Cyfranogiad rhieni i addysg

Dr Marco Odello, Uwch Ddarlithydd y Gyfraith, Adran y Gyfraith a Throseddeg

Dr Marco Odello, Uwch Ddarlithydd y Gyfraith, Adran y Gyfraith a Throseddeg

14 Hydref 2011

Heddiw, dydd Gwener 14 Hydref, cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth gasgliadau prosiect ar ddatblygu dangosyddion hawliau dynol ynglŷn â chyfranogiad rhieni o addysg orfodol.

Mewn digwyddiad a drefnwyd gan Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyhoeddodd partneriaid o ledled Ewrop eu casgliadau yn dilyn prosiect tair blynedd, a noddwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn edrych ar rôl rhieni yn y broses o sicrhau ansawdd addysg, a’u cyfranogiad o’r broses honno.

Yn ymuno â Dr Marco Odello, Uwch Ddarlithydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, i gyflwyno casgliadau’r prosiect ymchwil roedd yr Athro Michele Brunelli, Cadeirydd UNESCO o Brifysgol Bergamo, yr Eidal, a Ms Valeria Ariategui o OIDEL, Corff Anllywodraethol o Geneva sy’n ymwneud â hawliau dynol ac addysg. Roedd y prosiect yn cynnwys rhwydwaith o wyth sefydliad partneriaethol ledled Ewrop, gyda Chymru a Lloegr yn cael eu cynrychioli gan Dr Marco Odello a Jill St George, i’ll dau o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Datblygodd y prosiect ddangosyddion newydd a allai egluro a mesur i ba raddau y mae’r gyfraith yn cydnabod hawliau rhieni, gan gynnwys yr hawl i gyfranogi, i ddewis, i apelio ac i gael gwybodaeth briodol am ysgolion. Mae’r prosiect hwn yn rhan o strategaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd i gynyddu rheolaeth ddemocrataidd systemau addysg, a ddiffinnir yn Siarter Addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Ddemocrataidd 2010. Hefyd, mae’r prosiect wedi rhoi ystyriaeth i gonfensiynau rhyngwladol ar hawliau dynol i gynllunio dangosyddion priodol.  

Meddai Dr Odello: “Roedd y prosiect yn cynnwys gwneud arolwg ar draws 15 o wledydd Ewropeaidd yn cynnwys y Deyrnas Unedig er mwyn archwilio’r elfennau allweddol ar gyfer sicrhau addysg o ansawdd. Wrth wneud hyn, ystyriwyd y modd mae trefn lywodraethol systemau addysg yn effeithio ar ansawdd addysg, a’r modd y mae rheolaeth dda hefyd yn arwain at lefelau uwch o ymrwymiad ymhlith budd-ddeiliaid.

Yn ystod ein hastudiaethau, datblygwyd nifer o ddangosyddion sy’n ategu prosesau mesur cyfranogiad rhieni o systemau addysg Ewropeaidd. Mae ein hymchwil wedi amlygu dau angen, yn gyntaf i roi trefniadau ar waith sy’n adlewyrchu disgwyliadau a safbwyntiau rhieni, ac yn ail i ddyfeisio fformiwlâu neu ddulliau sy’n cynorthwyo rhieni i ymwneud ag addysg”.

Rhagwelir y bydd casgliadau’r astudiaeth ac, yn fwyaf arwyddocaol, y dangosyddion a nodwyd yn galluogi llunwyr polisi mewn llywodraethau i fonitro a mesur ansawdd addysg yn effeithiol. Mae Cymru a Lloegr eisoes wedi dangos cydnabyddiaeth uchel iawn o’r hawliau hynny. Serch hynny mae yna le i ddatblygu ymhellach, yn benodol ym maes hyfforddiant ar gyfer rhieni o ran cyfranogi yn eu hysgolion a’r modd y maent yn cael eu rheoli.

Yn y digwyddiad heddiw, lansiwyd adroddiad llawn o’r enw ‘Parental involvement within the school; An innovative approach to the quality education’, a gyhoeddwyd yn Saesneg a Ffrangeg ganL’Harmattan, Paris, ac a fydd yn cael ei ddosbarthu i fudd-ddeiliaid perthnasol yn y Deyrnas Unedig.