Canolfan Ymchwil Newydd BEACON

Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS (Chwith) a John Griffiths AC.

Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS (Chwith) a John Griffiths AC.

08 Mawrth 2012

Heddiw, fe ymwelodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, â chyfleuster newydd a fydd yn cydweithio â chwmnïau lleol i ddatblygu technolegau a chyfleoedd busnes gwyrdd. Mae canolfan menter BEACON, y gyntaf o’i math yng Nghymru, ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd yn helpu busnesau Cymru i ddatblygu ffyrdd newydd o droi cnydau megis rhygwellt, ceirch a miscanthus (hesg eliffant) yn gynnyrch fferyllol, cemegol, tanwydd a chosmetig.

Mae gan gyfleuster Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth offer sylweddol sy’n gallu defnyddio ymchwil labordy i greu cyfleoedd diwydiannol gwirioneddol.

Caiff gwaith BEACON ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â phartneriaid ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe. Mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi rhoi £10.6 miliwn ato drwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd:

“Roeddwn i’n falch o gael y cyfle i weld y cyfleuster cyntaf hwn o’i fath yng Nghymru. Mae’n gyfle gwych i gwmnïau Cymru gydweithio â phrifysgolion i ddatblygu cyfleoedd busnes gwyrdd. Dw i’n edrych ymlaen at glywed sut mae’r cyfleuster yn datblygu a pha gynnyrch gaiff ei lansio ar farchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol yn sgil y fenter arloesol yma.”
Cafodd Gweinidog yr Amgylchedd gyfle unigryw i weld y cyfleusterau, sydd i fod i gael eu lansio yn nes ymlaen y mis hwn. Aeth Mr Griffiths ar daith o’r safle adeiladu a chyfarfu ag Aber Instruments, cwmni lleol sy’n gweithio gyda thîm BEACON."

Dywedodd Jeff Davies, Prif Weithredwr Aber Instruments:

“Cwmni biodechnoleg yw Aber Instruments sydd â marchnad fyd-eang, ac mae’r cwmni yn ystyried y gwaith mae’n ei wneud gyda BEACON yn rhywbeth gwych er mwyn ehangu yn y dyfodol. Mae’r cysylltiadau ag un o brif sefydliadau ymchwil y DU wedi’u cryfhau yn sgil cyhoeddi astudiaethau sydd wedi cael effaith fawr. Mae’r cydweithredu wedi ei gwneud yn bosibl i Aber Instruments ymchwilio i botensial newydd yn y farchnad ac ennill eu plwyf ym maes newydd biodanwydd a biogynnyrch. Yn gyffredinol, mae hwn yn gyfle cyffrous i ymchwilio i farchnadoedd newydd a chynyddu gallu biodechnoleg graidd AI.”

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS:

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cael arwain y bartneriaeth hon a allai ddod â manteision amaethyddol a diwydiannol ledled Cymru a thu hwnt. Mae’r cyfleuster newydd yn ddatblygiad pwysig yma yng Ngogerddan ac rydyn ni’n gobeithio denu mwy o gwmnïau i weithio gyda ni fel y gall ymchwil BEACON droi’n fantais ymarferol i fusnesau. Drwy gydweithio a chymwyso arbenigedd ein tair prifysgol, fe allwn ni wneud cyfraniad mawr yn yr ymdrech i ddod o hyd i adnoddau gwahanol i olew ac ymateb i her fyd-eang aruthrol.”

AU6012