"Morality, Religion and Politics"

Bydd yr Arglwydd Richard Harries

Bydd yr Arglwydd Richard Harries

05 Mai 2011

Bydd yr Arglwydd Richard Harries o Bentregarth yn traddodi Darlith Flynyddol Syr D O Evans ar nos Lun 9ed Mai 2011.

Pwnc darlith yr Arglwydd Harries fydd "Morality, Religion and Politics", a bydd yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd adeilad Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol am 7 yr hwyr.

Bu’r Arglwydd Harries yn Esgob Rhydychen rhwng 1987 a 2006. Ar ôl ymddeol fe’i gwnaed yn Arglwydd am Oes ac mae’n parhau i fod yn weithredol yn NhÅ·’r Arglwyddi.

Ef yw Athro Diwinyddiaeth Gresham, ac mae hefyd yn Athro Diwinyddiaeth Er Anrhydedd yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Mae’r Arglwydd Harries yn awdur nifer o lyfrau, ac mae ganddo

ddiddordeb arbennig yn rhyngwyneb y ffydd Gristnogol a’r diwylliant ehangach, yn cynnwys

y celfyddydau. Ei lyfrau diweddaraf yw The Reenchantment of Morality (SPCK), Faith in Politics?

Rediscovering the Christian roots of our political values (DLT), Issues of Life and Death: Christian faith and medical intervention (SPCK), a Reinhold Niebuhr and Contemporary Politics, gol. Gyda Stephen Platten, (OUP).

Ers 1972 mae’r Arglwydd Harries wedi bod yn gyfrannwr rheolaidd i raglen Today Radio 4.