Cynghrair Strategol newydd

Prifysgol Aberystwyth.

Prifysgol Aberystwyth.

07 Rhagfyr 2011

Ddydd Mercher, 7 Rhagfyr bydd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn cyhoeddi Cynghrair Strategol newydd sy’n cyflwyno cyfnod newydd yn y bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad.

Bydd y gynghrair newydd yn adeiladu ar sail y Bartneriaeth Ymchwil a Menter lwyddiannus a sefydlwyd gan y ddwy brifysgol yn 2006 am £10.9m ac a ariannwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Creu gwerth £11m o ymchwil ychwanegol dros bum mlynedd oedd y nod, ond fe fydd y Bartneriaeth Ymchwil a Menter yn cyhoeddi ddydd Mercher mai £53m o gyllid ymchwil ychwanegol a gynhyrchwyd ganddi yn y diwedd.

Dyna 481% o’r targed a osodwyd, ac fe’i cyflawnwyd drwy brosiectau newydd ar y cyd, cyllid a ddaeth drwy wneud penodiadau newydd neu o weithdai a chyfarfodydd a fu’n dod ag academyddion, a oedd eisoes yn gweithio yn y prifysgolion, at ei gilydd.

Mae’r Gynghrair Strategol newydd eisoes yn ehangu a dyfnhau’r bartneriaeth rhwng y ddwy brifysgol, gan fentro i feysydd megis strategaethau ar y cyd i Ddysg ac Addysgu, Menter a Chyswllt â Chyrff Allanol, ehangu cyfranogiad, a chynllunio rhanbarthol.

Bydd gwasanaethau ar y cyd hefyd yn cael eu datblygu mewn sawl maes: gwasanaethau’r Gymraeg, adnoddau dynol a gyrfaoedd a chyflogadwyedd yw’r meysydd sydd ar y blaen yn hyn o beth.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae llofnodi’r Cynghrair Strategol hwn yn garreg filltir o bwys yn y berthynas ardderchog rhwng prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Mae’r ddau sefydliad yn “ffrindiau pennaf” ers blynyddoedd, ac fe fyddwn ni’n aros felly; rydym yn cysylltu a rhyngweithio’n gadarnhaol â’n gilydd, yn rhannu diddordebau, yn rhannu’r un nodau, ond eto gallwn ddal ati i gystadlu â’n gilydd mewn modd cyfeillgar. Mae’r berthynas yn golygu y gallwn ddatblygu mentrau a fydd yn sicrhau llwyddiant y ddau sefydliad fel ei gilydd, ac yn creu mwyfwy o fudd i’r amryw gymunedau a wasanaethwn.”

Dywedodd yr Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, a Chadeirydd Addysg Uwch Cymru: “Yn sgil y cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch ffurf Addysg Uwch yng Nghymru yn y dyfodol, mae’r cynghrair strategol newydd hwn rhwng Bangor ac Aberystwyth yn adlewyrchu ei safbwynt ef ac yn amlygu ein bwriad ni i ddal ati i weithio’n ddygn gyda’n gilydd ar ystod ehangach fyth o faterion, er budd y naill sefydliad a’r llall. Mae sawl her yn wynebu’r Gogledd a’r Canolbarth, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Mae ein dwy Brifysgol ni mewn sefyllfa dda iawn i allu helpu i wella bywydau pawb yn y rhanbarthau hyn, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddwyn y maen hwn i’r wal.”

AU29911