Sŵn y ddinas

Malwoden

Malwoden

16 Mehefin 2011

Mae’r gwyddonydd o Aberystwyth, Dr Rupert Marshall, wedi recordio eitem ar gyfer rhaglen y BBC, Springwatch, ar effeithiau gweithgareddau dynol ar fywyd gwyllt.  Mae’n adnabyddus am ei waith ar ganu adar mewn ardaloedd trefol. Y tro hwn defnyddiodd Dr Marshall falwod i ddangos y gwahaniaeth rhwng amgylchedd dinesig a gwledig.

Mae garddwyr ac adarwyr yn gwybod fod malowd yn dianc i’w cregyn er mwyn amddiffyn eu hunain. Cnoc ar y gragen ac maent yn diflannu o’r golwg. “Roeddwn am wybod os yw synnau sydd wedi eu creu gan ddyn yn effeithio ar eu gallu i chwilio am fwyd: ydy cryndod o’r ffyrdd ac o ddiwydiant yn codi ofn arnynt?” dywedodd Dr Marshall. Dangosodd ei arbrofion, gafodd eu gwneud gan Samantha Ward, myfyrwraig swwoleg ar ei blwyddyn ofal, fod gwahaniaeth mawr rhwng ymddygiad malwoden o’r ddinas a malwoden o’r wlad.  

Ffilmiwyd yr eitem yn Essex gyda chymorth rhai o fechgyn lleol oedd yn berchen ar gar gyda sustem sain anferthol a bu Rupert a chyflwynydd y rhaglen Liz Bonner yn chwarae cerddoriaeth ddinesig i’r malwod.  Yn unol â’r hyn a ragwelwyd, arhosodd y malwod gwledig yn eu cregyn  tra bod y malwod diensig yn parhau i lithro ymlaen.  “Mae’n ymddangos fod malowd diensig wedi addasu eu hymddygiad – neu eu bod wedi cyfarwyddo gyda’r swn o leiaf”.

Y cam nesaf yw gweld os taw ymddygiad wedi ei ddysgu yw hwn, neu a yw’r amgylchedd wedi achosi newidiadau i’w genynnau. “Mae gweithgaredd dynol yn dylanwadu’n fawr ar fywyd gwyllt. Dim ond drwy ddeall yr effeithiau yma y gallwn ddylunio datblygiadau’r dyfodol yn well a thrwy hynny leihau ein heffaith ar fyd natur.”

Bydd yr eitem yn cael ei darlledu ar nos Iau 16 Mehefin.

AU14711

Cafodd yr eitem yn cael ei darlledu ar Springwatch ar nos Iau 16 Mehefin, gweler: http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b0120hk9/Springwatch_2011_Episode_12/