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddatrys problemau ymarferol, o gynyddu lefelau cynnyrch ac ansawdd heb roi rhagor o straen ar yr amgylchedd.

Un o’r cwmnïau hynny yw cwmni llaeth organig cydweithredol Calon Wen yn ne-orllewin Cymru. Un arall yw OMSCo, y cwmni mwyaf yn y maes, sydd hefyd yn gweithio gyda chynhyrchwyr yng Nghymru.

“Bydd cyfranogiad ffermwyr a chwmnïau bach a chanolig fel OMSCo a Calon Wen yn allweddol yn y prosiect hwn. Y nod yw dod o hyd i ddulliau a thechnegau newydd a fydd yn gweithio iddyn nhw. R’yn ni wrth ein boddau’n arwain y gwaith  a thynnu ein partneriaid rhyngwladol at ei gilydd. Mae IBERS eisoes yn gwneud gwaith ymchwil o safon byd yn llawer o’r meysydd perthnasol,” meddai’r Athro Nigel Scollan, Cydlynydd SOLID yn IBERS.

Meddai Roger Kerr, Rheolwr Gyfarwyddwr Calon Wen: “Mae Calon Wen yn falch o fod yn rhan o’r prosiect. Bydd deall a datblygu systemau ffermio cynaliadwy’n allweddol yn y blynyddoedd nesaf wrth i’r pwysau gynyddu ar ynni, dŵr a thir. Mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i unrhyw beth sy’n gwella ein dealltwriaeth o hyn ac yn caniatáu i ni adeiladu system fwyd gadarn ar gyfer y dyfodol.”

Mae IBERS mewn lle delfrydol i arwain y prosiect sy’n cynnwys Seland Newydd a deg gwlad Ewropeaidd arall. Mae gwyddonwyr y Sefydliad eisoes yn ymchwilio mewn meysydd allweddol.

Bydd SOLID yn:

•        Yn defnyddio’r technegau gwyddonol diweddaraf i helpu gwartheg a geifr i addasu i systemau organig, mewnbwn isel, gyda dim neu ychydig gemegau a bwydydd anifeiliaid artiffisial.

•        Datblygu bwydydd newydd a chynaliadwy i’r anifeiliaid a gwella safon, cynnyrch a rheolaeth cnydau porthiant.

•        Asesu a gwella systemau ffermio llaeth tir glas, gan gynnwys cynhyrchu rhagor o borthiant.

•        Datblygu dulliau a strategaethau newydd a gwella cydweithredu ar hyd y gadwyn gyflenwi, o fferm i fforc.

•        Rhannu’r wybodaeth gyda grwpiau o ffermwyr a’r diwydiant llaeth er mwyn gwneud y gorau o lwyddiannau’r cynllun ar bob lefel.

“Mae’r penderfyniad i ofyn i IBERS arwain y prosiect hwn yn dangos pa mor dda yw ein henw o fewn y diwydiant. Mae SOLID yn gweddu’n berffaith gyda’n gweledigaeth ni o ddefnyddio gwyddoniaeth o safon byd i wella amaeth yng Nghymru a thrwy’r byd. Bydd y gwaith yma o les mawr, nid yn unig i ffermio organig, ond hefyd i’r amgylchedd a defnyddwyr.”

AU8611