Newyn canoloesol

Yr Athro Phillipp Schofield.

Yr Athro Phillipp Schofield.

20 Ionawr 2012

Bydd newyn marwol a fu’n ymlid Lloegr yn ystod y 14eg ganrif, ac a laddodd dros hanner miliwn o bobl mewn llai na thair mlynedd, yn ffocws i astudiaeth fawr newydd gan Athro Hanes o Brifysgol Aberystwyth, Yr Athro Phillip Schofield.

Mae’r Athro Schofield, Pennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru, wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil Bwysig Leverhulme, gwerth £140,507, a fydd yn rhedeg am dair blynedd o fis Medi 2012.

Bydd yr astudiaeth yn diweddu gyda chyhoeddi llyfr sy’n dwyn y teitl arfaethedig “The Great Famine. Dearth and society in medieval England c.1300”.

“Er mai hwn oedd y digwyddiad newyn mwyaf yng Ngogledd Ewrop yn y mileniwm diwethaf, bychan iawn sydd wedi’i ysgrifennu ar y mater,” dywedodd yr Athro Schofield.

“Bydd y gwaith hyn yn rhoddi inni ddealltwriaeth ddyfnach o ddigwyddiad a allai fod wedi lladd, yn ôl yr amcangyfrifon diwethaf, mwy na hanner miliwn o bobl – allan o gyfanswm poblogaeth yn Lloegr o oddeutu 5 miliwn tua’r flwyddyn 1300 – mewn llai na thair blynedd, a bydd hefyd yn tynnu mwy o sylw at ddigwyddiad gwirioneddol sylweddol yn hanes demograffig gogledd Ewrop.”

“Hoffwn feddwl y bydd yr ymchwil hwn o diddordeb uniongyrchol ac eang a byddaf yn ceisio darganfod cyfleoedd i ymdrin ag astudiaethau newyn modern yn ystod y prosiect,” ychwanegodd.

Bydd y prosiect yn tynnu maeth o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys croniclau, dogfennau cyfreithiol, deunydd ariannol a gweinyddol, a llawer o dystiolaeth am y Newyn Mawr nas astudiwyd eto, ac felly bydd yn cyflwyno astudiaeth o’r newyn ei hun yn ogystal â’i gyd-destun, yn gymdeithasol, yn economaidd, ac yn wleidyddol.

Mae’r Athro Schofield yn hanesydd sy’n arbenigo yn hanes canol oesol diweddar Lloegr, yn benodol hanes cymdeithasol, economaidd, a demograffaidd.

Mae ei ymchwil wedi ffocysu ar gymdeithas wledig yn y drydedd ganrif ar ddeg a’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac y mae ganddo diddordeb neilltuol yn sut y gweithredai economi’r werin yn ystod y cyfnod hwn.

Mae llawer o’i waith yn seiliedig ar brynu a gwerthu tir, credid a nwyddau, ac, yn benodol, yn y defnydd o’r gyfraith yn y rhyngweithiad hyn.

Mae’r cyd destun o argyfwng, a’r modd y llwyddodd neu y methodd cymdeithas wledig ddygymod ag argyfyngau, yn benodol newynau ac epidemigau yr Oesoedd Canol uchel a diweddar, ac yn enwedig, wrth gwrs, y Newyn Mawr ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg, y Pla Du, ac hefyd yr epidemigau salwch yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau’r bymthegfed ganrif.

Mae’r Athro Schofield yn gyd-olygydd yr Economic History Review, un o brif gyfnodolion hanes y byd; efe hefyd yw’r pennaf ymchwilydd ar brosiect presennol yr AHRC ar “Seliau yn Nghymru’r Oesoedd Canol”.

Mae ganddo law mewn llawer o gydweithrediadau rhyngwladol, gan gynnwys ymchwil ar farchnadoedd tir, argyfyngau credid ac economeg, gyda chydweithwyr mewn sawl cyd destun Ewropeaidd gwahanol.

Adran Hanes a Hanes Cymru
Mae Hanes wedi cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu’r Brifysgol yn 1872. Mae diddordebau ymchwil staff yr Adran yn ymestyn ar draws ystod cronolegol a daearyddol cyflawn o gyfnod y Rhufeiniaid i bynciau gwleidyddol cyfoes, ac o Gymru a Phrydain i America, Ffrainc, a Rwsia. Bu haneswyr megis Richard Cobb, R.R. Davies, Gwynne Lewis, R.F. Treharne a Gwyn Alf Williams yn arloesi yn Aberystwyth drwy eu diddordebau mewn hanes cymharol, ‘hanes oddi isod’, a sefydlu’r wladwriaeth ym Mhrydain a Ffrainc. Mae cenhedlaeth newydd o haneswyr bellach yn ychwanegu at ddiddordebau ymchwil yr adran mewn meysydd megis hanes a’r cyfryngau, diwylliant gwleidyddol, Iddewon yn y byd Saesneg ei iaith, gwerinwyr yn y byd canoloesol, chwaraeon, hanes merched a’r rhywiau, hanesyddiaeth ac addasu technegau cyfrifiadurol ar gyfer astudio’r gorffennol.

Yr Ymddiriedolaeth Leverhulme
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Leverhulme yn 1925 fel rhan o Ewyllys Is-iarll cyntaf Leverhulme. Dyma un o’r darparwyr mwyaf o gyllid ymchwil ar gyfer pob maes ym Mhrydain ac mae’n dosrannu o ddeutu £60 miliwn yn flynyddol. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau sydd yn cael eu cyllido gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ewch i’r wefan www.leverhulme.ac.uk  
www.twitter.com/LeverhulmeTrust.

AU0612