Dirywiad rhewlif

Dr Alun Hubbard yn tynnu lluniau o Rewlif Petermann.

Dr Alun Hubbard yn tynnu lluniau o Rewlif Petermann.

02 Medi 2011

Mae lluniau dramatig gafodd eu tynnu gan Dr Alun Hubbard, rhewlifegydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yn dangos faint mae Rhewlif Petermann ar yr Ynys Las wedi crebachu mewn cwta ddwy flynedd. 

Mae Rhewlif Petermann, sydd yn mesur mwy na 300km o hyd ac yn 6% o len iâ'r Ynys Las, wedi ei lleoli yng Ngogledd Orllewin yr ynys. Daw i ben ar ffurf tafod iâ sydd yn arnofio ac yn mesur tua 70 km o hyd ac 20 km o led, y fwyaf o’i bath yn hemisffer y gogledd. 

Gyda chymorth Ymddiriedolaeth Wyddoniaeth Genedlaethol yr Unol Daleithiau a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yma ym Mhrydain, teithiodd Dr Hubbard mewn hofrennydd i’r rhewlif i gasglu data o gamerâu ffotograffiaeth oediog a synwyryddion GPS gafodd eu gosod yno yng Ngorffennaf-Awst 2009 gyda chymorth Greenpeace. 

Cafodd y synwyryddion eu gosod gan fod rhai yn rhagweld y byddai ardal fawr o iâ yn datgysylltu ei hun. Digwyddodd hyn ar y 3ydd o Awst 2010.

Hedfanodd Dr Hubbard o Qaanaaq ar yr Ynys Las, yr anheddiad nad yw’n filitaraidd mwyaf gogleddol yn y byd, i Petermann, gan gymryd 5 diwrnod (24 tan 29 Gorffennaf 2011) i gwblhau’r daith gyfan.

"Er fy mod yn gwybod beth i’w ddisgwyl o safbwynt colli iâ o luniau lloeren, doedd dim wedi fy mharatoi ar gyfer maint anhygoel y chwalfa, fe’m gadwyd yn hollol fud,” dywedodd Dr Hubbard wedi iddo ddychwelyd. 

“Roedd yr hyn a welais yn anhygoel. Mae’r rhewlif hwn yn anferth, 20km ar draws a dros 600m o ddyfnder gyda chreigiau serth sydd yn codi i 1000m ar y ddwy ochr. Roedd yn union fel edrych i mewn i’r Grand Canyon a hwnnw’n llawn iâ, ac yna dychwelyd ddwy flynedd yn ddiweddarach a’i weld yn llawn dŵr.

"Mi fydd yn rhaid aros i weld beth mae hyn yn ei olygu o safbwynt cyflymu llif y rhew ar y tir a’r ffordd y mae’r llen iâ yn symud yn ei blaen. Daw hyn i’r amlwg pan fyddwn yn prosesu’r data GPS yr ydym wedi ei gasglu, gwaith sydd yn mynd rhagddo yn Aberystwyth," ychwanegodd.

Yn sgil y ‘datgysylltiad’ ar y 3ydd o Awst 2010 ffurfiwyd ynys iâ oedd ag arwynebedd o fwy na 200km2. Mae Dr Hubbard o’r farn fod y craciau ar holltau yn yr hyn sydd yn weddill o silff iâ yn mynd i arwain at ei chwalu yn y dyfodol agos.


AU21111