Darlithoedd Cyhoeddus

04 Mai 2012

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu dwy ddarlith gyhoeddus fawr ar yr 8fed a’r 9fed o Fai, 2012.

Ar ddydd Mawrth yr 8fed o Fai, bydd yr Athro Gruffydd Aled Williams, cyn Athro Cymraeg a chyn Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn traddodi darlith flynyddol Prifysgol Cymru, Darlith O’Donnell.

Mae’r Athro Williams wedi cyhoeddi’n helaeth ym maes astudiaethau llenyddiaeth y Gymraeg, ac y mae’n arbenigwr mewn Barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a Llenyddiaeth y Dadeni yng Nghymru.

Cynhelir y ddarlith, sy’n dwyn y teitl ‘Dwy lenyddiaeth, dau fyd: diwylliant yn un o dai bonedd Cymreig y Dadeni’, ym Medrus 3 yn Neuadd Penbryn ar Gampws Penglais am 6yh ar ddydd Mawrth yr 8fed o Fai.

Croeso i bawb i fynychu’r ddarlith.

Ar ddydd Mercher, y 9fed o Fai, bydd yr Athro Steven King o Brifysgol Caerlyr yn traddodi darlith sy’n seiliedig ar y prosiect ymchwil cyfredol a ariennir gan y Wellcome Trust y mae prifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Northumbria a Strathclyde yn ymgymryd ag ef ar y cyd.

Amcan y prosiect yw deall beth oedd profiadau pobl anabl oedd yn byw o gwmpas y meysydd glo Prydeinig yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Cynhelir y ddarlith, sy’n dwyn y teitl ‘“We must be rid of these waste people”: The experiences of the disabled poor in the industrial districts of England and Wales 1790s to 1920s’, yn Ystafell C22 yn Adeilad Hugh Owen am 5yh ar ddydd Mercher y 9fed o Fai.

Unwaith eto, y mae croeso i bawb fynychu’r ddarlith.

Felly beth am ddod i un, neu’r ddwy, o’r darlithoedd gwych rhain ym Mhrifysgol Aberystwyth wythnos nesaf?